Arweinydd gang potsio toreithiog ar Afon Teifi yn cael drop £18,000 wedi’i atafaelu i dalu am ran o’i elw troseddol

Mae arweinydd ymgyrch botsio toreithiog ar Afon Teifi wedi cael £ £18,524.25 wedi’i atafaelu i dalu am gyfran o’r enillion o’i weithgaredd troseddol.

Atafaelwyd yr arian oddi wrth Emlyn Rees, o Genarth yng Ngheredigion, ar ôl i Farnwr yn Llys y Goron Abertawe ganiatáu’r cais i atafaelu gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). 

Cafwyd Mr Rees yn euog o gyhuddiadau pysgota anghyfreithlon yn 2022 ar ôl i CNC gyflwyno cyhuddiadau.  

Yna, gwnaeth CNC gais llwyddiannus o dan y Ddeddf Enillion Troseddau i atafaelu arian twyll Mr Rees o’i weithgareddau potsio. Ym mis Gorffennaf 2022, gorchmynnodd Barnwr yn Llys y Goron Abertawe y dylid atafaelu £61,791.50 oddi wrtho. 

Gan nad oedd Mr Rees yn gallu talu’r swm atafaelu, gorfu iddo dalu swm enwol o £1. Byddai gweddill y ddyled yn cael ei hatafaelu pe bai’n etifeddu arian neu asedau yn y dyfodol. 

Gan fod Mr Rees i fod i etifeddu rhywfaint o arian, gwnaeth CNC gais i atafaelu’r arian hwnnw i’w dalu tuag at ei rwymedigaeth a orchmynnwyd gan y llys. 

Heddiw (28 Gorffennaf) cafodd Mr Rees dri mis i dalu'r £18,524.25 yn ogystal â dedfryd o 9 mis o garchar yn ddiofyn. 

Nid yw’r swm a atafaelwyd oddi wrth Mr Rees yn cwmpasu’r cyfan o’r swm atafaelu a orchmynnwyd gan y llys, a bydd y ddyled sy’n weddill yn cael ei hatafaelu oddi wrth Mr Rees os bydd yn cael arian neu asedau ar ôl rhywun eto yn y dyfodol. 

Dywedodd Ann Weedy, Rheolwr Gweithrediadau Canolbarth Cymru yn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC): 

“Mae gan CNC ddyletswydd gyfreithiol i warchod yr amgylchedd naturiol yng Nghymru, ac mae hynny’n cynnwys gorfodi deddfau pysgota. 
“Mae gweithredoedd anghyfreithlon Mr Rees wedi cael effaith syfrdanol ar y stociau o eogiaid a brithyllod y môr yn Afon Teifi sydd eisoes yn fregus, ac mae’n rhaid iddo wynebu canlyniadau ei weithredoedd. 
"Mae'r canlyniad heddiw yn dangos ein bod yn parhau i asesu troseddwyr, fel Mr Rees sydd â gorchmynion atafaelu dyledus o dan y Ddeddf Enillion Troseddol, ac y byddwn yn adennill dyledion pan fydd ganddynt arian neu asedau perthnasol ar gael." 

Cadwodd Mr Rees gyfriflyfr manwl o’i ddalfeydd anghyfreithlon. Dros gyfnod o saith mlynedd, gwnaed 373 o gofnodion dyddiedig o ddal pysgod yn manylu ar nifer a phwysau’r pysgod a ddaliwyd, gan gynnwys 989 o frithyllod y môr a 302 o eogiaid. 

Mae’r pysgota anghyfreithlon a gyflawnwyd gan Mr Rees a’i gymdeithion rhwng 2013 a 2020 wedi arwain at golled dybiedig o 686,534 o wyau eog a 2,285,164 o wyau brithyllod y môr. Mae hyn yn cynrychioli colled enfawr o ran potensial bridio.