Gwahodd y cyhoedd i rannu syniadau am drafnidiaeth a mynediad yn Niwbwrch

Bydd digwyddiad cyhoeddus rhyngweithiol yn cael ei gynnal i edrych ar welliannau posibl i fynediad a thrafnidiaeth yn Niwbwrch, Ynys Môn.

Bydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn yn cynnal y digwyddiad i greu syniadau, dod o hyd i atebion a meithrin cydweithio.

Bydd y gweithdy cymunedol, a fydd yn cael ei hwyluso gan asiantaeth datblygu Cwmpas, yn dod â phobl leol, busnesau, sefydliadau cymunedol a gwasanaethau at ei gilydd i gydweithio.

Cynhelir dwy sesiwn, 1pm tan 4pm a 5pm tan 8pm, ddydd Iau 7 Mawrth yn Sefydliad Prichard Jones, Niwbwrch, LL61 6SY.

Gall aelodau’r cyhoedd sy’n dymuno mynychu un o’r sesiynau wneud hynny drwy glicio yma Gweithdy Cymunedol: Symud Niwbwrch Ymlaen Tickets, Multiple Dates | Eventbrite. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael.

Dywedodd Aled Jones-Griffith, Pennaeth Coleg Meirion-Dwyfor a Choleg Menai, a Chadeirydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn:

“Rydym yn edrych ymlaen at gynnal y digwyddiad hwn a fydd yn dod â phobl ynghyd i rannu syniadau ac atebion ar gyfer materion mynediad a thrafnidiaeth yn Niwbwrch a'r cyffiniau.
“Rydym yn annog aelodau o’r gymuned i fynychu fel y gallwn adlewyrchu’r amrywiaeth eang o safbwyntiau ar y materion hyn. Mae llawer o waith da eisoes yn digwydd trwy bartneriaeth a bydd gweithio gyda’r gymuned yn adeiladu ar lwyddiannau blaenorol, gan ddod â phobl ynghyd i gyflawni hyd yn oed mwy.”

Gofynnodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a Môn i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Chyngor Sir Ynys Môn fod yn rhan o’r prosiect hwn fel rhan o waith ymgysylltu’r ddau sefydliad o fewn y pentref a Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch a reolir gan CNC.

Dywedodd Justin Hanson, Arweinydd Tîm Pobl a Lleoedd Gogledd-orllewin Cymru ar ran CNC:

“Rydym yn falch o fod yn rhan o’r digwyddiad hwn. Mae'r math hwn o waith partneriaeth blaengar yn y gymuned yn ganolog i'n gwaith rheoli a chynllunio yn Niwbwrch.
“Rydym yn gofyn i drigolion sut y gellir gwella trafnidiaeth a mynediad i’r gymuned a sicrhau eu bod yn parhau i weithio’n dda i ymwelwyr. Rydym yn annog pobl i fanteisio ar y cyfle i ymuno â’r sesiwn ryngweithiol hon i edrych ar yr heriau, creu syniadau a dod o hyd i atebion.
“Mae’r math hwn o waith yn ein helpu i reoli perthynas y safle â’r gymuned gyfagos mewn ffordd gydweithredol.
"Bydd hyn yn ein galluogi i sicrhau bod pawb yn cael profiad cystal â phosibl tra'n parchu, gwarchod a gwella'r amgylchedd naturiol, yr ardal leol, a buddiannau'r bobl.”

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch yn safle o arwyddocâd rhyngwladol o ran bioamrywiaeth ac yn gartref i rai o gynefinoedd twyni tywod mwyaf gwerthfawr Cymru sy’n gartref i amrywiaeth o degeirianau, amffibiaid, ymlusgiaid ac infertebratau prin.

Ychwanegodd y Cynghorydd Llinos Medi, Arweinydd Cyngor Ynys Môn a deiliad y portffolio Datblygu Economaidd:

“Mae Niwbwrch yn bentref sy’n berwi o hanes Cymru. Mae gan y gwningar, y goedwig a'r traeth gerllaw hefyd nodweddion pwysig sy'n cyfoethogi amgylchedd ac economi Ynys Môn.
“Mae’r gymuned leol yn wynebu nifer o heriau yn ystod misoedd yr haf, yn arbennig, gyda nifer yr ymwelwyr yn cynyddu’n sylweddol.
“Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda CNC a phartneriaid eraill y BGC i sicrhau gwelliannau i fynediad a thrafnidiaeth a fydd yn gwella llesiant trigolion ac yn darparu buddion cynaliadwy i’r gymuned leol.”

Am ragor o fanylion, cysylltwch â niwbwrch@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk