Adolygu trwyddedau dŵr gwastraff i leihau ffosfforws a helpu i gyflenwi tai fforddiadwy

Afon Dyfrdwy

Mae prosiect ar y gweill gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i adolygu 171 o drwyddedau amgylcheddol cwmnïau dŵr ar gyfer gweithfeydd trin dŵr gwastraff mewn afonydd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) er mwyn lleihau llygredd ffosfforws.

Mae'r adolygiad yn canolbwyntio ar ollyngiadau mwy (20m3 y dydd neu fwy) i sicrhau bod deiliaid trwyddedau’n chwarae eu rhan i gyrraedd y gostyngiad sydd ei angen mewn lefelau ffosfforws er mwyn osgoi dirywiad pellach yn naw o afonydd ACA Cymru.

Mae'n cefnogi cynllun gweithredu'r Prif Weinidog, Lleihau Pwysau ar Ddalgylchoedd Afonydd Ardal Cadwraeth Arbennig i Helpu i Gyflenwi Tai Fforddiadwy sy'n nodi camau gweithredu, amserlenni a chyfrifoldebau clir i fynd i'r afael â llygredd yn nalgylchoedd yr afonydd ACA a mynd i'r afael â chyfyngiadau cynllunio. 

Mae’r prosiect yn cael ei gynnal gan ddefnyddio tystiolaeth o waith ymchwil ar y cyd rhwng CNC a Dŵr Cymru sy’n dadansoddi ffynonellau ffosfforws ym mhob dalgylch ACA.  Mae’r data dosbarthu ffynonellau yn galluogi cwmnïau dŵr a rheoleiddwyr i ddeall yn well yr ardaloedd lle mae gwaith trin dŵr gwastraff yn cael yr effaith fwyaf, a lle mae angen buddsoddiad a gwelliant pellach.

Bydd trwyddedau diwygiedig, gyda chyfyngiadau newydd ar gyfer ffosfforws yn cael eu cyhoeddi fesul cam ar wefan CNC. 

Dywedodd Rhian Jardine, Pennaeth Gwasanaeth Cynghori ar Gynlluniau Datblygu CNC:
“Mae ein hafonydd ACA yn cynnal peth o fywyd gwyllt mwyaf arbennig ac eiconig Cymru, ac mae'n rhaid i ni gymryd camau i ostwng lefelau maetholion sy'n achosi niwed ecolegol difrifol.
“Er mai ein rôl ni yw gwarchod yr afonydd hyn, rydym hefyd yn cydnabod yr angen dybryd am ddatblygiadau a thai fforddiadwy i gefnogi cymunedau.
“Mae llawer o gyfranwyr at lygredd ffosffad yn ein hafonydd, ond nod y gwaith hwn i adolygu trwyddedau trin dŵr gwastraff yw gwneud yn siŵr bod cwmnïau dŵr yn cyfrannu’n briodol at leihau ffosfforws.
“Mae llawer o waith i’w wneud o hyd – a bydd angen i ddiwydiannau eraill fel amaethyddiaeth hefyd ymateb i’r her – ond mae hwn yn gam hollbwysig i alluogi awdurdodau cynllunio i wneud penderfyniadau ar geisiadau a chaniatáu datblygiadau yn y mannau cywir.” 

Mae datblygiadau o fewn llawer o ddalgylchoedd afonydd ACA wedi’i ohirio yn dilyn adroddiad yn 2021 a ganfu fod 60% o’n hafonydd ACA yn methu â chyrraedd targedau ffosffad. 

Yn ôl y gyfraith, mae angen i Awdurdodau Cynllunio fod yn fodlon na fydd unrhyw gynigion datblygu newydd y maent yn rhoi caniatâd ar eu cyfer yn arwain at ddifrod i ACA. Nid yw hwn yn ofyniad newydd, ond rhaid iddynt ystyried ffynonellau ffosfforws yn y dalgylchoedd yr effeithir arnynt. 

Wrth i ddata trwyddedau gael ei adolygu, ac wrth i gyfyngiadau newydd gael eu gosod, bydd yn ofynnol i awdurdodau cynllunio ac i Dŵr Cymru benderfynu a oes gan weithfeydd trin dŵr gwastraff y gallu i sefydlu cysylltiadau newydd o fewn y terfyn a ganiateir ar gyfer ffosfforws.

Mae'r cyngor presennol i awdurdodau cynllunio ar gyfer ceisiadau cynllunio sy'n effeithio ar afonydd mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig sy’n sensitif i ffosfforws wedi'i ddiweddaru.