Angen Gwirfoddolwyr i Gefnogi Arolwg Cenedlaethol ar Lygoden yr Ŷd yng Nghymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn galw ar wirfoddolwyr o bob cwr o Gymru i gymryd rhan mewn Arolwg Cenedlaethol ar Lygoden yr Ŷd, sy’n cael ei arwain gan Gymdeithas y Mamaliaid.
Ar hyn o bryd mae Cymru wedi’i thangynrychioli yn yr Arolwg Cenedlaethol ar Lygoden yr Ŷd, ac mae CNC yn awyddus i annog mwy o gyfranogiad i helpu i lenwi’r bylchau hyn yn y data. Bydd pob cofnod newydd yn cyfrannu at ddealltwriaeth gliriach o ddosbarthiad y rhywogaeth ac yn llywio ymdrechion cadwraeth yn y dyfodol.
Mae llygoden yr ŷd yn un o’r mamaliaid lleiaf yng Nghymru – a’r anoddaf i’w gweld, ac mae’n adnabyddus am ei nythod cain wedi’u gwehyddu o laswellt tal. Er mor hudolus yw hi, mae’r rhywogaeth wedi’i thangofnodi yng Nghymru, sy’n ei gwneud yn anodd asesu ei statws a’i dosbarthiad gwirioneddol.
Mae CNC wedi cefnogi arolygon ar lygoden yr ŷd yn y gorffennol, yn cynnwys yn ystod y prosiect Mamaliaid mewn Amgylchedd Cynaliadwy (2011–2015), a ddadlennodd gofnodion o’r rhywogaeth nad oeddem yn ymwybodol ohonynt cyn hynny. Fodd bynnag, cyfyngedig yw’r data o hyd.
Yn 2020, comisiynodd CNC yr adroddiad ar Gyflwr Mamaliaid yng Nghymru, a amlygodd statws cadwraeth ‘Dan Fygythiad’ ar gyfer llygoden yr ŷd, gyda’r rhagolygon ar gyfer y dyfodol yn wael. Amcangyfrifir bod y boblogaeth yng Nghymru tua 34,000, ond mae cryn ansicrwydd am y ffigur hwn am fod y cofnodion yn annigonol.
Mae tymor yr arolwg yn rhedeg o fis Hydref 2025 hyd at fis Mawrth 2026, cyfnod a ddewiswyd i osgoi tarfu ar nythod magu. Mae’r arolygon yn gyflym ac yn syml i’w cynnal, ac nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol na chyfarpar arbenigol. I gynnal arolwg ar lygoden yr ŷd, chwiliwch am nythod o faint pêl denis wedi’u gwneud o laswellt hir wedi’i blethu’n dynn – gallwch eu gwasgu’n hawdd heb fod angen rhoi llawer o bwysau.
Dywedodd Liz Halliwell, Arweinydd Tîm Rhywogaethau Daearol Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae hwn yn gyfle gwych i bobl o bob rhan o Gymru droi eu llaw at fonitro bywyd gwyllt a gwneud cyfraniad gwirioneddol i fyd cadwraeth. P’un a ydych chi’n naturiaethwr profiadol neu ond yn chwilfrydig am eich bywyd gwyllt lleol, gallai eich help chi wneud gwahaniaeth mawr.”
Matt Larsen-Daw, Prif Swyddog Gweithredol, Cymdeithas y Mamaliaid:
"Mae canlyniadau cadwraeth da yn dibynnu ar ddata da, ond nid yw ein mamaliaid lleiaf, fel llygoden yr ŷd, wedi’u cofnodi’n ddigonol, er eu bod o bwys allweddol mewn ecosystemau.
“Mae chwilio am arwyddion o lygoden yr ŷd yn rhywbeth hwyliog a gwerth chweil y gall unrhyw un ei wneud i gefnogi adferiad byd natur, o naturiaethwyr profiadol i wirfoddolwyr cychwynnol a phlant. Mae llawn mor bwysig cadarnhau nad oes nythod yn bresennol ag yw hi i ganfod nyth, er mwyn helpu gwyddonwyr i ddeall sut mae’r rhywogaeth bwysig hon yn gwneud, a sut mae gweithgareddau pobl a newid hinsawdd yn effeithio arni."
I ddysgu mwy am lygoden yr ŷd a sut i gymryd rhan, ewch i dudalen Cymdeithas y Mamaliaid ar arolwg llygoden yr ŷd.
--
*Hawlfraint y llun: Derek Crawley.