Archwilio tanciau olew cyn y gaeaf: Cofiwch wneud hyn i atal llygredd ac arbed arian, meddai CNC

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn galw ar berchnogion tanciau olew domestig i gynnal archwiliadau cynnal a chadw rheolaidd er mwyn osgoi difrod amgylcheddol yn sgil gollyngiadau tanwydd y gaeaf hwn.

Er bod gan berchnogion tai sy'n storio olew gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau nad yw eu tanciau storio yn achosi llygredd, mae nifer fawr o ddigwyddiadau sy'n deillio o ollyngiadau o danciau yn dal i ddigwydd bob blwyddyn.             

Mae tanwydd sydd wedi gollwng yn achosi difrod mawr i’r amgylchedd — gall ladd planhigion, niweidio bywyd gwyllt, llygru afonydd a halogi dŵr yfed.

Mae colli tanwydd yn broblem ddrud i berchnogion tai hefyd; gall olygu bod rhaid ysgwyddo’r gost o gael mwy o olew ac mae’n bosib y byddant yn gorfod talu miloedd o bunnoedd i lanhau gollyngiad olew.

Meddai Huw Jones, Arweinydd Tîm yr Amgylchedd gyda CNC:
“Cyn i ni ddechrau gweld tywydd rhewllyd, mae'n bwysig bod perchnogion tai yn archwilio tanciau a'u pibellau er mwyn sicrhau eu bod mewn cyflwr da.
“Pan fydd dŵr yn mynd i mewn i danc olew, mae'n cronni islaw'r olew ar waelod y tanc. Efallai na fydd hyn yn achosi problem ar unwaith, ond unwaith y bydd cyfaint y dŵr yn cynyddu gall hefyd fynd i mewn i'r pibellau.
“Gall dŵr mewn tanc dur arwain at gyrydiad ac mewn tywydd oer iawn gall ehangu a rhewi. Gall hyn dorri pibellau a ffitiadau, gan arwain at golli tanwydd o bosib ac yn anffodus, mewn llawer o achosion, gall achosi digwyddiad amgylcheddol sylweddol.”

Un arwydd o ollyngiad yw os yw cyfaint yr olew rydych chi'n ei ddefnyddio yn cynyddu'n sydyn. Mae cael cyngor gan weithiwr gwresogi olew proffesiynol cymwys yn hanfodol i fynd i'r afael ag unrhyw broblemau.

Ymhlith y camau i helpu i atal gollyngiad olew mae llenwi’r tanc yn ddiogel trwy sicrhau bod eich gyrrwr dosbarthu olew yn defnyddio man llenwi’r tanc a chadarnhau bod lle ar gyfer yr olew yn eich tanc. Mae hefyd yn bwysig archwilio sylfaen neu waelodion y tanc am graciau neu ymsuddiad ac i edrych ar yr holl bibellau, falfiau a hidlwyr gweladwy i weld a oes difrod ac arwyddion o ollyngiadau.

Dylid archwilio unrhyw system atal eilaidd (byndiau’r tanc) hefyd am hylif neu sbwriel, ac i sicrhau bod padelli diferion ar gyfer pibellau llenwi o bell yn glir ac nad oes unrhyw olew, dŵr, dail na sbwriel ynddynt.

Dylai deiliaid tai hefyd edrych i weld a yw eu hyswiriant cartref yn cwmpasu gollyngiadau olew, gan gynnwys glanhau olew ar eich eiddo, eiddo cyfagos, ac olew sy’n diferu i'r ddaear neu'r cyrsiau dŵr.

Am ragor o wybodaeth gallwch fynd i Cyfoeth Naturiol Cymru / Archwiliwch danc olew eich cartref i sicrhau nad yw’n gollwng (naturalresources.wales)

Rhowch wybod i CNC am bob amheuaeth o lygredd a digwyddiadau amgylcheddol eraill drwy'r llinell gymorth digwyddiadau 24 awr 0300 065 3000 neu e-bostiwch icc@naturalresourceswales.gov.uk