Adfer Gwy Uchaf: Lansio prosiect newydd ac uchelgeisiol i helpu adfer afon boblogaidd
Mae prosiect newydd wedi'i lansio i helpu i adfer rhannau uchaf Afon Gwy, un o afonydd mwyaf boblogaidd y DU.
Cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) Brosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru ar 22 Gorffennaf 2024. Nod y fenter hon, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yw adfywio dalgylch uchaf yr afon, sy'n gartref i sawl rhywogaeth bwysig fel eogiaid, dyfrgwn, gwangod, cimychiaid afon crafanc wen, a chrafancod y dŵr. Mae Afon Gwy yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Ardal Cadwraeth Arbennig ac mae'n cael ei gwerthfawrogi'n fawr gan gymunedau lleol ac ymwelwyr ar gyfer gweithgareddau awyr agored, lles a diwylliannol.
Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar ddalgylch Gwy i fyny'r afon o'r Gelli Gandryll, gyda'r nod o ddiogelu rhywogaethau a gwella cynefinoedd drwy fynd i'r afael â nifer o broblemau sy'n effeithio ar yr afon. Bydd gwelliannau yn y dalgylch uchaf o fudd i’r system afon gyfan. Bydd ymdrechion yn cynnwys lleihau gwaddod a llygryddion sy'n dod i mewn i'r afon a gwella ei wytnwch i dywydd eithafol a'r Argyfwng Hinsawdd.
Dywedodd Susie Tudge, Arweinydd Tîm Prosiect Adfer Dalgylch Gwy Uchaf: "Mae lansio'r prosiect wedi cymryd cryn dipyn o amser ac rwy'n falch iawn ein bod bellach ar waith.
"Mae gan bawb rôl i'w chwarae wrth wella'r amgylchedd lleol, ac mae'r prosiect hwn yn un o gyfraniadau mawr CNC at yr achos.
"Gan weithio gyda'n gilydd, gallwn wneud newid mawr yn y ffordd y mae'r dalgylch yn edrych. Bydd hyn o fudd i bawb, gan gynnwys yr amgylchedd lleol a bywyd gwyllt."
Mae cydweithredu yn allweddol i lwyddiant y prosiect. Bydd CNC yn gweithio gyda thirfeddianwyr, ffermwyr, cymunedau a sefydliadau lleol i adfer coridorau afonydd, creu cynefinoedd mewn afonydd, a gosod strwythurau i leihau llygredd ac atal erydiad pridd. Bydd mesurau ychwanegol yn arafu llif dŵr dros y tir, yn ailgysylltu gorlifdiroedd, ac yn cael gwared ar rwystrau i symudiadau pysgod a graean. Bydd rhywogaethau estron goresgynnol sy'n achosi erydiad hefyd yn cael eu taclo.
Bydd cynnydd yn cael ei fonitro drwy raglen gynhwysfawr gan ddefnyddio ffotograffiaeth, dronau ac arolygon ecolegol. Mae'r prosiect yn gam sylweddol yn ymrwymiad CNC i stiwardiaeth amgylcheddol, gyda'r nod o ddiogelu bioamrywiaeth unigryw Afon Gwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.