Dirwy i gwmni ailgylchu am weithgareddau gwastraff anghyfreithlon

Mae cwmni ailgylchu gwastraff hylif organig wedi cael dirwy o £41,310.00 am daenu gwastraff yn anghyfreithlon ar fferm ger Aberhonddu, Powys, ym mis Awst 2021 yn dilyn ymchwiliad gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)

Cafodd Whites Recycling Limited eu dedfrydu yn Llys Ynadon Merthyr Tudful ddydd Mercher (26 Gorffennaf) ar ôl pledio'n euog i ddwy drosedd, gan gynnwys torri amodau trwydded amgylcheddol yn ymwneud â thaenu gwastraff ar dir fferm, yn groes i Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.

Canfu ymchwiliad a gynhaliwyd gan swyddogion CNC rhwng Gorffennaf - Awst 2021, fod symiau sylweddol o wastraff hylif oedd yn cynnwys cymysgedd o wastraff bwyd a bragu gyda golchion dofednod, wedi cael eu taenu ar dir ar fferm ger Aberhonddu, gan Whites Recycling. Roedd swm y gwastraff yn uwch na'r cyfraddau a nodir yn eu trwydded amgylcheddol gan beri risg sylweddol o lygredd i ddŵr wyneb a dŵr daear.

Canfu swyddogion CNC fod gwastraff hefyd wedi’i daenu mewn 'parth dim taenu’ - ardal sydd fel arfer wedi'i marcio ar fap i sicrhau na chaiff gwastraff ei wasgaru ar ardaloedd o risg neu fregusrwydd arbennig o uchel.

Mae Whites Recycling Limited yn wasanaeth rheoli gwastraff arbenigol sy'n gwaredu ac yn ailgylchu gwastraff slwtsh a gwastraff hylif, ac mae'r rhan fwyaf ohono'n cael ei gynhyrchu gan y diwydiant bwyd.

Mae gan y cwmni drwydded amgylcheddol, sy'n golygu y gall daenu gwastraff yn gyfreithlon ar dir fferm mewn amgylchiadau lle gellir dangos y bydd taenu ar y tir yn arwain at fudd amaethyddol neu ecolegol.

Cyn y gellir taenu’r gwastraff, mae'r drwydded yn nodi bod yn rhaid i'r cwmni hysbysu CNC gan ddefnyddio ffurflen taenu gwastraff, a rhaid i CNC gytuno y caiff y cwmni daenu gwastraff.

Mae hyn yn sicrhau y caniateir i wastraff gael ei daenu ar dir dim ond pan fydd o fudd i'r pridd neu'r cnwd sy'n cael ei dyfu ynddo a lle na fydd yn peri risg o niwed i'r amgylchedd.

Yn y ddedfryd ar 26 Gorffennaf, cafodd y cwmni ddirwy o £14,000 am bob trosedd, gorchymyn i dalu gordal dioddefwr o £190 a chostau cyfreithiol CNC o £13,120, gan ddod â'r cyfanswm i £41,310.

Dywedodd Chris Gurney, Swyddog Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru: 

Mae ein rheoliadau amgylcheddol ar waith am reswm. Rhaid i bob busnes yn y diwydiant gwastraff gael trwydded i symud, storio neu drin gwastraff, ac i sicrhau ei fod yn cael ei wneud mewn ffordd nad yw'n peri unrhyw risg i'r amgylchedd nac i iechyd pobl.
Lle bynnag y bo'n bosibl, rydym yn gweithio gyda gweithredwyr i sicrhau bod eu gweithgareddau'n cydymffurfio â'r gyfraith.
Ond pan fydd busnes yn methu â gweithredu o fewn telerau ei drwydded a'r canllawiau a ddarperir, byddwn yn cymryd camau priodol i sicrhau diogelwch yr amgylchedd lleol, y gymuned a buddiannau gweithredwyr cyfreithlon.
Rydym yn gobeithio y bydd canlyniad yr achos hwn yn anfon neges i weithredwyr eraill ein bod yn cymryd troseddau taenu ar y tir o ddifrif ac y byddwn yn cymryd y camau priodol i ddiogelu pobl a natur.

I roi gwybod am ddigwyddiad amgylcheddol ffoniwch 0300 065 3000 neu defnyddiwch y ffurflen adrodd ar-lein:Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhoi gwybod am ddigwyddiad (naturalresources.wales)