Diweddariad torri coed Rhyslyn

Gwaith Cwympo Coed Rhyslyn

Mae gwaith cwympo coed yn ardal Rhyslyn yng Nghoedwig Afan wedi wynebu oediadau oherwydd cyfuniad o bethau - y tywydd gwael rydym wedi bod yn ei gael, argaeledd contractwyr, a chan bod y contract ar gyfer y gwaith yn dod i ben.

Rydym yn edrych ar bob opsiwn i drefnu contract newydd ac i sicrhau bod y gwaith hwn yn cael ei gwblhau cyn gynted ag sydd bosibl.

Yn y cyfamser, byddwn yn uwchraddio rhwydwaith ffyrdd y goedwig.

Pont droed yn ailagor

Byddwn yn ailagor y bont droed o Ganolfan Ymwelwyr Afan dros yr wythnosau nesaf. Bydd Llwybr yr Afon a'r Rheilffordd ar gael hefyd, yn ogystal â mynediad yn ôl i Abercregan o Ganolfan Ymwelwyr Afan. Ynghlwm mae map sy'n cynnwys y llwybr wedi'i amlygu mewn oren. Unwaith y bydd gennym ddyddiadau ailagor penodol, byddwn yn rhoi gwybod i chi a hefyd yn eu hyrwyddo ar ein cyfryngau cymdeithasol ac ar ein gwefan.

Llwybr Glan-yr-afon Rhyslyn

Mae’r gwaith cwympo coed sydd wedi bod yn digwydd ar hyd llwybr cerdded Glan-yr-afon Rhyslyn a’r llwybrau beicio mynydd, sef ‘Zigzags’ ar lwybr Y’Wal a Rookie Blue, wedi achosi difrod sylweddol i arwynebau’r llwybrau hyn.

Mae coed a changhennau mawr ar draws y llwybrau sy’n achosi pryderon o ran diogelwch y cyhoedd. Mae'n rhaid i ni hefyd ddisgwyl nes bod yr holl waith cwympo wedi'i gwblhau ar y safle cyn y gallwn adfer y llwybrau a gosod yr holl seilwaith, er enghraifft yr arwyddbyst, yn eu lle.