Diweddariad am y lyfrothen uwchsafn ym Mharc Dŵr y Sandy
Mae’r rhaglen i gael gwared ar y llyfrothen uwchsafn, sy’n rhywogaeth estron oresgynnol, o lyn Parc Dŵr y Sandy yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin, wedi’i hatal.
Wrth gynnal archwiliadau terfynol cyn ychwanegu'r cemegyn Rotenone i’r llyn, digwyddodd problem gyda llifddor a effeithiodd yn uniongyrchol ar y gallu i ddal dŵr yn ddiogel yn y llyn.
Er i bob cam posib gael ei gymryd i atal y gollyngiad, nid ydym wedi gallu gwneud hynny'n llwyddiannus o fewn amserlen y rhaglen.
Byddai defnyddio Rotenone heb sicrwydd y gellir cyfyngu'r dŵr yn cyflwyno gormod o risg i'r amgylchedd ehangach. Mae CNC ac Asiantaeth yr Amgylchedd wedi gwneud y penderfyniad anodd i roi’r gorau i’r gwaith ar hyn o bryd.
Bydd y gwaith o fonitro'r safle ar gyfer llyfrothod uwchsafn yn parhau tra byddwn yn ystyried opsiynau eraill i gael gwared arnynt o Barc Dŵr y Sandy yn y dyfodol.
Dywedodd Martyn Evans, Pennaeth Gweithrediadau’r De-orllewin gyda CNC:
“Mae hwn wedi bod yn benderfyniad anodd i’w wneud, ond dyma’r penderfyniad cywir.
“Mae CNC ac Asiantaeth yr Amgylchedd wedi gweithio’n galed iawn i geisio atal dŵr rhag dianc o’r llyn, ond nid ydym wedi gallu datrys y broblem o fewn amserlen y rhaglen hon.
“Er bod hyn yn siomedig, rydym yn falch bod tua hanner y llyswennod a’r pysgod mawr iach o'r llyn wedi cael eu hachub ac y byddant yn gallu ffynnu yn eu cartref newydd heb lyfrothod uwchsafn.
“Hoffwn ddiolch i’r gymuned leol, pysgotwyr, ein partneriaid Asiantaeth yr Amgylchedd, Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin am eu cefnogaeth drwy gydol y gwaith a wnaed hyd yma.
“Byddwn nawr yn trafod gyda phartneriaid sut a phryd y gallwn ailgydio yn y gwaith hwn.”