Diwrnod Afonydd y Byd 2025: rhoi adfer afonydd ar waith

Llun drôn o dynnu cored Erbistock

Bydd hi’n Ddiwrnod Afonydd y Byd ddydd Sul 28 Medi. Mae hwn yn ddigwyddiad byd-eang sy’n dathlu afonydd ar hyd a lled y byd a’r rôl hanfodol maen nhw’n ei chwarae yn cynnal ecosystemau, bywyd gwyllt a chymunedau.

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae Prosiect LIFE Afon Dyfrdwy a Phrosiect Pedair Afon LIFE Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), y ddau yn brosiectau LIFE gwerth miliynau o bunnoedd, wedi bod yn adfer afonydd yng ngogledd a de Cymru.

Mae afon Dyfrdwy yng ngogledd Cymru, ac afonydd Teifi, Tywi, Cleddau ac Wysg yn ne Cymru, mewn cyflwr gwael ar hyn o bryd o ganlyniad i amryw fathau o bwysau, er enghraifft newid hinsawdd, dirywiad cynefinoedd, rhwystrau i bysgod sy’n mudo, ansawdd dŵr gwael a rhywogaethau goresgynnol.

Mae’r ddau brosiect wedi bod yn gweithio’n galed i warchod a gwella cyflwr yr afonydd hyn, ac mae arwyddion cadarnhaol eu bod yn adfer i’w gweld eisoes. Gan ddefnyddio amrywiaeth o ddatrysiadau maen nhw’n gobeithio adfer yr ecosystemau bregus hyn ac felly gwella ansawdd y dŵr a bioamrywiaeth a chryfhau gwydnwch yn wyneb newid hinsawdd.

Hyd yn hyn, mae prosiect LIFE Afon Dyfrdwy wedi gweithio gyda ffermwyr i osod 26 milltir (42 km) o ffensys i greu coridorau ffyniannus ar hyd y glannau, ble mae 20,000 o goed wedi’u plannu. Yn ogystal, mae’r prosiect wedi gwella cynefinoedd o fewn yr afon drwy gyflwyno 3,090 tunnell o glogfeini a 5,330 tunnell o raean, a hefyd wedi tynnu neu addasu 10 rhwystr er mwyn gwella mudiad pysgod.

Mae prosiect Pedair Afon LIFE wedi gweithio gyda ffermwyr i osod 25 milltir (40 km) o ffensys ac wedi plannu tua 37,000 o goed brodorol drwy gefnogaeth Coed Cadw. Mae dros 5,000 metr o rywogaethau estron goresgynnol, er enghraifft Jac y neidiwr, wedi cael eu tynnu o afonydd Teifi, Tywi a Chleddau gyda chefnogaeth contractwyr ac Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru.

Mae’r prosiect hefyd wedi gwella wyth rhwystr i bysgod mudol, gyda saith rhwystr arall i gael sylw eleni ac yn 2026. Mae’r prosiect hefyd wedi gwella prosesau afonol a chynefinoedd o fewn sianeli mewn nifer o rannau o’r afonydd trwy gyflwyno darnau mawr o bren a chlogfeini.

Dywedodd Nick Thomas, Rheolwr Prosiectau Strategol Cyfoeth Naturiol Cymru: “Wedi’n calonogi gan y cynnydd a wnaed ar y prosiectau LIFE, yn 2024 lansiodd CNC Brosiect Gwy Uchaf. Nod y prosiect yw adfer iechyd rhannau uchaf Afon Gwy, ac yn ei flwyddyn gyntaf mae wedi mynd i’r afael â rhywogaethau goresgynnol, wedi gosod ffensys ar dir fferm ac wedi plannu 2,000 o goed brodorol.”

Bydd gwella cynefinoedd yr afonydd drwy gyflwyno clogfeini, graean a phren yn ailnaturioli’r afonydd ac yn creu amgylchedd glân sydd â digon o ocsigen i bysgod silio, a digon o loches i bysgod mudol, fel eog, llysywod pendoll y môr a’r afon, pennau lletwad a gwangod.

Bydd gweithio gyda ffermwyr i osod ffensys a gwella arferion amaethyddol ar y tir yn helpu i amddiffyn y coridorau afonol hanfodol hyn, gan leihau faint o waddodion a maethynnau sy’n mynd i mewn i’r cwrs dŵr, a fydd yn golygu gwell ansawdd dŵr.

Gall plannu coed wrth ymyl afonydd helpu i wneud ein hafonydd yn fwy gwydn yn wyneb newid hinsawdd drwy ddarparu cysgod ac oeri’r dŵr ar gyfer y bywyd gwyllt pwysig.

Mae rheoli effaith rhywogaethau estron goresgynnol ar hyd glannau ein hafonydd yn bwysig, gan fod rhywogaethau fel Jac y Neidiwr yn goruchafu ar lystyfiant brodorol a phan mae’n marw yn y gaeaf mae’n gadael glannau afonydd yn foel ac yn agored i erydiad.

Mae afon Dyfrdwy yng ngogledd Cymru, afonydd Teifi, Tywi, Cleddau ac Wysg, a Gwy Uchaf oll wedi’u dosbarthu’n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA), sy’n golygu eu bod o bwys rhyngwladol sylweddol o ran y bywyd gwyllt a’r planhigion y maent yn gartref iddynt, er enghraifft eogiaid, llysywod pendoll, gwangod a herlod, dyfrgwn a chrafanc-y-frân y dŵr.

Mae ecosystemau dŵr croyw yn dirywio’n gyflym – maent wedi gostwng 85% ar gyfartaledd ers 1970 yn ôl Adroddiad Planed Fyw 2024, sy’n ffigur brawychus. Mae prosiect LIFE Afon Dyfrdwy, prosiect Pedair Afon LIFE a phrosiect Gwy Uchaf yn brwydro i sicrhau y bydd yr afonydd unigryw hyn yng Nghymru a’r ecosystemau maen nhw’n eu cynnal yno i’w mwynhau am genedlaethau i ddod.

Mae prosiect LIFE Afon Dyfrdwy a phrosiect Pedair Afon LIFE wedi’u hariannu gan Raglen LIFE yr UE gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, tra bod Prosiect Gwy Uchaf wedi’i ariannu’n llwyr gan Lywodraeth Cymru.

Gallwch ddysgu mwy am Ddiwrnod Afonydd y Byd yma.