Ymgynghoriad cyhoeddus ar agor ar ddyfodol coedwigoedd Myherin a Tharenig
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn adolygu ei Gynllun Adnoddau Coedwig ar gyfer coedwigoedd Myherin a Tharenig yng nghanolbarth Cymru ac yn gwahodd rhanddeiliaid, busnesau a chymunedau lleol i rannu eu barn.
Yn cwmpasu 4,787 hectar ym Mynyddoedd Cambria, mae coedwigoedd Myherin a Tharenig yn darparu buddion hanfodol, gan gynnwys cynhyrchu pren cynaliadwy, cysylltedd cynefinoedd, storio carbon, gwella ansawdd dŵr a chyfleoedd hamdden.
Bydd y Cynllun yn cefnogi’r gwaith o gyflawni gwaith CNC yn rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy ar Ystad Coetir Llywodraeth Cymru, a bydd yn amlinellu’r amcanion hirdymor i gydbwyso cynhyrchiant pren, cadwraeth bioamrywiaeth, gwytnwch yn wyneb newid hinsawdd a mynediad i’r cyhoedd.
Mae CNC wedi ymrwymo i ymgysylltu agored a thryloyw ac mae’n annog unigolion a sefydliadau i gymryd rhan yn y gwaith o lunio’r cynllun terfynol.
Er mwyn hwyluso cyfranogiad y cyhoedd, mae CNC yn lansio ymgynghoriad ar-lein ddydd Llun 14 Ebrill ble gall pobl adolygu’r cynllun drafft a chyflwyno eu hadborth.
Yn ogystal, bydd CNC yn cynnal dwy sesiwn galw heibio i’r rhai sy’n dymuno dysgu mwy, gofyn cwestiynau a siarad yn uniongyrchol â swyddogion CNC.
Cynhelir y sesiynau hyn ar 1 Mai yng Nghanolfan Gymunedol Llangurig a 2 Mai yng Nghanolfan Gymunedol Mynach, Pontarfynach.
Dywedodd Rob Marsh, Uwch Swyddog Cynllunio Coedwigoedd CNC:
“Mae coedwigoedd Myherin a Tharenig yn hanfodol i fioamrywiaeth, i’r economi ac i gymunedau lleol.
“Mae’r ymgynghoriad hwn yn gyfle i bobl ddweud eu dweud ar sut dylid rheoli’r coedwigoedd hyn yn y dyfodol.
“Rydym yn annog pawb sydd â diddordeb yn y coetiroedd hyn i gymryd rhan.”
Nod y cynllun drafft yw sicrhau dull cytbwys ar gyfer rheoli coedwigoedd, gan ganolbwyntio ar warchod bywyd gwyllt, cefnogi economïau lleol, cynnal cynhyrchiant pren a darparu mynediad i’r cyhoedd i fannau gwyrdd.
Bydd adborth gan drigolion, busnesau, sefydliadau amgylcheddol a rhanddeiliaid eraill yn helpu i lunio fersiwn derfynol y cynllun.
Mae’r ymgynghoriad ar agor tan 16 Mai 2025 a gellir cyrchu’r holl ddogfennau, gan gynnwys yr arolwg, mapiau a gwybodaeth allweddol, ar-lein yn https://bit.ly/MyherinTarenigCym.