Gwaith adfer afon yn cynnig buddion i’r dalgylch a’r amgylchedd

Mae gwaith i adfer afon yn nalgylch uwch Conwy yn helpu i leihau perygl llifogydd i lawr yr afon a rhoi hwb i fyd natur.
Fel rhan o Brosiect Uwch Conwy, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cynnal gwaith adfer gorlifdir ar Afon Machno – un o brif lednentydd Afon Conwy – ar fferm Carrog Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru.
Roedd rhan o’r gwaith yn cynnwys tynnu argloddiau o waith dyn a gostwng glan yr afon, sy’n caniatáu i ddŵr fynd at y gorlifdir unwaith eto. Mae hyn yn arafu llif yr afon pan fo lefel y dŵr yn uchel ac yn helpu i leihau perygl llifogydd yn is i lawr yn y dalgylch.
Mae sgrafellau a sianeli hefyd wedi’u cloddio ar y gorlifdir i adfer patrymau llif hanesyddol, gan alluogi rhagor o ddŵr i gael ei storio.
Ariannwyd y gwaith drwy Raglen Cyfalaf Dŵr Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi blaenoriaethau amgylcheddol gan gynnwys adfer afonydd, adfer safleoedd mwyngloddio metel, pysgodfeydd ac ansawdd dŵr, ac fe’i cyflwynir drwy bartneriaeth rhwng CNC ac Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru.
Dywedodd Sarah Aubrey, Uwch Swyddog yn nhîm Amgylchedd Conwy CNC:
“Rydym yn falch o fod wedi gweithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru ar y prosiect hwn.
“Mae gostwng glan yr afon yn caniatáu i ddŵr gyrraedd y gorlifdir yn haws mewn cyfnodau o law trwm neu stormydd. Mae hyn yn lleihau cyfaint a chyflymder y dŵr sy’n llifo i Afon Conwy, gan helpu i leihau perygl llifogydd i lawr yr afon.
“Mae hyn yn rhan o’n gwaith ehangach i wella gwytnwch cymunedau yng Nghymru yn wyneb newid hinsawdd ac i helpu i warchod byd natur. Mae gweithio’n agos gyda chontractwyr lleol sy’n deall amgylchedd Uwch Conwy yn sicrhau ein bod yn cyflawni’r canlyniadau gorau ar gyfer byd natur a’r economi leol fel ei gilydd.”
Dywedodd Dewi Davies, rheolwr Prosiect Uwch Conwy gydag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru:
“Mae’n wych gweld sut mae gweithio mewn partneriaeth o fewn Prosiect Uwch Conwy yn parhau i helpu i sicrhau canlyniadau gwych er budd pobl a byd natur.
“Yng Ngharrog, mae clogfeini wedi’u gosod yn yr afon hefyd i greu cynefin i bysgod ac infertebratau, gan ddod â bywyd i’r rhan hon o’r afon unwaith eto.
“Dros amser, bydd rhannau o’r gorlifdir yn cael eu trawsnewid yn gynefinoedd gwlyptir a fydd o fudd i adar gan gynnwys y pibydd, bronwen y dŵr, glas y dorlan yn ogystal â brogaod, madfallod dŵr, ystlumod, dyfrgwn a llygod pengrwn y dŵr.”
Nod Prosiect Uwch Conwy yw sicrhau buddion i gymunedau a bywyd gwyllt dalgylch Uwch Conwy trwy greu amgylchedd glanach ac iachach, gan ddod â phobl a byd natur yn nes at ei gilydd.