Gwaith cynnal a chadw cyffredinol i ddigwydd ar lifddorau'r Bala

Bydd set o lifddorau ar hyd Afon Dyfrdwy ger y Bala yn cael eu harchwilio fel rhan o waith cynnal a chadw cyffredinol.

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cynnal rhaglen archwilio deuddeg wythnos o hyd o ddechrau mis Medi sy'n rhan o waith cynnal a chadw parhaus ar lifddorau'r Bala, sydd yn Afon Dyfrdwy lle mae'n cwrdd ag Afon Tryweryn, nid nepell o Lyn Tegid.

Defnyddir llifddorau i reoli llif dŵr ac mae pedair llifddor fawr yn strwythur y Bala ynghyd â dwy giât lai i hwyluso symudiad pysgod.

Bydd y gwaith yn cynnwys arolwg manwl ac archwiliad o bob giât; cynhelir y gwaith gan y contractwr William Hughes Civil Engineering Ltd gan weithio ar y cyd â Hunton Engineering, gyda chefnogaeth Binnies ac Arcadis.

Drwy gydol cyfnod y gwaith, bydd llif y dŵr yn cael ei gynnal, ac ni fydd unrhyw effaith ar weithrediad arferol y giatiau.

Meddai Sara Pearson, Rheolwr Gweithrediadau Gogledd Cymru CNC ar gyfer Rheoli Llifogydd a Dŵr:

“Rydym yn hysbysu aelodau'r gymuned leol am y gwaith hwn sy'n rhan hanfodol o'n rhaglen cynnal a chadw arferol.
“Mae'r giatiau yn rhan allweddol o System Reoleiddio Afon Dyfrdwy ac maent yn darparu nifer o fanteision drwy gydol y flwyddyn fel storfa i fyny'r afon yn Llyn Tegid yn ystod yr haf a lleihau'r perygl o lifogydd i gymunedau i lawr yr afon yn y gaeaf.
“Mae'r giatiau yn cael eu rheoli a'u monitro gan CNC ac mae'r gwaith hwn yn cael ei gynllunio'n ddiogel i sicrhau na fydd unrhyw effaith ar weithrediadau arferol.
“Mae'r gwaith hwn yn rhan o'n dyletswydd o dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975 sydd hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ni archwilio a chynnal a chadw'r argloddiau o amgylch Llyn Tegid i amddiffyn rhag tywydd eithafol tra'n sicrhau nad ydym yn achosi unrhyw effaith ar bobl na'r amgylchedd.”

Am fwy o wybodaeth ewch i Cyfoeth Naturiol Cymru / Cynllun Rheoleiddio Afon Dyfrdwy