Gwahodd trigolion yn ardaloedd gogledd Dyffryn Gwy i roi eu barn ar gynlluniau rheoli coedwigoedd newydd

Merch yn taflu dail mewn coedwig

Mae trigolion sy’n mwynhau defnyddio rhai o’r coetiroedd mwyaf poblogaidd yn ardal ogleddol Dyffryn Gwy yn cael eu hannog gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i roi eu barn ar gynlluniau i’w rheoli ar gyfer y dyfodol.

Mae CNC, sy’n rheoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru (YGLlC) ledled Cymru, wedi datblygu cynlluniau rheoli 10 mlynedd ar gyfer y coetiroedd yng ngogledd Dyffryn Gwy sy’n cynnwys Yr Hendre, Beacon Hill, Comin Trellech a Choed Beddick ymhlith eraill.

Mae’r cynllun yn nodi amcanion a chynigion hirdymor ar gyfer rheoli’r coetiroedd a’r coed sydd ynddynt yn y dyfodol. Mae hefyd yn cynnwys strategaethau ar gyfer sut y bydd CNC yn parhau i fynd i’r afael â’r llarwydd heintiedig yn yr ardal.

Mae CNC hefyd yn cynnal sesiwn alw heibio gyhoeddus i bobl weld y cynlluniau ar gyfer y coetiroedd yn ardal ogleddol Dyffryn Gwy yn bersonol ac i siarad â chynllunwyr coedwig. Cynhelir  y digwyddiad galw heibio:

Ar 6 Rhagfyr 2023, rhwng 11.30am a 6pm yn Neuadd Bentref y Narth, Y Narth,Trefynwy NP25 4QN

Dywedodd Laura McLoughlin, Uwch Swyddog Coedwigaeth Cyfoeth Naturiol Cymru:

Mae ein coedwigoedd yn cynnig cymaint o fanteision i’r amgylchedd naturiol ac i’n cymunedau. Maent yn ein helpu yn y frwydr yn erbyn yr argyfyngau yn yr hinsawdd ac yn natur, yn darparu pren o ansawdd da i ni ei ddefnyddio, ac yn lleoedd anhygoel i ni i gyd i dreulio amser ynddynt, i fwynhau ac i gysylltu â natur.
Gwyddom pa mor werthfawr yw ein coetiroedd, ac rydym am wneud yn siŵr bod y bobl sy’n eu defnyddio yn cael y cyfle i ddweud eu dweud am sut y cânt eu rheoli yn y dyfodol.
Mae ein Cynlluniau Adnoddau Coedwig yn ein helpu i sicrhau y gall yr ardaloedd hyn barhau i ddiwallu anghenion y cymunedau lleol am flynyddoedd i ddod.
Byddem yn annog pobl i ymuno â ni yn ein sesiwn alw heibio ar 6 Rhagfyr neu i gwblhau ein harolwg ar-lein ac i ddweud eu dweud.

Gall pobl ddarllen y cynlluniau yn fanwl a gadael adborth trwy ymgynghoriad ar-lein CNC:

Cynlluniau Newydd ar Gyfer Gogledd Dyffryn Gwy (Wye Valley North) - Natural Resources Wales Citizen Space - Citizen Space (cyfoethnaturiol.cymru)

Mae’r ymgynghoriad ar agor tan 20 Rhagfyr 2023

Gall unrhyw un sy’n dymuno cymryd rhan ond nad yw’n gallu gweld y cynigion ar-lein gysylltu â 03000 65 3000 neu e-bostio frp@cyfoethnaturiol.cymru a gofyn am gopi caled.

Gall preswylwyr sy’n dymuno anfon adborth drwy’r post ei anfon at:

Cyfoeth Naturiol Cymru
Heol Hadnock
Trefynwy
Sir Fynwy
NP25 3NQ