Tîm troseddau gwledig yn patrolio i amddiffyn morloi yn Sir Benfro

pup sêl llwyd

Mae mwy o batrolau'n cael eu cynnal mewn ardal boblogaidd yn Sir Benfro i helpu i amddiffyn morloi a'u rhai bach yn ystod y tymor bridio.

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Heddlu Dyfed-Powys yn ymweld â Phwll y Wrach yn rheolaidd i sicrhau bod y morloi yn cael eu gadael ar eu pennau eu hunain.

Mae'r cam yn dilyn adroddiadau bod cerrig wedi cael eu taflu mewn ardal lle mae morloi bach yn ymgynnull, yn ogystal â nifer o adroddiadau bod pobl yn dod llawer yn rhy agos atynt wrth gymryd rhan mewn gwahanol chwaraeon dŵr.

Mae llawer o forloi benywaidd wedi eu gweld yn ac o amgylch y Pwll a’r wythnos hon, a gwelwyd morlo ifanc marw yn arnofio y tu mewn.

Mae Awdurdod Parc Arfordir Penfro wedi rhoi arwyddion dros dro mewn rhai lleoliadau i godi ymwybyddiaeth o'r mater gyda phobl nad ydynt yn ymwybodol bod yr ardal yn boblogaidd gyda morloi.

Dywedodd PC Roger Jones, o Heddlu Dyfed-Powys a eiliwyd i Gyfoeth Naturiol Cymru:

 "Mae gennym bryderon cynyddol am les y morloi sy'n defnyddio'r ardal i fridio a chael rhai bach ym Mhwll y Wrach.

"Rydym yn annog pobl i wrando ar ein cais i gadw draw o'r ardal i roi'r lle a'r amser sydd eu hangen ar forloi. Gallai mynd yn rhy agos at y morloi eu dychryn a'u tarfu a chofiwch, mae morloi wedi’u diogelu, ac mae'n drosedd eu niweidio, eu lladd neu eu tynnu o'u cynefin naturiol yn fwriadol.

"Byddwn yn cynnal patrolau ychwanegol i ddiogelu'r morloi ac rwy'n annog pobl i roi gwybod i'r heddlu am unrhyw bryderon sydd ganddynt drwy ffonio 101 neu i adrodd ar-lein a dilyn y cyngor ar beth i'w wneud os ydych yn gweld morloi."

Os ydych chi'n gweld unrhyw arwyddion, neu os ydych chi'n gweld morloi, cymerwch eiliad i wneud y canlynol:

O'r tir:

  • Cadwch oddi ar y traethau lle mae morloi ifanc yn bresennol.
  • Cadwch yn dawel.
  • Cadwch gŵn ar dennyn.
  • Cadwch broffil isel – o dan linell y gorwel i'w gwneud hi'n anoddach i forloi eich gweld.

O'r dŵr:

  • Peidiwch â thirio ar draethau â ble mae morloi ifanc o 01/08 i 30/11.
  • Osgoi agosáu at forloi neu agosáu atynt ar y blaen.
  • Cadwch bellter a chadwch o leiaf 50m* i ffwrdd o forloi ifanc oni bai eu bod yn agosáu atoch chi.
  • Gadewch lwybr i forloi dianc ac osgoi eu bocsio i mewn.
  • Peidiwch â cheisio nofio gyda, cyffwrdd na bwydo morloi.
  • Mae sŵn yn aflonyddu. Cadwch gyflymder o dan 5 cwlwm wrth gyrraedd a gadael. Peidiwch gwylio am fwy na 10 munud. Symudwch i ffwrdd os ydych chi'n arsylwi aflonyddwch o’r morloi, fel nofio cyflym i a ffo, plymio sydyn mewn panig, ac ail-fynediad i'r dŵr.

Os yw morlo bach ar ei ben ei hun ar draeth mae fel arfer yn golygu bod ei fam gerllaw yn y dŵr. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw i ffwrdd fel y gall ddychwelyd at ei rhai bach pan fydd angen.

Os ydych chi'n dyst i forloi yn cael eu haflonyddu neu eu camdrin, ffoniwch yr heddlu ar 101.

Os ydych chi'n credu bod morlo mewn trallod, ffoniwch Achub Bywyd Morol Cymru ar 07970 285086 neu'r RSPCA ar 0300 1234 999.

Gellir dod o hyd i godau ymddygiad i bobl eu dilyn wrth archwilio Arfordir Sir Benfro trwy ymweld â gwefan Cod Morol Sir Benfro.

Am fwy o wybodaeth am y morloi ar hyd arfordir Sir Benfro, ewch i: Seals - Pembrokeshire Coast National Park