Prosiectau ar y rhestr fer ar gyfer gwobrau peirianneg sifil

Mae dau brosiect diogelwch cronfeydd dŵr yng ngogledd-orllewin Cymru wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr fawreddog.

Mae Prosiect Diogelwch Cronfa Ddŵr Llyn Tegid Cyfoeth Naturiol Cymru yn y Bala a Phrosiect Diogelwch Cronfa Ddŵr y Tywysog Llywelyn wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Peirianneg Sifil ICE Wales Cymru 2023.

Cynhaliwyd gwaith yn Llyn Tegid i'w alluogi i wrthsefyll tywydd eithafol a darparu amddiffyniad i fwy nag 800 eiddo ac fe'i hariannwyd gan Lywodraeth Cymru.

Fe'i cyflawnwyd gan William Hughes Peirianneg Sifil, Binnies, Arcadis, Ground Control a Dams and Reservoirs Ltd ac roedd yn cynnwys cryfhau argloddiau'r llyn gyda mwy na 13,000 tunnell o greigiau.

Roedd y gwaith, a gwblhawyd ym mis Mawrth 2023, yn cynnwys gwelliannau amgylcheddol a hamdden fel llwybrau troed gwell ac ardaloedd eistedd newydd yn ogystal â phum hectar o gynefinoedd naturiol wedi'u hadfer ac ardaloedd newydd o ddolydd blodau gwyllt.

Mae'r Tywysog Llywelyn yn strwythur argae hanesyddol sydd wedi'i leoli o fewn ystad goedwigaeth CNC y tu allan i Ddolwyddelan. Adeiladwyd yr argae yn y 1800au i ddarparu dŵr i chwarel y Tywysog Llywelyn i lawr yr afon.

Gan nad oedd diben swyddogaethol gan y gronfa bellach ac nad oedd yn addas i'w defnyddio fel cyflenwad dŵr, penderfynodd CNC ddatgomisiynu'r strwythur argae yn ddiogel, gan ddychwelyd y corff dŵr i lefelau naturiol a lleihau'r perygl o lifogydd i eiddo i lawr yr afon.

Ymgorfforwyd gwelliannau bioamrywiaeth hefyd i ddarparu buddion i fywyd gwyllt tra bod y gwaith yn sicrhau bod darn sylweddol o archaeoleg ddiwydiannol Cymru yn cael ei gadw'n ddiogel ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Gwnaethpwyd y gwaith gan William Hughes Peirianneg Sifil.

Dywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr CNC:

"Mae'r prosiectau diogelwch hyn ar gyfer cronfeydd dŵr wedi helpu i ddarparu amrywiaeth o fanteision, felly mae'n wych eu gweld yn cael eu cydnabod gan ICE Wales Cymru.
"Hoffwn ddiolch i'n staff, ein partneriaid a'n cymunedau lleol am eu holl waith i’n helpu i gyflawni'r prosiectau hyn sy'n rhan o'n gwaith ehangach i sicrhau bod Cymru'n gallu gwrthsefyll effeithiau newid yn yr hinsawdd."

Mae Gwobrau Peirianneg Sifil ICE Wales Cymru yn dathlu prosiectau o bob maint a chwmpas o bob cwr o Gymru ac yn cael eu cynnal ar Fedi 22.