Arolwg gloÿnnod byw prin yn dangos 'niferoedd addawol' yng Ngheredigion
Mae arolwg diweddar wedi dangos canlyniadau addawol ar gyfer niferoedd glöyn byw Brith y Gors yng Ngheredigion, un o loÿnnod byw prinnaf y DU.
Er iddo fod yn gyffredin ledled y DU ynghynt, mae Brithion y Gors wedi gweld gostyngiad o 79% yn ei ddosbarthiad yn y DU ers canol y 1970au, yn ogystal â gostyngiad o 60% mewn niferoedd ledled Cymru. Mae'r rhesymau dros y dirywiad hwn yn cynnwys colli a diraddio'r glaswelltiroedd corsiog, a elwir hefyd yn borfeydd rhos, sy'n cynnal y glöyn byw. Mae Gorllewin a De Cymru bellach yn un o'r cadarnleoedd sy'n weddill ar gyfer y rhywogaeth hon yn y DU.
Roedd yr arolwg yn cyfrif nifer y gweoedd sidan a nyddwyd gan lindys sy’n deor o wyau glöyn byw Brith y Gors. Cafwyd hyd i weoedd sidan ym mhob un ond un o'r 12 safle a gynhwyswyd yn yr arolwg. Cafwyd hyd i gyfanswm o 700 o weoedd ar draws safleoedd yr arolwg.
Mae'r gweoedd larfaol hyn yn un o ddangosyddion gorau poblogaethau Brith y Gors, gan eu bod yn haws eu gweld na'r gloÿnnod byw eu hunain, gan y gellir eu gweld ym mhob tywydd.
Cynhaliwyd yr arolwg gan Dîm Amgylchedd Cyfoeth Naturiol Cymru yng Ngheredigion, ynghyd â chydweithwyr o Butterfly Conservation, Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru a chofnodwr gloÿnnod byw y sir, Paul Taylor.
Dywedodd Dr Carol Fielding, Arweinydd Tîm Amgylchedd CNC yng Ngheredigion:
"Mae canlyniadau'r arolwg yn dangos niferoedd addawol ac yn awgrymu bod Ceredigion yn parhau i fod yn faes allweddol ar gyfer y glöyn byw prin hwn.
"Ynghyd â'r Ymddiriedolaeth Natur a Butterfly Conservation, mae ein tîm wedi gweithio'n agos gyda pherchnogion cynefinoedd porfeydd rhos i ddefnyddio'r dulliau rheolaeth tir cywir megis sicrhau pori addas.
"Mae'r gwaith rheoli tir hwn yn cefnogi ac yn gwella gwytnwch ein hecosystemau ac yn cynyddu bioamrywiaeth. Rydym yn gobeithio arolygu y gloÿnnod byw llawn dwf ym mis Mai a Mehefin y flwyddyn nesaf, ar ôl i'r lindys ddeor, a pharhau i fonitro'n flynyddol."
Mae gloÿnnod byw Brith y Gors yn ffynnu mewn porfeydd rhos; glaswelltir corsiog llawn rhywogaethau sydd i'w cael mewn ardaloedd iseldir, gan gynnwys Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a meysydd glo De Cymru.
Mae'r gloÿnnod byw llawn dwf yn hedfan o gwmpas porfeydd rhos rhwng Mai a Gorffennaf ac yn gosod wyau o dan ddail planhigyn Tamaid y Cythraul, sydd hefyd yn blanhigyn bwyd y rhywogaeth. Mae'r wyau hyn yn deor ar ôl ychydig wythnosau i mewn i lindys bach, sy'n gweithio gyda'i gilydd i droelli gwe sidan o fewn dail Tamaid y Cythraul. Mae pob gwe yn amddiffyn hyd at 75 o lindys.