Diogelu ein hamgylchedd a bywyd gwyllt y Noson Tân Gwyllt hwn
Gyda dathliadau Noson Tân Gwyllt ar y gorwel, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn atgoffa pobl i gymryd gofal arbennig wrth baratoi coelcerth, ac i ystyried yr effaith niweidiol bosibl y gall llosgi coelcerthi ei chael ar ein hamgylchedd a bywyd gwyllt.
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gweithio’n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i hyrwyddo a sicrhau Noson Tân Gwyllt ddiogel a phleserus i bawb.
Wrth adeiladu coelcerth, anogir pobl i fod yn ymwybodol o'u dyletswydd gofal gwastraff ac i beidio â llosgi eitemau gwastraff fel teiars, pren wedi'i drin, plastigion, tanwyddau, metelau a gwydr. Gall yr eitemau hyn gael effaith barhaol ar yr amgylchedd pan gânt eu llosgi. Dim ond gwastraff gardd sych, pren heb ei drin a phentyrrau bach o ddail y dylid eu llosgi.
Ni ellir llosgi unrhyw bren neu ddeunyddiau sy'n deillio o weithgaredd masnachol ar goelcerth. Dylai busnesau sicrhau bod eu dyletswydd gofal gwastraff yn cael ei bodloni, a bod eu holl wastraff yn cael ei waredu mewn cyfleuster a reoleiddir y caniateir iddo dderbyn y math hwnnw o wastraff.
Dylid paratoi unrhyw goelcerth ar y diwrnod y caiff ei chynnau er mwyn atal unrhyw fywyd gwyllt, fel draenogod, rhag ei defnyddio fel lloches. Dylid gwirio pob coelcerth a baratowyd ymlaen llaw i weld a oes unrhyw fywyd gwyllt yn bresennol trwy godi rhannau o'r goelcerth, defnyddio fflachlamp i edrych y tu mewn iddi, a gwrando am synau trallodus. Dylai coelcerthi hefyd gael eu cynnau o un gornel, yn hytrach nag yn y canol, er mwyn rhoi cyfle i unrhyw fywyd gwyllt ddianc.
Dros y dyddiau nesaf, bydd swyddogion CNC, ynghyd â chydweithwyr o Heddlu Gogledd Cymru a Thaclo Tipio Cymru, yn cynnal Gwiriadau Cludwyr Gwastraff ar draws Wrecsam a Sir y Fflint ac yn codi ymwybyddiaeth o’r peryglon posibl ar Noson Tân Gwyllt.
Dywedodd Carys Williams, Arweinydd Tîm Rheoleiddio Gwastraff CNC ar gyfer Gogledd-ddwyrain Cymru:
“Gwyddom fod y mwyafrif o bobl yn mwynhau'r adeg hon o'r flwyddyn yn synhwyrol ac nid ydym allan i ddifetha eu hwyl. Fodd bynnag, rydym yn annog y rhai sy'n cynllunio coelcerthi dros yr wythnos i ddod i feddwl am yr effaith bosibl y gall llosgi gwastraff ar goelcerth ei chael ar yr amgylchedd a bywyd gwyllt.
“Gall llosgi gwastraff ryddhau nwyon niweidiol sy’n achosi problemau iechyd i’r rhai sy’n anadlu’r aer llygredig wrth hefyd gynyddu llygredd aer. Os ydych chi wedi bod yn adeiladu coelcerth yn raddol ers tro, mae hefyd yn werth gwirio'n ofalus nad yw unrhyw ddraenogod neu fywyd gwyllt arall wedi symud i mewn cyn cynnau tân.
“Ni ddylai noson o ddathlu fod yn drech na’r angen i fod yn gall am yr hyn sy’n cael ei losgi ar goelcerth. Bydd ein swyddogion yn dosbarthu llythyrau ac yn ymweld yn bersonol â choelcerthi trefnedig i sicrhau bod y mathau cywir o wastraff yn cael eu pentyrru ar gyfer y coelcerthi a drefnwyd.”