Difrod difrifol wedi ymgais i ddwyn o beiriant parcio cark ym Mwlch Nant yr Arian

Peiriant talu ac arddangos wedi ei ddifrodi ym maes parcio Bwlch Nant yr Arian

Mae ymgais aflwyddiannus i ddwyn arian o beiriant talu ac arddangos ym Mwlch Nant yr Arian a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi arwain at ddifrod difrifol, gan olygu na ellir defnyddio'r peiriant.

Fe ddigwyddodd yr ymgais rhywbryd rhwng nos Sul ac yn gynnar fore Llun (17-18 Mawrth).

Ceisiodd y fandal neu'r fandaliaid rwygo ochr y peiriant ar agor, o bosibl i ddwyn unrhyw arian y tu mewn.

Dywedodd Sarah Parry, Swyddog Canolfan Ymwelwyr CNC ym Mwlch Nant yr Arian;
"Roedd y difrod i'r peiriant yn syfrdanol. Mae'r ochr bron wedi cael ei rwygo ar agor, ac mae'r peiriant yn ansefydlog iawn nawr. Rydym wedi datgysylltu'r trydan i'r peiriant, ei orchuddio, ac wedi gosod rhwystrau i gadw ymwelwyr yn ddiogel nes i ni gael peiriant newydd.
"Gan nad yw’r peiriant yn gweithio, gofynnwn i ymwelwyr dalu am eu parcio yn y ganolfan ymwelwyr.
"Mae'n amlwg yr oedd y person neu'r bobl a wnaeth hyn yn benderfynol, ond yn aflwyddiannus yn y pen draw. Rydyn ni'n gwagio'r bin arian parod yn y peiriant yn rheolaidd, felly hyd yn oed petaen nhw wedi llwyddo i agor y peiriant, fydden nhw ddim wedi cael llawer am eu hymdrech."

Mae'r mater wedi cael ei gyfeirio at Heddlu Dyfed Powys a bydd ffilm CCTV yn cael ei gyflenwi i helpu'r ymchwiliad.

Mae CNC yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am y drosedd i'w rhannu gyda'r heddlu ar unwaith.