Gwaith wedi’i gwblhau i ddiweddaru Map Llifogydd Cymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi lansio diweddariad i’w wasanaeth mapio llifogydd ar-lein sy’n gwella’i ymddangosiad, ei gwneud yn haws defnyddio’r mapiau ac yn ychwanegu opsiwn i ddefnyddio’r adnodd yn Gymraeg.

Cynhaliwyd y gwaith yr uwchraddio diwethaf yn 2020 i ychwanegu cyfoeth o ddata llifogydd newydd gyda’r nod o ddarparu gwell data am berygl llifogydd wrth i ddigwyddiadau tywydd eithafol ddigwydd yn amlach oherwydd argyfwng yr hinsawdd.

Mae'r gwelliant diweddaraf hwn wedi ychwanegu mwy o ddata ar berygl erydu arfordirol yn ogystal â nifer o nodweddion sydd â'r nod o wella defnyddioldeb, a chysondeb â chynhyrchion mapio llifogydd eraill. 

Mae’r elfennau perygl llifogydd yn yr offeryn mapio eisoes yn cael eu defnyddio’n eang gan y diwydiant yswiriant, awdurdodau rheoli risg, Llywodraeth Cymru a’r cyhoedd yn gyffredinol i helpu i amddiffyn dros 240,000 eiddo sydd mewn perygl o lifogydd yng Nghymru, sef 1 ym mhob 7 yn y wlad.

Mae'r map yn ystyried y perygl o lifogydd o afonydd, dŵr wyneb, y môr a chyrsiau dŵr llai wedi'u categoreiddio i leoliadau mewn ardaloedd risg uchel, canolig ac isel. Mae hefyd yn dangos gwybodaeth ychwanegol, fel lleoliadau amddiffynfeydd rhag llifogydd a'u manteision o ran lleihau perygl llifogydd yn lleol.

Gellir defnyddio’r data sy’n sail i’r mapiau hefyd i ragfynegi cost effeithiolrwydd cynlluniau atal llifogydd, rhagfynegi sut y gall newid yn yr hinsawdd a thwf poblogaeth effeithio ar y tebygolrwydd o lifogydd ac archwilio senarios posib yn seiliedig ar ddigwyddiadau tywydd eithafol.

Dywedodd Mark Pugh, prif gynghorydd ar gyfer dadansoddi perygl llifogydd yn CNC:

“Gall llifogydd ddinistrio cymunedau a dyna pam mae gennym ni nifer o adnoddau ar gael i helpu i rybuddio a hysbysu pobl a busnesau Cymru lle mae perygl llifogydd.
“Mae ein map perygl llifogydd wedi cael ei ddefnyddio ers blynyddoedd i bennu perygl llifogydd, datblygu cynlluniau rheoli llifogydd a helpu i hysbysu’r cyhoedd am y mater hynod bwysig hwn.
“Bydd y data arfordirol newydd sy’n cael ei ychwanegu yn dod â mwy o gynnwys pwysig i’n mapiau a bydd yr elfennau defnyddioldeb newydd yn sicrhau bod y wybodaeth hon ar gael yn hwylus i bawb yn y Gymraeg a’r Saesneg.”

Bydd y map diwygiedig yn fyw o 26 Mehefin 2023 a gellir ei weld ar wefan CNC.