Adroddiad yn datgelu bod angen buddsoddiad mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd er mwyn ymateb i newid yn yr hinsawdd

Golygfa o gynllun llifogydd Rhydaman o'r awyr

Bydd ymateb i newid yn yr hinsawdd a lleihau'r perygl o lifogydd yn y dyfodol i gymunedau ledled Cymru yn gofyn am fuddsoddiad cynyddol a pharhaus mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd - ond ni fydd yn economaidd amddiffyn pob lleoliad sydd mewn perygl.

Dyma gasgliad adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) heddiw (11 Ionawr), sy’n edrych ar lefel y buddsoddiad sydd ei angen mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd i reoli perygl llifogydd Cymru yn y dyfodol o afonydd a'r môr mewn hinsawdd sy'n newid. 

Cyhoeddir adroddiad CNC, Gofynion Buddsoddi Hirdymor ar gyfer Amddiffynfeydd rhag Llifogydd yng Nghymru, mewn ymateb i gam gweithredu yn Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Genedlaethol Llywodraeth Cymru.

Mae'n ystyried pedair senario fuddsoddi wahanol ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd ar raddfa genedlaethol (Cymru) dros gyfnod o 100 mlynedd sy'n ystyried effeithiau newid hinsawdd. Mae'r senarios yn cynnwys ymateb i newid yn yr hinsawdd ar gyfer yr holl amddiffynfeydd presennol, buddsoddi mewn amddiffynfeydd sy'n gost-fuddiol, buddsoddi mewn lleoliadau sydd â'r risg uchaf yn unig, ac effeithiau buddsoddi ar lefelau cyllido cyfredol. 

Yn ôl casgliadau’r adroddiad, dros y 100 mlynedd nesaf, ac o ystyried effeithiau rhagamcanol newid hinsawdd, bydd 24% yn fwy o eiddo mewn perygl o lifogydd o afonydd a 47% yn fwy o ganlyniad i lifogydd llanwol.  Bydd 34% yn fwy o eiddo mewn perygl o lifogydd dŵr wyneb.  Mae'r ffigurau hyn cyn i unrhyw eiddo newydd gael eu hadeiladu.

Bydd ymateb i ragamcanion newid hinsawdd ar draws Cymru dros y ganrif nesaf ar gyfer yr holl amddiffynfeydd llifogydd presennol yn gofyn am 3.4 gwaith y lefelau cyllido presennol. Er bod y senario hon yn dod â'r manteision mwyaf o ran lleihau'r perygl llifogydd i'r nifer fwyaf o eiddo, bydd yn costio’r mwyaf i'w chyflawni.

Byddai buddsoddi mewn amddiffynfeydd economaidd yn unig, lle byddai'r budd economaidd o gyflawni gwaith gwella yn fwy na’r costau, yn gofyn am gynnydd o 40% mewn lefelau cyllido, ond byddai o fudd i lai o eiddo.

Er y bydd unrhyw waith yn dod ar gost, dywed yr adroddiad fod budd economaidd buddsoddi mewn cynlluniau rheoli perygl llifogydd ar lefel Cymru gyfan yn llawer mwy na'r costau o gyflawni'r gwaith ym mhob un o'r pedair senario, gyda phob £1 sy'n cael ei wario yn rhoi rhwng £2.80 a £13.10 o fudd, yn dibynnu ar y senario.

Fodd bynnag, ar lefel leol, efallai na fydd rhai lleoliadau yn gost-effeithiol i'w hamddiffyn, a bydd angen gwneud penderfyniadau anodd ar sut y rheolir perygl llifogydd yn yr ardaloedd hyn.  Bydd buddsoddi mewn lleoliadau risg uchel yng Nghymru bob amser yn rhoi budd gan fod y rhan fwyaf o'r eiddo sydd mewn perygl wedi'u lleoli yn yr ardaloedd hyn. Fodd bynnag, mae dros 22,000 eiddo y tu ôl i amddiffynfeydd llifogydd sy'n aneconomaidd i fuddsoddi ynddynt dros y 100 mlynedd nesaf.

Er bod amddiffynfeydd rhag llifogydd yn chwarae rhan hanfodol wrth reoli'r risg hon, bydd angen cyfuniad o ymyriadau ar Gymru er mwyn helpu cymunedau i ddod yn fwy gwydn.  Ac o ystyried yr amser y mae'n ei gymryd i gynllunio a sicrhau cyllid ar gyfer cynlluniau adeiladu a strategaethau addasu ar raddfa fawr, a chan fod effeithiau newid hinsawdd eisoes yn amlwg, mae CNC yn annog yr holl randdeiliaid i gynllunio nawr ac ystyried y dull amlweddog y bydd ei angen i reoli perygl llifogydd yng Nghymru yn effeithiol yn y dyfodol. 

Meddai Clare Pillman, Prif Weithredwr CNC:

"Does dim gwadu mai her fwyaf ein hoes ni yw argyfwng yr hinsawdd. Rydym yn sicr wedi bod yn delio ag effeithiau dybryd yr argyfwng hwnnw yn ddiweddar, gyda nifer o stormydd yn taro glannau Cymru dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf.
"Bydd y ffordd yr ydym yn rheoli mwy o berygl llifogydd yn y dyfodol yn dod hyd yn oed yn fwy heriol wrth i'r newid yn yr hinsawdd gyflymu. Nod yr adroddiad hwn yw helpu i ddeall y buddsoddiad sydd ei angen mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd i leihau'r risg honno i bobl dros y ganrif nesaf. Bydd yn sbarduno sgyrsiau anodd ynghylch lle mae rhaid targedu buddsoddiad a dulliau y gallai fod angen eu cymryd mewn ardaloedd sydd ag eiddo cyfyngedig a llai o fuddion economaidd.
"Ond mae'n hanfodol ein bod ni'n cael y sgyrsiau hynny nawr. Ni fyddwn byth yn gallu atal pob achos o lifogydd, ac mae'r risgiau'n cynyddu. Dyna pam mae'n rhaid i lywodraethau o bob lefel, busnesau a chymunedau weithio gyda'i gilydd nawr - i gynllunio'n effeithiol, a gweithredu i reoli'r risgiau cynyddol o lifogydd yr ydym yn eu gweld nawr ac a fydd yn parhau yn y dyfodol."

Er bod gan waith i gynnal a buddsoddi mewn amddiffynfeydd llifogydd i ymateb i’r newid yn yr hinsawdd ran fawr i'w chwarae wrth leihau'r risg i gymunedau yng Nghymru, mae’r adroddiad yn pwysleisio fod angen ystyried mwy na dim ond hynny. Mae'n dangos, waeth beth fo'r senario a weithredir ar draws y cyfnod gwerthuso 100 mlynedd, y bydd difrod gweddilliol o hyd, gan bwysleisio y bydd angen i Gymru fod yn uchelgeisiol ac edrych ar amrywiaeth o ffyrdd i weithio'n gyfannol i reoli'r risg gynyddol.

Dywedodd Jeremy Parr, Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd a Digwyddiadau yn CNC:

"Er y byddwn yn parhau i fuddsoddi a chynnal ein hamddiffynfeydd rhag llifogydd, ni allant ddarparu amddiffyniad 100%.  Gall llifogydd lifo dros amddiffynfeydd, neu gall yr amddiffynfeydd fethu.  Mae angen iddynt hefyd barhau i allu ymdopi â newid yn yr hinsawdd bob blwyddyn os ydynt am ddal i ddarparu'r un safon o amddiffyniad.  Mae hyn yn golygu y bydd angen iddynt fod yn uwch ac yn gryfach, a chael eu cynnal i fod yn addas at y diben.
"Ond nid yw hyn yn ymarferol nac yn gost-effeithiol ym mhob lleoliad. Mae angen i ni ddeall beth sy’n bosibl – ac yn ddymunol – dros y tymor hir.  Rydym yn gwybod y bydd angen i ni wneud pethau'n wahanol os ydym am fynd i'r afael â'r heriau mwy sydd o'n blaenau. Mae hyn yn cynnwys defnyddio dulliau rheoli llifogydd naturiol lle bynnag y gallwn, osgoi datblygiadau mewn ardaloedd â pherygl uchel o lifogydd, defnyddio dulliau dalgylch cyfan, rhagweld yn well ac annog pobl i gofrestru i gael rhybuddion llifogydd am ddim.  
"Mae'n rhaid i ni gymryd y risgiau o ddifrif. Mae newid yn yr hinsawdd yn digwydd nawr, ac rydym yn gweld y dystiolaeth o'n cwmpas. Mae angen i ni symud y ddadl addasu ymlaen yng Nghymru a dod â phawb y gallai llifogydd effeithio arnynt at ei gilydd i ddylunio a chyflwyno'r dull cyfannol sydd ei angen ar gyfer rheoli perygl llifogydd yn y dyfodol, a pharatoi ar gyfer effeithiau anochel newid yn yr hinsawdd."