Diweddariad ar ymarfer marchnata Bwlch Nant yr Arian a Choed y Brenin

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn lansio ymarfer marchnata ar gyfer Bwlch Nant yr Arian a Choed y Brenin yn ddiweddarach eleni.
Bydd y broses hon yn chwilio am bartneriaid, grwpiau cymunedol a busnesau hyfyw - a all ddefnyddio’r safleoedd, a’u gwella er budd y cyhoedd ac at ddibenion hamddena.
Yn dilyn cyfnod o waith paratoi, gwiriadau cyfreithiol, llywodraethu mewnol ac yn amodol ar gymeradwyaeth derfynol, y gobaith yw gallu lansio'r broses ym mis Tachwedd gyda'r nod o ddyfarnu contractau erbyn diwedd mis Ebrill 2026.
Bydd yr ymarfer yn cael ei reoli drwy borth caffael GwerthwchiGymru a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru a gall partïon sydd â diddordeb gofrestru ar gyfer y platfform ymlaen llaw.
Meddai Elsie Grace, Pennaeth Datblygu Masnachol Cynaliadwy CNC:
“Rydym yn deall pa mor bwysig yw ein safleoedd i gymunedau lleol ac ymwelwyr ac rydym yn gwybod pa mor awyddus yw pobl i weld y broses hon yn dechrau.
“Rydym am wneud yn siŵr ein bod yn cael pethau’n iawn er mwyn osgoi dryswch ac unrhyw broblemau posibl yn y dyfodol ac rydym yn credu ei bod yn bwysig cymryd yr amser angenrheidiol nawr i sicrhau proses esmwyth yn ddiweddarach.
“Ar hyn o bryd rydym yn ymgymryd â’r gwaith cynllunio i sicrhau bod y broses hon yn arwain at y canlyniad hirdymor gorau posibl i’r safleoedd, y cymunedau a’r ymwelwyr.
“Mae hyn yn cynnwys canolbwyntio ar ddod o hyd i bartneriaid hirdymor, cynaliadwy – sydd o fudd i gymunedau lleol a thwristiaeth.
“Hoffem ddiolch unwaith eto i bawb sydd wedi mynegi diddordeb yn y safleoedd hyn a byddwn yn parhau i ymgysylltu â’r cyhoedd a phartïon sydd â diddordeb wrth i’r broses ddatblygu.
“Rydym yn gobeithio cael cytundebau ar waith erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf, ond gallai’r amserlenni hyn newid.”
Yn y cyfamser, mae'r holl lwybrau, llwybrau cerdded, meysydd parcio, mannau chwarae a thoiledau yn parhau ar agor ac mae'r gwaith pwysig a wneir i amddiffyn bywyd gwyllt a chynnal y safleoedd hyn yn parhau i gael ei oruchwylio gan staff rheoli tir.
Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, ewch i'n canolfan ymgynghori sy'n cael ei diweddaru â'r wybodaeth ddiweddaraf pan fydd ar gael.