Mae Wythnos Natur Cymru yn ôl – cannoedd o gyfleoedd ar garreg eich drws

Mae Wythnos Natur Cymru yn ôl ym mis Gorffennaf (4–12 Gorffennaf), a bydd cymunedau ledled Cymru yn dod at ei gilydd i ddathlu ac archwilio byd natur. Boed yn deithiau cerdded bywyd gwyllt a gwyliau i’r teulu, neu’n weithdai creadigol a gweithgareddau cadwraeth, bydd cannoedd o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ledled y wlad.

Mae thema eleni, Yn Eich Cynefin, yn dathlu bywyd gwyllt, mannau gwyrdd, a byd natur bob dydd y gellir eu canfod ledled Cymru – boed yn barciau yn y ddinas ac iardiau ysgolion neu’n arfordiroedd, gerddi, a mannau cymunedol.

Mae mwy na 80 o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ledled Cymru yn ystod yr wythnos. Mae’r uchafbwyntiau yn cynnwys Gŵyl Natur Caerdydd ym Mharc Bute, Diwrnod Natur ym Mharc Eirias ym Mae Colwyn, a Gŵyl Natur Ceredigion yn Aberystwyth, ochr yn ochr â dwsinau o ddigwyddiadau eraill sy’n digwydd ledled y wlad.

Gall pobl gymryd rhan drwy fynd i ddigwyddiad lleol, archwilio byd natur yn agos at gartref, neu dreulio amser yn sylwi ar y bywyd gwyllt a’r mannau gwyrdd o’u cwmpas. Mae rhestr lawn o ddigwyddiadau i’w gweld ar wefan Wythnos Natur Cymru.

Dywedodd Prys Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol, Strategaeth, Polisi a Thystiolaeth, Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae Wythnos Natur Cymru yn gyfle gwych i bobl o bob oed gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth i fyd natur.
"Rydyn ni’n annog pawb i edrych yn agosach ar yr holl natur o’u hamgylch, ac i gymryd camau syml ac ymarferol i’w helpu i ffynnu. Boed hynny wrth greu lle i fywyd gwyllt gartref, wrth gymryd rhan mewn prosiectau lleol, neu wrth gefnogi gwaith cadwraeth, mae pob gweithred yn cyfrif ac yn arwain at newid go iawn.
“Rydyn ni’n wynebu argyfwng o ran natur a’r hinsawdd, ac mae’n fwy clir nag erioed bod angen gweithredu. Mae ecosystemau iach yn sail i'n bwyd, i’n hiechyd ac i’n heconomi - ac mae arnyn nhw angen ein cefnogaeth ni i ffynnu. Mae Wythnos Natur Cymru yn gyfle i bob un ohonom ni wneud ein rhan.”

Rhestr o’r digwyddiadau

Cadwch lygad am ddigwyddiadau â seren – dyma rai o’r uchafbwyntiau allweddol sy’n digwydd ledled Cymru yn ystod Wythnos Natur Cymru.

Gogledd Cymru

Diwrnod Natur – Natur ar Garreg eich Drws (digwyddiad am ddim)

Parc Eirias, Bae Colwyn, LL29 7SP

04 Gorffennaf

11am–3pm

Gall teuluoedd fwynhau diwrnod o weithgareddau, gweithdai, a stondinau rhyngweithiol â’r thema byd natur, gan ddathlu bywyd gwyllt lleol a mannau gwyrdd. Bydd y digwyddiad hefyd yn arddangos sefydliadau sy’n helpu pobl i gysylltu â byd natur ledled Conwy.

Am ragor o wybodaeth: https://www.biodiversitywales.org.uk/en/event-detail/nature-day--nature-on-your-doorstep-eirias-park/

Diwrnod Cofnodi yng Nghastell Gwydir (am ddim)

Castell Gwydir, Conwy, LL26 0PN

04 Gorffennaf

10am–4pm

Gwahoddir selogion byd natur i archwilio a chofnodi bywyd gwyllt ar draws gerddi a dolydd Castell Gwydir, sydd â chyfoeth o rywogaethau. Mae’r diwrnod yn cynnig cyfle prin i arolygu safle nad yw wedi ei gofnodi’n ddigonol ond yn llawn bioamrywiaeth.

Am ragor o wybodaeth: https://www.biodiversitywales.org.uk/en/event-detail/gwydir-castle-recorders-day/

Natur ar Badlfwrdd (bydd angen tocyn)

Llyn Celyn, Bala, LL23 7NY

04 Gorffennaf

10am–12.30pm

Gall cyfranogwyr fwynhau harddwch Llyn Celyn o safbwynt gwahanol yn ystod y sesiwn padlfyrddio dan arweiniad hon. Mae’r gweithgaredd hamddenol hwn yn cyfuno amser ar y dŵr â chyfleoedd i bwyllo a chysylltu â byd natur.

Am ragor o wybodaeth: https://www.biodiversitywales.org.uk/en/event-detail/nature-on-a-paddleboard/

Taith Gerdded Hygyrch a Stori (codir tâl)

Betws-y-coed, LL24 0BB

05 Gorffennaf

1pm–3pm

Bydd y storïwr a’r awdur Fiona Collins yn tywys taith gerdded hamddenol a hygyrch yn rhannu llên gwerin o Ddyffryn Conwy. Mae’r digwyddiad yn cyfuno straeon, byd natur, a sgwrsio yng nghyffiniau prydferth Betws-y-Coed.

Am ragor o wybodaeth: https://www.biodiversitywales.org.uk/en/event-detail/accessible-story-walk/

Cyfrinachau Cwm Idwal (codir tâl – angen cadw lle)

Bethesda, LL57 3AD

07 Gorffennaf

10am–3.30pm

Gall cyfranogwyr archwilio hanes a threftadaeth naturiol ddiddorol Cwm Idwal ar y daith gerdded dywys hamddenol hon. Mae’r diwrnod yn cyfuno daeareg, bywyd gwyllt, enwau lleoedd Cymru, mytholeg, a straeon am y tirwedd yn un o leoliadau mwyaf eiconig Cymru.

Am ragor o wybodaeth: https://www.biodiversitywales.org.uk/en/event-detail/secrets-of-cwm-idwal/

Straeon i Ddysgwyr Cymraeg – Lefel Mynediad (am ddim)

Bala, Gwynedd, LL23 7YF

07 Gorffennaf

3pm–4pm

Gall dysgwyr Cymraeg fwynhau straeon gwerin traddodiadol mewn lleoliad hamddenol a chefnogol dan arweiniad y storïwr Fiona Collins. Mae’r sesiwn yn cynnig cyfle hwyliog i ymarfer eich Cymraeg wrth archwilio diwylliant lleol a thraddodiadau adrodd straeon.

Am ragor o wybodaeth: https://www.biodiversitywales.org.uk/en/event-detail/stories-for-welsh-learners-lefel-mynediad/

Cysylltu â Natur a Chwedlau Gwerin Cymru (am ddim)

Pen y Pass, Parc Cenedlaethol Eryri, LL55 4NY

09 Gorffennaf

10am–4pm 

Mae’r daith gerdded dywys ysgafn hon yn cyfuno gweithgareddau cysylltu â byd natur â llên gwerin Cymru yng nghanol Eryri. Bydd cyfranogwyr yn clywed straeon am y Brenin Arthur, chwedlau lleol, a’r dirwedd wrth fwynhau un o leoliadau mynyddig mwyaf ysblennydd Cymru.

Am ragor o wybodaeth: https://www.biodiversitywales.org.uk/en/event-detail/nature-connection--welsh-folk-tales/

Taith Gerdded Llwybr y Llechi ar gyfer Pobl Dros 55 Oed (codir tâl)

Beddgelert, Parc Cenedlaethol Eryri, LL55 4YW

10 Gorffennaf

10am–4pm

Gall pobl egnïol dros 55 oed archwilio rhan o Lwybr Llechi hanesyddol Gogledd Cymru ar y daith gerdded dywys hon drwy dirweddau Eryri. Mae’r llwybr yn cyfuno golygfeydd ysblennydd â hanesion am dreftadaeth ddiwydiannol y rhanbarth.

Am ragor o wybodaeth: https://www.biodiversitywales.org.uk/en/event-detail/slate-trail-walk-for-over-55s-beddgelert-to-croesor/

Mapio eich Taith drwy Eryri (bydd angen tocyn)

Bethesda, Parc Cenedlaethol Eryri, LL57 3AD

11 Gorffennaf

10am–4pm

Gwahoddir selogion yr awyr agored i fyfyrio ar eu hoff lwybrau trwy Eryri yn ystod y gweithdy creadigol hwn. Bydd cyfranogwyr yn defnyddio mapiau, atgofion, ac yn adrodd straeon i archwilio sut y mae byd natur a thirweddau yn llunio profiadau personol.

Am ragor o wybodaeth: https://www.biodiversitywales.org.uk/en/event-detail/mapping-your-eryri-journey/

Bonanza Bywyd Gwyllt Llyn Brenig (am ddim)

Llyn Brenig, Conwy, LL21 9TT

11 Gorffennaf

10am–4pm

Dathliad o fywyd gwyllt i deuluoedd, yn cynnwys adrodd straeon, llwybrau natur, sgyrsiau am gadwraeth, a gweithgareddau ymarferol. Gall ymwelwyr adeiladu blychau adar, creu gwestai gwenyn, a dysgu mwy am brosiectau cadwraeth lleol gan sefydliadau arbenigol.

Am ragor o wybodaeth: https://www.biodiversitywales.org.uk/en/event-detail/llyn-brenig-wildlife-bonanza/

Diwrnod Natur i Deuluoedd yn Nhrigonos (codir tâl)

Beddgelert, Parc Cenedlaethol Eryri, LL54 6BW

12 Gorffennaf

10am–4pm

Gall teuluoedd fwynhau diwrnod o antur awyr agored yng nghanol Eryri, gan gynnwys taith gerdded dywys byd natur, picnic ar lan y llyn, a sesiwn padlfyrddio. Mae’r digwyddiad wedi ei gynllunio i helpu teuluoedd i dreulio amser gwerthfawr gyda’i gilydd wrth gysylltu â byd natur.

Am ragor o wybodaeth: https://www.biodiversitywales.org.uk/en/event-detail/family-nature-day-at-trigonos/

Canolbarth Cymru

Taith Gerdded Blodau Gwyllt yng Nghors Burfa

Llanandras, Powys, LD8 2SH

06 Gorffennaf | 10am–12pm

Gall unigolion sy’n frwd dros fyd natur archwilio un o gynefinoedd gwlyptir pwysicaf Powys ar y daith gerdded dywys hon i weld blodau gwyllt. Mae’r digwyddiad yn cynnig y cyfle i weld tegeirianau, erwain, ac ystod eang o flodau gwyllt tymhorol wedi blodeuo.

Am ragor o wybodaeth: https://www.biodiversitywales.org.uk/en/event-detail/wildflower-walk-burfa-bog/

Diwrnod Cofnodi yn Llanfechain (am ddim)

Llanfechain, Powys

07 Gorffennaf

10.30am–4pm

Gwahoddir selogion bywyd gwyllt i helpu i gofnodi’r rhywogaethau a geir o amgylch Llanfechain wrth ddysgu mwy am fioamrywiaeth leol. Mae’r digwyddiad yn cynnig cyfle i gwrdd â phobl o’r un anian, a chyfrannu cofnodion bywyd gwyllt gwerthfawr.

Am ragor o wybodaeth: https://www.biodiversitywales.org.uk/en/event-detail/recording-day-at-llanfechain/

Taith Gerdded Blodau Gwyllt yng Nghors Abercamlo (am ddim)

Y Groes, Powys LD1 6RG

08 Gorffennaf

6pm–8pm

Gall ymwelwyr ddarganfod yr amrywiaeth toreithiog o flodau gwyllt a chynefinoedd sy’n ffynnu yng Nghors Abercamlo yn ystod y daith gerdded dywys hon yn ystod yr haf. Mae’r digwyddiad yn tynnu sylw at bwysigrwydd planhigion, bywyd gwyllt, ac ecoleg y safle arbennig hwn.

Am ragor o wybodaeth: https://www.biodiversitywales.org.uk/en/event-detail/wildflower-walk-at-abercamlo-bog/

Cleisio’r Rhedyn i Gynyddu Cynefin Pryfed Tân (am ddim)

Dyffryn Elan, Powys

09 Gorffennaf

1:30pm - 4:00pm 

Gall gwirfoddolwyr helpu i wella cynefinoedd ar gyfer pryfed tân yng Nghwm Elan trwy waith cadwraeth ymarferol. Nid oes angen profiad, a bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar y diwrnod.

Am ragor o wybodaeth: https://www.biodiversitywales.org.uk/en/event-detail/bracken-bruising-to-increase-glow-worm-habitat-elan-valley/

Taith Gerdded gyda’r Gwenoliaid, Aberhonddu (am ddim)

Aberhonddu, Powys, LD3 7LB

10 Gorffennaf

7.30pm–9.30pm

Mae’r daith gerdded fin nos hon yn cynnig y cyfle i weld gwenoliaid duon wrth iddyn nhw hedfan a chanu ar draws awyr yr haf uwchben Aberhonddu. Bydd cyfranogwyr yn dysgu mwy am yr adar rhyfeddol hyn, ac yn cyfrannu at ymdrechion cadwraeth lleol.

Am ragor o wybodaeth: https://www.biodiversitywales.org.uk/en/event-detail/swift-stroll-brecon/

Digwyddiad Wythnos Natur Cymru yn Aberhonddu (am ddim)

Aberhonddu, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

10 Gorffennaf

Bydd digwyddiad Wythnos Natur Cymru pwrpasol yn cael ei gynnal yn Aberhonddu, gan ddod â phobl ynghyd i ddathlu byd natur lleol a harddwch naturiol ardal Bannau Brycheiniog. Cyhoeddir rhagor o fanylion yn fuan.

Am ragor o wybodaeth: https://www.biodiversitywales.org.uk/en/event-detail/wales-nature-week-event-in-brecon/

Taith Gerdded Blodau Gwyllt yng Ngilfach (am ddim)

Gilfach, Rhaeadr, Powys, LD6 5LF

12 Gorffennaf

2pm–4pm

Gall ymwelwyr archwilio dolydd blodau gwyllt lliwgar Gilfach, a darganfod y gloÿnnod byw a’r pryfed sy’n dibynnu arnynt. Mae’r daith gerdded yn cynnig cyfle i ddysgu mwy am un o safleoedd bywyd gwyllt pwysicaf Powys ar ganol haf.

Am ragor o wybodaeth: https://www.biodiversitywales.org.uk/en/event-detail/wildflower-walk-at-gilfach/

De Cymru

Dwyn Natur i’r Golwg (am ddim)

Parc Gwledig y Gnoll, Castell-nedd, SA11 3EF

04 Gorffennaf

11am–4pm

Gall ymwelwyr fwynhau diwrnod o weithgareddau ymarferol ym myd natur, helfeydd pryfed, a theithiau cerdded tywysedig trwy gynefinoedd y parc. Mae’r digwyddiad wedi ei gynllunio i helpu pobl i ddarganfod y bywyd gwyllt sy’n byw ar garreg eu drws.

Am ragor o wybodaeth: https://www.biodiversitywales.org.uk/en/event-detail/nature-unearthed-gnoll-country-park-neath/

Gŵyl Natur Caerdydd (am ddim)

Parc Bute, Caerdydd

04 Gorffennaf

Bydd un o brif ddigwyddiadau Wythnos Natur Cymru, Gŵyl Natur Caerdydd, yn dod â sefydliadau, gweithgareddau, a chyfleoedd ynghyd i bobl gael darganfod a dathlu byd natur yng nghanol y brifddinas.

Am ragor o wybodaeth: https://www.biodiversitywales.org.uk/en/event-detail/cardiff-nature-festival/

Bywyd Gwyllt Glofa Pentremawr – taith gerdded dywys (am ddim)

Pontyberem, Sir Gaerfyrddin (///crust.sailors.divisible)

05 Gorffennaf

10am–12.30pm

Mae’r daith gerdded dywys hon yn archwilio sut y mae byd natur wedi adennill hen Lofa Pentremawr, gan ei drawsnewid yn hafan i fywyd gwyllt. Bydd cyfranogwyr yn darganfod y planhigion, y pryfed, a’r rhywogaethau sydd bellach yn ffynnu ar y safle diwydiannol hanesyddol.

Am ragor o wybodaeth: https://www.biodiversitywales.org.uk/en/event-detail/wildlife-of-pentremawr-colliery--guided-walk/

Diwrnod Hwyl Coetir Cymunedol Nant Fawr (am ddim)

Cyncoed, Caerdydd

05 Gorffennaf

11am–3pm

Gall teuluoedd fwynhau rhaglen lawn o weithgareddau bywyd gwyllt, llwybrau, a phrofiadau dysgu ymarferol yng nghoetir Nant Fawr. Mae gweithgareddau’n cynnwys adnabod gwyfynod, dipio mewn pyllau, a chyfleoedd i ddarganfod bywyd gwyllt lleol.

Am ragor o wybodaeth: https://www.biodiversitywales.org.uk/en/event-detail/nant-fawr-community-woodlands-fun-day/

Planhigion Twyni yng Nghynffig (am ddim)

Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig, Pen-y-bont ar Ogwr

08 Gorffennaf

10am–4pm

Dan arweiniad y botanegydd David Barden a Chanolfan Cofnodi Bioamrywiaeth De-ddwyrain Cymru, mae’r sesiwn maes hon yn archwilio’r bywyd planhigion cyfoethog a geir ar y twyni yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig. Bydd cyfranogwyr yn dysgu sut i adnabod amrywiaeth o rywogaethau wrth ddarganfod pwysigrwydd y cynefin unigryw hwn.

Am ragor o wybodaeth: https://www.biodiversitywales.org.uk/en/event-detail/dune-plants-at-kenfig/

Dathlu Natur (am ddim)

Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, Caerdydd, CF5 6XB

11 Gorffennaf

10am–4pm

Gall ymwelwyr gwrdd â gwyddonwyr o Amgueddfa Cymru a darganfod yr amrywiaeth anhygoel o fywyd gwyllt, planhigion, a ffosiliau a geir ledled Cymru. Bydd y digwyddiad hefyd yn arddangos prosiectau gan sefydliadau lleol sy’n gweithio i ddiogelu byd natur a bioamrywiaeth.

Am ragor o wybodaeth: https://www.biodiversitywales.org.uk/en/event-detail/celebration-of-nature-st-fagans/

Darganfod Bwystfilod Bach Parc Melin Mynach (am ddim)

Abertawe, SA4 4FG

11 Gorffennaf

10am–12pm

Gwahoddir teuluoedd a phobl ifanc i ddatgelu’r bywyd gwyllt cudd sy’n byw ym Mharc Melin Mynach. Bydd cyfranogwyr yn chwilio am bryfed, corynnod, gwenyn, a gloÿnnod byw wrth ddarganfod cornel o Abertawe sy’n gyfoethog o ran natur, ac sy’n aml yn cael ei hanwybyddu.

Am ragor o wybodaeth: https://www.biodiversitywales.org.uk/en/event-detail/discover-the-mini-beasts-of-parc-melin-mynach/

Diwrnod Natur Bionet (am ddim)

Abaty Dinas Basing, Treffynnon

11 Gorffennaf

10am–2pm

Bydd y dathliad cymunedol hwn o fyd natur yn dod â sefydliadau, gweithgareddau, a chyfleoedd lleol ynghyd i gysylltu â byd natur yn Sir y Fflint. Cyhoeddir rhagor o fanylion yn fuan.

Am ragor o wybodaeth: https://www.biodiversitywales.org.uk/en/event-detail/bionet-nature-day-basingwerk-abbey-greenfield-holywell/

Mynd yn Wyllt ym Mharc Gwledig Pen-bre (am ddim – codir tâl parcio)

Parc Gwledig Pen-bre, Sir Gaerfyrddin

11 Gorffennaf

11am–4pm

Mae’r digwyddiad hwn, sy’n addas i deuluoedd, yn cynnig rhaglen lawn o weithgareddau awyr agored, heriau natur, a phrofiadau ymarferol. Gall ymwelwyr fwynhau nifer o ddigwyddiadau, o helfeydd sborion ac adeiladu lloches i gwrdd â sefydliadau lleol sy’n helpu byd natur i ffynnu yn Sir Gaerfyrddin.

Am ragor o wybodaeth: https://www.biodiversitywales.org.uk/en/event-detail/gone-wild-at-pembrey-country-park/

Gŵyl Natur Ceredigion (am ddim)

Aberystwyth, Ceredigion (///banquets.stint.tweezers)

11 Gorffennaf

10am–4pm

Mae’r ŵyl rhad ac am ddim hon yn dathlu bywyd gwyllt, tirweddau, a’r bobl sy’n gweithio i’w gwarchod yng Ngheredigion. Mae’r digwyddiad yn dod â grwpiau cadwraeth, artistiaid, ymchwilwyr, a sefydliadau cymunedol ynghyd am ddiwrnod o ddarganfyddiad, creadigrwydd, ac ysbrydoliaeth.

Am ragor o wybodaeth: https://www.biodiversitywales.org.uk/en/event-detail/ceredigion-nature-festival/

Taith Gerdded Bingo Natur gyda Sea Watch (am ddim)

Ceinewydd, Ceredigion, SA45 9NR

12 Gorffennaf

11am–1pm

Bydd cyfranogwyr yn crwydro’r arfordir gan weld ac adnabod bywyd gwyllt ar hyd y ffordd. Gan gyfuno arbenigedd morol â gwybodaeth am fywyd gwyllt lleol, mae’r daith gerdded dywys hon yn cynnig ffordd hwyliog a rhyngweithiol o ddarganfod byd natur.

Am ragor o wybodaeth: https://www.biodiversitywales.org.uk/en/event-detail/nature-bingo-walk-with-seawatch/

Gŵyl Natur y Fro (am ddim)

Llynnoedd a Pharc Gwledig Cosmeston, Bro Morgannwg

Mae’r ŵyl rhad ac am ddim hon yn dathlu natur ledled Bro Morgannwg ac yn tynnu sylw at ffyrdd y gall pobl gynorthwyo adferiad byd natur. Gall ymwelwyr gwrdd â sefydliadau lleol a darganfod camau ymarferol y gallant eu cymryd i helpu bywyd gwyllt.

Am ragor o wybodaeth: https://www.biodiversitywales.org.uk/en/event-detail/vale-nature-festival/

Gŵyl BioBlitz (am ddim gyda mynediad i’r ardd)

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Llanarthne

18–19 Gorffennaf

Gwahoddir ymwelwyr i helpu i gofnodi cymaint o rywogaethau â phosibl dros ddau ddiwrnod o ddarganfod bywyd gwyllt. Wedi ei gynnal ar draws yr Ardd Fotaneg a Gwarchodfa Natur Waun Las, mae’r digwyddiad yn cyfuno gwyddoniaeth dinasyddion â dathliad o fioamrywiaeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth: https://www.biodiversitywales.org.uk/en/event-detail/bioblitz-festival-national-botanic-garden-of-wales/

Bydd yn Wyllt! Parc Pont-y-pŵl

Pont-y-pŵl, Torfaen

25 Gorffennaf

Bydd dathliad cymunedol o fyd natur yn digwydd ym Mharc Pont-y-pŵl fel rhan o Wythnos Natur Cymru. Cyhoeddir rhagor o fanylion yn fuan.

Am ragor o wybodaeth: https://www.biodiversitywales.org.uk/en/event-detail/go-wild-pontypool-park/

 

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru