Cregyn y Brenin yn Sgomer yn ffynnu ar ôl gwaharddiad ar eu dal

Mae gwyddonwyr morol wedi darganfod bod gwaharddiad ar ddal cregyn y brenin oddi ar rannau o arfordir Sir Benfro wedi arwain at gynnydd o 12 gwaith yn niferoedd y rhywogaeth ers y flwyddyn 2000.

Ym 1990, gwaharddwyd tynnu cregyn y brenin (Pecten maximus) drwy unrhyw ddulliau ar draws Parth Cadwraeth Morol Sgomer wedi gostyngiad yn y niferoedd yn sgil pysgota helaeth gan longau carthu a chasglwyr â llaw.

Cynhaliodd arbenigwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru, sy’n monitro’r dyfroedd o amgylch Sgomer, arolwg yn 2022 o gregyn y brenin – y chweched arolwg ers 2000.

 Casglwyd cregyn y brenin, eu mesur a chyfrifwyd eu hoedran drwy gyfrif eu cylchoedd twf cyn eu rhyddhau, yn fyw, yn ôl i’r dyfroedd.

Cyhoeddwyd adroddiad ar yr arolwg yn gynharach eleni a dangosodd fod nifer cregyn y brenin sy'n byw yn y dyfroedd hyn wedi cynyddu 12 gwaith ers yr arolwg cychwynnol yn 2000.  Roedd y cregyn rhwng 3 a 12 oed, sy’n dangos bod y boblogaeth yn iach ac yn ffynnu.

Ac fe wnaeth y gwyddonwyr ddarganfod hefyd bod y gwaharddiad ar ddal cregyn y brenin hefyd wedi helpu i wella’r cynefin i lu o greaduriaid eraill.

Mae’r gwaddod ar wely’r môr lle mae cregyn y brenin yn byw wedi dod yn gynefin ffyniannus i amrywiaeth o rywogaethau, gyda mwy na 1,000 o wahanol greaduriaid wedi’u canfod, sy’n ei wneud yn un o’r cynefinoedd gwaddod mwyaf amrywiol yn y DU. 

Cymerodd Ali Massey, swyddog asesu amgylcheddol morol gyda CNC, ran yn yr arolwg.

“Mae canlyniadau pob arolwg ers 2000 wedi dangos cynnydd yn y niferoedd ac roedd yn hyfryd gweld bod poblogaeth cregyn y brenin yn Sgomer yn dal i dyfu,” meddai.  

“Yn bwysig, mae’r cynefin gwaddod lle mae’r cregyn i’w cael nawr hefyd yn cynnal niferoedd cynyddol o fywyd gwyllt. 

“Mae’r anifeiliaid sy’n byw yma naill ai â chuddliw anhygoel i’w helpu i aros yn fyw, neu maen nhw’n goroesi trwy dyllu o dan y gwaddod; creaduriaid fel mwydod, anemonïau sy’n tyrchu a chreaduriaid bach tebyg i ferdys o’r enw amphipods.”

“Mae’r canlyniadau’n siarad drostynt eu hunain. Mae hyn yn newyddion gwych i’r cregyn brenin a’r anifeiliaid eraill a geir yn y cynefinoedd gwaddod ac mae’n tanlinellu’r buddion a geir o warchod ardaloedd rhag pysgota cregyn brenin,” ychwanegodd Ali.

Mae cregyn y brenin eu hunain hefyd yn cael eu hystyried yn fathau o ‘gynefinoedd micro’ gan fod llu o anifeiliaid yn glynu wrth eu cregyn gan gynnwys cregyn llong, sbyngau a chwistrellau môr.

Mae hyd yn oed y cregyn marw gwag yn gartref i rywogaethau niferus o grancod, sêr brau, a draenogod môr ifanc, tra bod math o bysgod bach y môr a elwir yn lyfrothod adeiniog yn defnyddio’r cregyn gwag i guddio a dodwy wyau.

Dywedodd Pennaeth Morol CNC, Rhian Jardine, fod y canfyddiadau yn newyddion cadarnhaol.

"Mae graddfa a chyfradd y golled o ran bioamrywiaeth ledled y wlad yn cyflymu ar y tir ac yn y môr, gan effeithio ar rywogaethau sy'n dibynnu ar ein hadnoddau naturiol," meddai.
“Mae adfer byd natur er mwyn natur er lles pawb.”

Gellir darllen yr adroddiad llawn yma: Skomer MCZ Scallop Survey 2022 (naturalresources.wales)