Cimychiaid afon crafanc wen wedi'u rhyddhau i 'safle arch' yng Nghanolbarth Cymru i helpu i achub rhywogaeth sydd mewn perygl

Cimychiaid afon crafanc

Mae'r cyntaf o ddau grŵp o gimychiaid afon crafanc wen sydd mewn perygl wedi cael eu rhyddhau i Safle Arch a ddewiswyd yn ofalus yng nghanolbarth Cymru fel rhan o ymdrech gadwraeth ledled Cymru i achub y rhywogaeth rhag difodiant.

Rhyddhawyd y cimychiaid yr afon yr wythnos hon yn Afon Cledan, dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gyda chefnogaeth gan Ymddiriedolaeth Afonydd Hafren, Prifysgol Aberystwyth a phartneriaid lleol. Roedd y cimychiaid yr afon ifanc wedi’u magu am ddwy flynedd yn Neorfa Cynrig , sy’n perthyn i CNC, a chawsant eu cyflwyno i'r safle newydd o dan fesurau bioddiogelwch llym.

Cimychiaid afon crafanc wen yw'r unig gimychiaid yr afon dŵr croyw brodorol yn y DU ac maent wedi bod yn prinhau’n arw ers degawdau oherwydd cimychiaid yr afon goresgynnol estron, pla cimychiaid yr afon, llygredd a cholli cynefinoedd. Ers y 1970au, mae llawer o boblogaethau yng Nghymru wedi diflannu.

Mae Safleoedd Arch yn hafanau diogel a ddewiswyd yn arbennig lle gellir ailsefydlu poblogaethau a'u hamddiffyn rhag bygythiadau. Mae magu cimychiaid yr afon yn Neorfa Cynrig wedi cynyddu cyfraddau goroesi i tua 90% o’i gymharu â llai na 10% yn y gwyllt, ac mae mwy na 7,000 o gimychiaid yr afon ifanc eisoes wedi'u cynhyrchu i'w rhyddhau.

Dywedodd Oli Brown, Swyddog Dyframaethu CNC:

“Mae hwn yn gam pwysig wrth sicrhau dyfodol cimychiaid afon crafanc wen yng Nghymru. Drwy greu Safleoedd Arch, gallwn roi’r cyfle gorau posibl i boblogaethau newydd oroesi a ffynnu, gan ddiogelu’r rhywogaeth hon am genedlaethau i ddod.”

Cefnogwyd y broses yn Afon Cledan gan y tirfeddiannwr lleol Sam Griffiths o Fferm Moel Ddolwen, a ymunodd ynghyd â'i dair merch i gyflwyno rhai o'r cimychiaid yr afon ar ôl yr ysgol. Mae eu cyfranogiad yn tynnu sylw at bwysigrwydd trosglwyddo’r rôl o warchod natur i genedlaethau'r dyfodol.

Ochr yn ochr â rhyddhau cimychiaid yr afon, mae Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ymddiriedolaeth Afonydd Hafren wedi bod yn gweithio gyda ffermwyr lleol ar Afon Cledan ac Afon Gam gerllaw trwy gronfa flynyddol sydd gan CNC sy'n ymroddedig i adfer cynefinoedd pysgodfeydd yn nalgylch Banwy.

Mae'r rhaglen hon yn cefnogi eogiaid a brithyllod drwy ffensio glannau afonydd i leihau mynediad i dda byw, plannu coed i oeri coridorau afonydd a chreu cynefinoedd newydd i bysgod. Lle mae mynediad wedi'i wahardd, mae pympiau sy'n cael eu pweru gan yr haul yn darparu dŵr yfed amgen i dda byw. Gyda'i gilydd, mae'r camau gweithredu hyn yn gwella ansawdd dŵr, yn hybu cynefinoedd ac yn helpu i greu afonydd iachach ar gyfer pysgod, cimychiaid yr afon a mathau eraill o fywyd gwyllt.

Dywedodd Dewi Morris, Swyddog Adfer Afonydd yn Ymddiriedolaeth Afonydd Hafren:

 “Mae cimychiaid afon crafanc wen yn rhan hanfodol o afonydd iach, gan chwarae rhan bwysig yng ngwe fwyd dŵr croyw. Mae'r prosiect hwn yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd cymunedau, tirfeddianwyr a sefydliadau yn cydweithio. Rydym wrth ein bodd o fod yn rhan o'r ymdrech genedlaethol hon i roi cyfle i'r rhywogaeth ffynnu.”

Mae Ymddiriedolaeth Afonydd Hafren hefyd wedi gweithio'n agos gydag Ysgol Gynradd Cwm Banwy ar brosiectau afonydd yn amrywio o lanhau i Ddiwrnod Rhyngwladol Ymfudiad Pysgod. Er y bydd union leoliad y Safle Arch yn parhau'n gyfrinachol er mwyn amddiffyn y cimychiaid yr afon, mae'r ymddiriedolaeth yn gwybod y bydd disgyblion a'r gymuned leol yn falch o glywed am ddychweliad y cimychiaid yr afon.

Mae'r partneriaid sy'n rhan o'r prosiect yn cynnwys CNC, Ymddiriedolaeth Afonydd Hafren, Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn, Prifysgol Aberystwyth a Glandŵr Cymru.

Yn 2021, fe wnaeth astudiaeth bwysig a ariannwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac a arweiniwyd gan Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn gychwyn menter gadwraeth gydweithredol i warchod cimychiaid afon crafanc wen brodorol yng ngogledd Powys.

Fel rhan o'r astudiaeth, sefydlwyd gweithgor gyda CNC, Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn, Ymddiriedolaeth Afonydd Hafren, Glandŵr Cymru, Prosiect WAREN Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru a Phrifysgol Aberystwyth i yrru camau monitro, ymchwil, a chamau adfer ar lawr gwlad yn eu blaenau. Penllanw’r gwaith hwnnw yw rhyddhau’r cimychiaid yr afon yr wythnos hon.

Mae CNC yn arwain y rhaglen Safleoedd Arch genedlaethol ac yn parhau i weithio gyda phartneriaid i adfer a monitro afonydd ledled Cymru. Gall aelodau’r cyhoedd gefnogi drwy ddilyn camau bioddiogelwch syml fel Edrych, Golchi, Sychu wrth ddefnyddio afonydd a nentydd, gan helpu i atal lledaeniad rhywogaethau goresgynnol a chlefydau.

Os gwelwch chi gimwch afon, gallwch ei gofnodi drwy dynnu llun a lanlwytho'r wybodaeth i Home | iRecord.

Ceisiwch osgoi tarfu ar gimychiaid afon crafanc wen, gan ei bod yn anghyfreithlon gwneud hynny heb drwydded.

Os gwelwch gimychiaid yr afon marw, gallwch roi gwybod am hyn ynghyd â'r lleoliad i linell gyfathrebu digwyddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru ar 0300 065 3000 neu drwy ddefnyddio'r ffurflen adrodd ar-lein Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhoi gwybod am ddigwyddiad.