Gwaith adfer traeth graeanog wedi'i gynllunio i helpu i amddiffyn Fairbourne
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn dechrau gwaith ailbroffilio graean hanfodol ar draeth Fairbourne ddechrau mis Chwefror 2026 fel rhan o'i raglen barhaus i reoli risg llifogydd a chynnal amddiffynfeydd arfordirol y pentref.
Mae'r gwaith hwn yn ailadrodd gweithgaredd tebyg a wnaed ym mis Gorffennaf 2020 ac mae wedi'i gynllunio i gynnal sefydlogrwydd hirdymor y grib o raean, sy'n chwarae rhan allweddol yn y gwaith o amddiffyn y gymuned rhag y môr.
Bydd contractwyr yn cyrraedd y safle yn ystod wythnos gyntaf mis Chwefror. Bydd compownd safle dros dro yn cael ei sefydlu yn y maes parcio wrth ymyl y cyfleusterau cyhoeddus oddi ar Penrhyn Drive South dros gyfnod y prosiect.
Mae'r cynllun yn cynnwys symud graean o ben gogleddol y traeth i ardaloedd yn y de lle mae'r deunydd naturiol wedi'i ddisbyddu neu wedi'i erydu. Mae'r gwaith ailbroffilio hwn yn helpu i adfer y traeth i'r siâp sydd ei angen i amsugno ynni tonnau a lleihau'r risg o orlifo yn ystod tywydd stormus. Disgwylir i'r holl waith gael ei gwblhau erbyn 20 Mawrth 2026.
Drwy gydol y prosiect, bydd y traeth yn parhau i fod ar agor ac yn hygyrch i drigolion ac ymwelwyr. Fodd bynnag, efallai y bydd angen rhai cyfyngiadau dros dro ar adegau penodol i sicrhau diogelwch y cyhoedd pan fydd peiriannau mawr yn cael eu defnyddio. Bydd CNC a'i gontractwr yn gweithio i leihau unrhyw aflonyddu a sichrau mynediad diogel lle bynnag y bo modd.
Mae'r rhaglen yn rhan o ymrwymiad ehangach CNC i reoli risg llifogydd yn Fairbourne ac ar hyd yr arfordir yn ehangach. Mae ailbroffilio cyson yn rhan bwysig o gynnal effeithiolrwydd y grib raeanog a chefnogi'r gwaith amddiffyn parhaus y mae'n ei ddarparu i gartrefi, seilwaith a'r gymuned leol.
Meddai Keith Ivens, Rheolwr Gweithrediadau Rheoli Llifogydd a Dŵr yn Cyfoeth Naturiol Cymru:
“Mae cynnal amddiffynfeydd arfordirol Fairbourne yn flaenoriaeth i CNC, ac mae’r gwaith hwn yn rhan bwysig o reoli risg llifogydd i’r pentref. Mae ailbroffilio’r grib raeanog yn helpu i sicrhau bod y traeth yn parhau i gynnig amddiffyniad effeithiol yn ystod cyfnodau o dywydd garw. Rydym yn deall y gall unrhyw weithgaredd ar y traeth fod yn aflonyddgar, a hoffem ddiolch i'r gymuned am eu hamynedd tra bydd ein contractwr yn gwneud y gwaith hanfodol hwn.”