Ymgynghoriad cyhoeddus yn cychwyn ar reoli coedwigoedd Ynysowen a Chwm Cynon ar gyfer y dyfodol

Llwybr coediog eang yn troelli’n ysgafn i’r dde, gyda choed conwydd tal ar y ddwy ochr. Mae golau haul yn hidlo trwy’r canghennau, gyda golygfeydd agored o fryniau pell ac awyr las gymylog yn y cefndir.

Mae pobl sy’n byw neu’n gweithio yn y dyffrynnoedd rhwng Merthyr Tudful ac Aberpennar, neu sy’n hoff o ymweld â’r ardal, yn cael eu gwahodd i helpu i lywio’r gwaith o reoli eu coedwigoedd lleol ar gyfer y dyfodol.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar Gynllun Adnoddau Coedwig Gethin, Ynysowen ac Ystad Allen, a fydd yn parhau tan 17 Ebrill 2026.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am reoli Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yn gynaliadwy ac yn adolygu’r cynlluniau rheoli hirdymor ar gyfer pob ardal o goedwig bob deg mlynedd.

Caiff y rhain eu dwyn ynghyd mewn Cynllun Adnoddau Coedwig diwygiedig, sy’n nodi gweledigaeth hirdymor ar gyfer y coetiroedd ac yn arwain rhaglenni gwaith 10–25 mlynedd er mwyn gwella eu gwytnwch, eu bioamrywiaeth, eu cynefinoedd a’u gwerth hamdden.

Gan gwmpasu oddeutu 1,365 hectar, mae Cynllun Adnoddau Coedwig Gethin, Ynysowen ac Ystad Allen yn cynnwys oddeutu pum coetir wedi’u lleoli ar draws Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

Mae’r coedwigoedd yn rhedeg trwy ddyffrynnoedd serth sy’n ymestyn o Ferthyr Tudful yn y gogledd, trwy Aberfan, Troed-y-rhiw, Aberpennar ac Abercynon, tuag at Dreharris yn y de — wedi’u lleoli’n bennaf rhwng afon Taf i’r dwyrain ac afon Cynon i’r gorllewin, o fewn dalgylch ehangach afon Taf.

Mae ardal y cynllun yn darparu ystod eang o fuddion cyhoeddus, gan gynnwys:

  • Cyfleoedd hamdden gwerthfawr, gan gynnwys BikePark Wales yng Nghoedwig Gethin
  • Adfer cynefinoedd, gan gynnwys adfer coetiroedd hynafol, creu cynefinoedd o laswelltir, a chynnal gwaith i gefnogi poblogaethau’r fadfall ddŵr gribog
  • Gwneud gwelliannau o ran y dirwedd, gwytnwch hinsawdd a bioamrywiaeth
  • Cynhyrchu pren yn gynaliadwy

Fel rhan o’r ymgynghoriad, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal dau ddigwyddiad galw heibio ar gyfer y cyhoedd, gan roi cyfle i bobl gwrdd â staff Cyfoeth Naturiol Cymru, gofyn cwestiynau a gweld y cynllun drafft:

  • 24 Mawrth, 2pm–5.30pm – Llyfrgell Aberpennar, Canolfan Pennar, Stryd Rhydychen, Aberpennar, CF45 3HD
  • 26 Mawrth, 2.30pm–6.30pm – The Willows Centre, Stryd y Bont, Troed-y-rhiw, CF48 4DX

Dywedodd Laura McLoughlin, Uwch-swyddog Cynllunio Coedwigoedd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae ein coedwigoedd yn chwarae rhan hanfodol o ran cefnogi bywyd gwyllt, gwella bioamrywiaeth, a chynnig lleoedd i bobl fwynhau cerdded, beicio a chysylltu â byd natur.
“Maent hefyd yn ein helpu i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur wrth ddarparu pren cynaliadwy a chefnogi bywoliaeth yn lleol.
“Rydym am sicrhau bod y cymunedau sy’n byw ochr yn ochr â’r coedwigoedd hyn, a’r bobl sy’n ymweld â nhw, yn cael y cyfle i lywio sut y byddant yn cael eu rheoli yn y dyfodol.”

Gall pobl ddarllen y Cynllun Adnoddau Coedwig drafft yn llawn a lleisio eu barn drwy ymweld â thudalen ymgynghori ar-lein Cyfoeth Naturiol Cymru.

Gall unrhyw un na all gael gafael ar yr wybodaeth ar-lein wneud cais am gopi caled drwy anfon e-bost at frp@naturalresources.wales neu drwy ffonio 03000 65 3000.