Cymru’n symud i statws adfer ar ôl cyfnod o sychder

Afon Taf Yng Nghaerdydd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cadarnhau bod rhannau o Gymru yr effeithiwyd arnynt gan sychder yr haf hwn bellach wedi symud i statws adfer, yn dilyn glaw sylweddol ym mis Medi eleni.

Cyhoeddwyd statws sychder ar gyfer de-ddwyrain Cymru ar 14 Awst 2025, ac ar gyfer gogledd Cymru ar 29 Awst.

Symudodd De-orllewin Cymru i statws 'cyfnod hir o dywydd sych' ar 22 Mai, ac mae bellach yn symud i statws 'adfer ar ôl cyfnod hir o dywydd sych’.

Ar 22 Medi, roedd y glawiad cyfartalog hirdymor ar gyfer Cymru yn amrywio o 102% ym Methesda, gogledd Gwynedd, i 212% yn Sarn yn nalgylch Hafren uchaf.

Mae llif y rhan fwyaf o afonydd bellach yn normal neu'n uwch na'r arfer ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn, ond mae rhai afonydd yn dangos arwyddion o adferiad arafach ac yn dal i fod yn isel ar gyfer yr adeg o'r flwyddyn.

Mae timau o CNC yn parhau i fonitro llif afonydd yn agos, yn ogystal â dyfroedd daear sy'n ymateb i law yn arafach. Mae dyfroedd daear yn parhau i fod yn bryder parhaus, gyda rhai yn dal i fod yn eithriadol o isel am yr adeg o'r flwyddyn.

Dywedodd Dr Rhian Thomas, Rheolwr Dŵr a Natur Cynaliadwy yn CNC:
“Wrth i ni agosáu at yr hydref, mae ein timau ar lawr gwlad yn dweud bod arwyddion cadarnhaol bod yr amgylchedd yn gwella, yn dilyn un o’r cyfnodau sychaf mewn bron i 50 mlynedd.
“Ond bydd digon o law drwy gydol yr hydref yn hanfodol nawr er mwyn i lif afonydd a dyfroedd daear adfer yn llwyr cyn y gwanwyn nesaf.
“Er bod mis Medi wedi dod â rhywfaint o law sylweddol – gan hyd yn oed arwain at rybuddion llifogydd ac achosion o lifogydd dŵr wyneb – mewn rhai ardaloedd rydym yn dal i weld afonydd yn cilio’n ôl ar ôl i’r glaw ddisgyn. Mae hyn yn arwydd o'r pwysau eithafol ar ein hamgylchedd yn ystod y cyfnod eithriadol o sych hwn.
“Mae’n debygol y bydd yn cymryd misoedd lawer i’n hamgylchedd adfer yn llwyr o effeithiau’r sychder. Byddwn yn parhau i gysylltu â'r cwmnïau dŵr, Llywodraeth Cymru ac eraill i fonitro rhagolygon ac iechyd afonydd, dyfroedd daear, cynefinoedd a bywyd gwyllt.”

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau mewn cysylltiad ag Asiantaeth yr Amgylchedd yn Lloegr, gan fod rhai o'r dalgylchoedd sy'n ffinio â Chymru yn parhau i fod mewn statws sychder.

Dylai unrhyw un sy'n pryderu am effeithiau parhaus y sychder ar yr amgylchedd, neu lygredd, gyflwyno adroddiad digwyddiad neu gysylltu â llinell gymorth digwyddiadau CNC ar 03000 65 3000.