Diweddariad Ymchwiliad Safle Tirlenwi Withyhedge - 16 Chwefror 2024

Yn gyntaf, hoffem ymddiheuro am yr amser a gymerodd i ddarparu'r diweddariad hwn ar Safle Tirlenwi Withyhedge a'n camau rheoleiddio. Mae'r sefyllfa wedi bod yn un ddeinamig, ac rydym wedi bod eisiau sicrhau bod ein diweddariadau yn cyd-fynd â digwyddiadau allweddol sy'n gysylltiedig â datrys problemau’r arogleuon sy'n gysylltiedig â'r safle tirlenwi.

Rai wythnosau yn ôl, cyflwynodd gweithredwr safle Tirlenwi Withyhedge (Resources Management Ltd, “RML”) gynnig i CNC ar gyfer gosod y peirianwaith angenrheidiol ar y safle i atal, rheoli a chasglu nwy tirlenwi ar ardal o wastraff heb ei chapio. Datblygwyd y cynnig i leihau arogleuon cyn gynted ag oedd yn bosibl, mewn ymateb i geisiadau i flaenoriaethu hyn gan sefydliadau eraill a chynrychiolwyr cyhoeddus. Fodd bynnag, byddai hyn wedi golygu na fyddai'r safle'n cydymffurfio â'i drwydded. 

Buom wrthi’n adolygu’r cynnig yn drylwyr, gyda’r un awydd i leihau allyriadau ac arogleuon ffo yn y cymunedau cyfagos cyn gynted ag oedd yn bosibl. Roedd y cynnig yn cynnwys llawer o elfennau anhysbys a phroblemau posibl ar gyfer y dyfodol, ac ar ôl pwyso a mesur, roeddem o'r farn bod y risgiau tymor canolig a hwy yn bwysicach na’r manteision tymor byr o leihau aroglau yn gyflymach.

Rydym yn cydnabod y bydd hon yn neges anodd i'r rhai y mae’r arogl yn cael effaith andwyol arnynt. Rydym hefyd yn deall y gallai trydydd partïon fod wedi gwneud ymrwymiadau i’r gymuned, gan roi dyddiadau diwedd mis Chwefror/dechrau mis Mawrth. Roedd y rhain yn seiliedig ar gynnig RML a amlinellwyd yn benodol gan CNC, a oedd yn dal i gael ei adolygu ar y pryd.

Rydym wedi bod yn ofalus rhag darparu amserlenni o ran gweld gostyngiad yn yr arogleuon sy’n dod o’r safle oherwydd y cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â’r penderfyniadau y bu’n rhaid inni eu gwneud.

Yr wythnos hon rydym wedi cyflwyno Hysbysiad Gorfodi i RML yn amlinellu'n glir y camau sy’n ofynnol iddynt eu cyflawni i sicrhau eu bod yn cydymffurfio unwaith eto ac yn cwblhau'r gwaith peirianneg ar y safle tirlenwi i atal a chasglu nwy tirlenwi. Yn seiliedig ar ein dealltwriaeth bresennol o brif ffynhonnell yr arogleuon, dylai’r mater gael ei ddatrys erbyn terfyn amser yr hysbysiad, sef 5 Ebrill 2024.

Fodd bynnag, mae gwaith ar y safle yn mynd rhagddo bob dydd, ac rydym yn rhagweld gostyngiadau amlwg mewn allyriadau nwyon tirlenwi ac arogleuon dros yr wythnosau nesaf. Nid yw’r gwaith a wnaed gan RML o dan eu cynnig wedi oedi na chymhlethu’r gofynion a osodwyd arnynt gan CNC.

Mae'r hysbysiad a gyflwynir yr wythnos hon yn gysylltiedig ag ymchwiliadau parhaus i achosion o ddiffyg cydymffurfio â thrwyddedau ac felly ni allwn sicrhau bod hwn ar gael i'r cyhoedd ar hyn o bryd.

Fel rhan o'r gwaith sy'n ofynnol gan yr hysbysiad, mae gwastraff o ben yr ardal sydd i'w chapio yn cael ei adleoli i Gell 8, sef rhan weithredol bresennol y safle tirlenwi. Rydym yn ymwybodol bod y gweithgaredd hwn i’w weld yn amlwg iawn o'r cymunedau cyfagos ac rydym wedi derbyn adroddiadau o 'fwg gwyn' wrth i’r gwaith hwn aflonyddu ar y gwastraff. Ymwelodd swyddogion CNC â’r safle yr wythnos diwethaf ac arolygwyd y rhan hon o'r safle tirlenwi. Credwn mai anwedd dŵr yw’r allyriadau sydd i’w gweld, a achosir wrth i’r gwastraff sylfaenol ddechrau dadfeilio a chynhyrchu gwres fel rhan o’r broses.

Roedd ein harolygiad yr wythnos diwethaf hefyd yn canolbwyntio ar Gell 8, yn dilyn adroddiadau diweddar mai arogl gwastraff oedd hwn, yn hytrach nag arogl nwy tirlenwi. Ni chanfuwyd arogleuon gwastraff a oedd yn deillio’n benodol o Gell 8. I gyfeiriad y gwynt o'r ardal i'w chapio nodwyd arogl gwastraff gwan ar y safle tirlenwi, ac mewn un lleoliad oddi ar y safle. Canfuwyd arogl cryf nwy tirlenwi oddi ar y safle hefyd. Byddwn yn parhau i fonitro'r ddau fath o arogl yn y cymunedau cyfagos.

Rydym yn deall y gallai pobl deimlo fod y camau gweithredu yn gyfyngedig mewn ymateb i achosion o arogleuon a adroddwyd i ni. Mae pob adroddiad, pa un ai yw'n cael ei wneud dros y ffôn, ar y ffurflen adrodd ar-lein generig, neu'r ffurflen adrodd benodol ar gyfer Safle Tirlenwi Withyhedge, yn cael eu cofnodi ar ein System Gofnodi Digwyddiadau Cymru (WIRS). Mae gan bob adroddiad gyfeirnod unigryw a chaiff ei anfon ymlaen at y tîm rheoleiddio.

Ar adeg pan ydym yn disgwyl gweld gwaith ar y safle tirlenwi yn dechrau arwain at leihad mewn allyriadau nwyon tirlenwi ffo ac arogleuon, bydd yr adroddiadau hyn yn arbennig o bwysig.  Byddant yn ein helpu i asesu effeithiolrwydd y gweithgaredd ar y safle, a hefyd i asesu a oes ffynonellau arogleuon eraill. Felly, gofynnwn i chi barhau i roi gwybod inni am achosion o arogleuon o'r safle tirlenwi trwy ddefnyddio'r ffurflen bwrpasol hon: Rhoi gwybod am arogl yn Safle Tirlenwi Withyhedge, Sir Benfro - Cyfoeth Naturiol Cymru Citizen Space - Citizen Space (cyfoethnaturiol.cymru)