Gwirfoddolwr o Gymru yn cael gwobr am fesur glawiad am 75 mlynedd

Mae gwirfoddolwr sydd wedi bod yn mesur glawiad yn yr un lleoliad ar Ynys Môn dros y 75 mlynedd diwethaf wedi cael ei gydnabod gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a'r Swyddfa Dywydd.

Mae Mr Tom Bown, sy'n 85 oed, wedi bod yn mesur glawiad yng Ngorsaf Hinsawdd Llwydiarth yr Esgob yn Llannerchymedd am 9:00am bob bore ers 1958. Derbyniodd Mr Bown wydryn tywydd mawr a phlac i ddathlu’r cyfnod hwn o 75 mlynedd.

Mae'n cofnodi dyddodiad dyddiol mewn Mesurydd Glaw Casella. Mae'r dŵr o'r botel wydr sy'n cael ei storio yn y mesurydd yn cael ei dywallt i'r silindr mesur 10mm sydd wedi'i raddnodi ac yna'n cael ei gofnodi fel dyddodiad cyfan y diwrnod blaenorol.

Mae dyddodiad yn cael ei fesur at ddibenion amrywiol a phwysig ledled y DU gan wahanol awdurdodau monitro ac arsylwyr preifat. Mae'r rhain yn cynnwys dadansoddi tueddiadau, dadansoddi digwyddiadau dyddodiad, cyfrifiadau cydbwysedd dŵr, dŵr ffo posibl, rhagweld llif afonydd, gwasanaethau rhybuddio llifogydd a rheoleiddio afonydd.

Mae cofnodion tywydd manwl wedi bod yn cael eu cadw ers canrifoedd. Ym 1854 sefydlwyd y Swyddfa Dywydd, sef swyddfa feteorolegol genedlaethol y DU dan arweiniad y Capten Robert Fitzroy ar gyfer y Bwrdd Masnach.  Mae gorsaf hinsawdd Llwydiarth yr Esgob wedi bod yn darparu cyfansymiau glawiad dyddiol ers 1908.

Meddai Clare Pillman, Prif Weithredwr CNC:

"Mae cymryd cofnodion bob dydd am dros 75 mlynedd yn gyflawniad rhyfeddol ac rydym yn hynod ddiolchgar. Mae arsyllwyr da a dibynadwy fel Mr Bown yn chwarae rhan bwysig iawn o’r gwaith o astudio'r hinsawdd yn y DU.
Dim ond drwy wneud gwaith monitro mor gynhwysfawr y gallwn lunio cofnodion hirdymor cywir o’r hyn sy’n digwydd i’r hinsawdd. Mae ymdrechion Mr Bown yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr o fewn y gymuned wyddonol ac mae'r data y mae wedi'i ddarparu yn bwysig ar gyfer y gwaith gwyddonol a wneir a'n harchifau hydrometrig.
"Hoffwn ddiolch i Mr Bown am ei ymroddiad dros y blynyddoedd a'i longyfarch am ei wasanaeth."

Meddai Stuart Herridge, y Swyddfa Dywydd:

"Mae'r Swyddfa Dywydd, CNC a chyrff gwyddonol eraill yn dibynnu ar ddata o ansawdd i wneud llawer o'u gwaith. Rydym yn dibynnu ar arsyllwyr gwirfoddol dibynadwy i gasglu rhywfaint o'r data hwn. Mae cofnodi gwerth dros ganrif o ddata ar un safle yn rhywbeth prin a gwerthfawr. Fodd bynnag, mae'r ffaith mai un person sydd wedi bod yn gwneud y darlleniadau am 75 o'r blynyddoedd hyn yn rhyfeddol."
"Rydym yn hynod ddiolchgar i Mr Bown am ei ymroddiad a'i waith caled. Mae'r gymuned wyddonol mewn gwell sefyllfa diolch i'r gwaith a wneir gan wirfoddolwyr mor ymroddedig."

Er mwyn cael gwybod mwy am gyfleoedd gwirfoddoli yn CNC, ewch i'n Tudalen Lleoliadau.