Bydd adfer cynefin morfa heli yn helpu i wella ecosystem arfordirol a lleihau perygl llifogydd

Llun o Aber Hafren o'r draethlin

Mae gwaith i adfer y cynefin morfa heli ar hyd Aber Afon Hafren ger Glanfa Fawr Tredelerch yn ne Cymru, wedi ei gwblhau.

Bydd y gwaith a wnaed gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn helpu i gynyddu bioamrywiaeth a gwytnwch yn yr Aber yn ogystal â lleihau perygl llifogydd yn yr ardal.

Wedi’i gyflawni fel rhan o’r rhaglen Rhwydweithiau Natur a ariennir gan Lywodraeth Cymru, mae’r gwaith adfer wedi cynnwys adnewyddu ac ymestyn dros 2km o bolderau gwaddodi ar hyd y blaendraeth.

Mae'r strwythurau, sydd wedi'u gwneud o byst castanwydd a bwndeli o brysgwydd, yn helpu i annog cynefin morfa heli i ffurfio, trwy arafu symudiad y llanw wrth iddo gilio, gan ganiatáu i waddod gael ei ddyddodi yn y caeau polder.

Dros amser, bydd llaid a thywod yn cronni ac yn troi'n forfa heli. Bydd hyn yn helpu i adfer cynefin pwysig aber afon Hafren, gan gynnal bywyd gwyllt lleol a helpu i ddal carbon.

Mae’r Aber yn cynnal rhai o’r cynefinoedd pwysicaf a mwyaf gwarchodedig yn y DU, ac mae wedi’i dynodi’n Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA). Mae’n gartref i nifer sylweddol o adar dŵr ac infertebratau dyfrol ac mae’n darparu coridor gwerthfawr ar gyfer pysgod mudol.

Bydd yr ateb hwn sy'n seiliedig ar natur hefyd yn helpu i wella'r amddiffynfeydd presennol rhag llifogydd a lleihau'r perygl o lifogydd yn y dyfodol trwy leihau pwysau yn sgil erydiad.

Dywedodd Huw Irranca-Davies, y Dirprwy Brif Weinidog sy’n gyfrifol am Newid Hinsawdd:

Mae adfer cynefin morfa heli yn rhan mor bwysig o’r ffordd rydym yn mynd i’r afael ag argyfyngau’r hinsawdd a natur. Mae ganddo botensial enfawr i ddal a storio carbon, yn ogystal â hyrwyddo natur a bywyd gwyllt.
Mae’r prosiect hwn sydd wedi’i gwblhau yng Nglanfa Fawr Tredelerch wedi derbyn bron i £852,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru drwy ein rhaglen Rhwydweithiau Natur a bydd yn ein helpu i ddiogelu ein hamgylchedd morol gwerthfawr.

Dywedodd Lily Pauls, arweinydd tîm prosiectau morol CNC:

Rydym wrth ein bodd bod gwaith i helpu i wella'r cynefin pwysig hwn wedi'i gwblhau. 
Mae helpu i adfer byd natur o fudd i bawb a bydd gwella'r amodau ar draws Glanfa Fawr Tredelerch yn helpu’r gwastadedd llaid a'r forfa heli i adfer ac yn creu gwell amodau i'r bywyd gwyllt sy'n byw ynddynt ac o'u cwmpas. 
Mae'r cynefinoedd hyn mor werthfawr am gymaint o resymau. Yn ecolegol, maen nhw’n cefnogi pob math o fywyd, o blanhigion arbenigol i adar a physgod, felly maen nhw’n chwarae rhan hanfodol o ran cadwraeth natur ac maen nhw’n rhan mor bwysig o'r arfordir ar hyd yr aber.
Gall morfeydd heli iach hefyd ddarparu amddiffyniad rhag llifogydd, a dal carbon i helpu yn erbyn newid yn yr hinsawdd, felly gallant wneud cyfraniad pwysig a chadarnhaol at ddiogelu yn erbyn yr argyfwng hinsawdd. 
Mae’r prosiect hwn yn enghraifft ardderchog o sut rydym yn gweithio tuag at uchelgeisiau ein cynllun corfforaethol er mwyn bod yn natur bositif erbyn 2030.