Perygl llifogydd Storm Ciarán yn parhau yng Nghymru 

Bydd glaw trwm a gwyntoedd cryfion yn parhau i effeithio ar lawer o Gymru heddiw (Tachwedd 2) wrth i Storm Ciarán symud tua Gogledd Cymru. 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn annog pobl i gymryd gofal a bod yn wyliadwrus o ran llifogydd posib gyda rhybudd melyn y Swyddfa Dywydd ar gyfer glaw ar gyfer Cymru gyfan mewn grym tan hanner nos heno.   

Mae disgwyl glaw trwm iawn yng Ngogledd Cymru yn ddiweddarach heddiw, gan gynnwys ardaloedd yng Ngogledd Ddwyrain Cymru a brofodd lifogydd yn ystod Storm Babet. 

Dylai aelodau'r cyhoedd gadw llygad ar ragolygon y tywydd a pharatoi ar gyfer llifogydd posib. 

Gyda’r tir mor ddirlawn yn dilyn glawiad diweddar, mae disgwyl i afonydd ymateb a chodi drwy gydol heddiw ac yfory gyda llifogydd dŵr wyneb a gwyntoedd cryfion hefyd yn ffactor.  

Mae Rhybudd Llifogydd Difrifol mewn grym ar gyfer Afon Ritec, Dinbych-y-pysgod, un Rhybydd Llifogydd mewn grym ar yr Afon Solva a mae nifer o negeseuon Llifogydd: Byddwch yn barod mewn grym dros De a Gorllewin Cymru.

Mae’r tudalennau rhybuddion llifogydd yn cael eu diweddaru bob 15 munud yn www.cyfoethnaturiol.cymru/llifogydd 

Mae timau CNC wedi bod yn gweithio bob awr o’r dydd gyda phartneriaid i leihau’r perygl i gymunedau a’r disgwyl yw y bydd rhybuddion llifogydd pellach yn cael eu cyhoeddi drwy gydol y dydd. 

Dywedodd Ross Akers, Rheolwr Tactegol ar Ddyletswydd CNC:  

“Wrth i Storm Ciarán barhau i symud ar draws Cymru mae perygl o effeithiau llifogydd sylweddol o hyd, ac rydym yn annog pobl i fod yn ymwybodol o ragolygon y tywydd a pharatoi.  

“Rydym yn disgwyl gweld glaw trwm iawn yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru yn hwyrach heddiw (dydd Iau) a bydd y glaw hwn yn disgyn mewn mannau yng Ngogledd Cymru a brofodd lifogydd yn ystod Storm Babet. 

“Mae ein timau’n gwneud popeth o fewn eu gallu i leihau’r risg i gymunedau. Ond os oes llifogydd rydym eisiau gwneud yn siŵr bod pobl yn gwneud popeth o fewn eu gallu i gadw eu hunain yn ddiogel hefyd. Rydym yn annog pobl i gadw draw o afonydd sydd â llif uchel, ac i beidio gyrru neu gerdded trwy ddŵr llifogydd - mae'n aml yn ddyfnach nag y mae'n ymddangos a gall gynnwys peryglon cudd. Caniatewch amser ychwanegol ar gyfer unrhyw deithiau gan y bydd amodau gyrru yn beryglus. 

“Byddwch yn ofalus pan fyddwch allan heddiw – yn enwedig os ydych yn ymweld ag arfordiroedd De a Chanolbarth Cymru.  

"Mae gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod sut mae'r sefyllfa lle rydych chi'n byw yn bwysig iawn. Gallwch weld beth yw lefel eich perygl llifogydd a'r rhybuddion llifogydd diweddaraf ar ein gwefan sy'n cael ei hadnewyddu bob 15 munud. Cadwch lygad ar @NatResWales ar X (Twitter) am y wybodaeth ddiweddaraf a gwrandewch ar adroddiadau tywydd a newyddion lleol am fanylion unrhyw broblemau yn eich ardal."

Mae CNC yn gofyn i bobl wneud y canlynol: 

  • Cofrestrwch ar gyfer gwasanaeth rhybuddion llifogydd am ddim Cyfoeth Naturiol Cymru yn www.cyfoethnaturiol.cymru/llifogydd neu drwy ffonio Floodline ar 0345 988 1188.  
  • Edrychwch ar y tudalennau rhybuddion llifogydd ar wefan CNC i gael negeseuon Llifogydd: Byddwch yn barod a Rhybuddion Llifogydd lleol. Mae'r tudalennau hyn yn cael eu diweddaru bob 15 munud.  Cyfoeth Naturiol Cymru / Llifogydd
  • Meddyliwch sut y gallwch chi baratoi eich cartref a'ch busnes nawr. Symudwch bethau gwerthfawr a cherbydau i leoliad uwch a meddyliwch am bacio pecyn llifogydd. Mae gan wefan CNC amrywiaeth o wybodaeth ar sut y gall pobl baratoi ar gyfer llifogydd.   

Mae gwybodaeth a diweddariadau hefyd ar gael drwy gyfrif X (Twitter gynt) Cyfoeth Naturiol Cymru: @NatResWales