Gwaith Twyni Byw yn digwydd mewn Gwarchodfa Natur Genedlaethol

Mae cyfres o brosiectau cadwraeth ac adfer ar y gweill yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch ar Ynys Môn.

Bydd gwaith yn cychwyn y mis hwn i helpu i hyrwyddo a diogelu bywyd gwyllt cyfoethog ac amrywiol ar y safle o bwysigrwydd rhyngwladol.

Mae'n cynnwys adnewyddu Pant Canada a dwy ardal o laciau twyni isel yng Nghwningar Niwbwrch, yn ogystal ag ymestyn cynefin gwlyptir ym Mhant y Fuches.

Cynhelir y gwaith gan Twyni Byw, sef prosiect a ariennir gan yr UE dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), sy’n gweithio i adfer twyni tywod ledled Cymru.

Dywedodd Kathryn Hewitt, Rheolwr Prosiect Twyni Byw ar gyfer CNC:

“Byddwn yn cynnal y prosiectau adfer hyn yn Niwbwrch i warchod bywyd gwyllt a gwella bioamrywiaeth.
“Bydd peth o’r gwaith yn ymwneud â pheiriannau trwm, ond ym mhob achos mae anghenion rhywogaethau a warchodir fel y Fadfall Ddŵr Gribog, madfallod y tywod a Gwiwerod Coch yn cael eu hystyried, yn ogystal â buddiannau eraill megis archaeoleg a diogelwch ymwelwyr.
“Hoffem ddiolch i aelodau’r cyhoedd am eu dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn.”

Rhwng Medi a Thachwedd ym Mhant Canada, bydd ardaloedd o dywod noeth, pwll newydd a gwlyptir mwy naturiol yn cael eu creu i ffurfio cynefin ‘arloesol’ ar gyfer rhywogaethau prin ac arbenigol gan gynnwys y Fadfall Ddŵr Gribog, Tafolen y Traeth, gweision y neidr a mursennod, gwenyn turio ac infertebratau eraill.

Bydd Pant y Fuches, sef glaswelltir o ansawdd uchel yn llaciau’r twyni sy'n cynnal llawer o rywogaethau gan gynnwys tegeirianau'r gors, yn cael ei ymestyn ar un ochr trwy gael gwared ar brysgwydd, nifer fach o goed conwydd a chael gwared ar lystyfiant yr arwyneb sydd wedi gordyfu.

Bydd y gwaith yn digwydd o ddechrau i ganol yr hydref.

Yn Nhwyni Penrhos bydd coed marw sy'n sefyll, pren sydd wedi cwympo a malurion yn cael eu symud o ymyl y goedwig ar hyd Llwybr y Gymanwlad i wella cynefin glaswelltir llawn blodau.

Bydd hyn yn gwella diogelwch ac yn lleihau risg tân ac yn ystod y gwaith hwn bydd Llwybr y Gymanwlad yn yr ardal hon ar gau er diogelwch y cyhoedd.

Dilynwch gyfryngau cymdeithasol Twyni Byw am ddyddiadau.

Yn Niwbwrch bydd gwaith yn cael ei wneud mewn dau leoliad sy’n wynebu tua'r môr i adfer llaciau twyni isel a llethrau twyni sych, sy’n gorchuddio tua un hectar yr un.

Bydd hyn yn golygu cael gwared ar y tyweirch, gostwng gwaelod y llaciau i lefel y dŵr a chreu pwll newydd.

Bydd gwaith yn digwydd rhwng Awst a Hydref i dorri llystyfiant dros naw hectar o’r safle er mwyn caniatáu i ystod ehangach o blanhigion blodeuol ffynnu trwy reoli gweiriau tal, bras, mieri a phrysgwydd tra bydd gwaith yn cael ei wneud i reoli rhywogaethau estron goresgynnol.

Bydd diweddariadau rheolaidd yn cael eu cyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’r ddolen @TwyniByw ar Twitter, Instagram, a Facebook neu drwy chwilio am Twyni Byw.

Delwedd: Gwaith Twyni Byw blaenorol yn Ffrydiau yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch.