Dirwy i ddyn o Bont-y-pŵl am bysgota heb drwydded gwialen

Mae dyn o Bont-y-pŵl wedi cael gorchymyn i dalu cyfanswm o £288 ar ôl cael ei ddal yn pysgota ar darn o gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu ym Mhont-y-pŵl, heb drwydded gwialen ddilys.

Gwelwyd Nicky James yn pysgota ar ddarn o'r gamlas ar 23 Mehefin gan swyddogion gorfodi o Cyfoeth Naturiol Cymru a oedd ar batrôl.

Pan holwyd Mr James gan swyddogion, cadarnhaodd nad oedd ganddo drwydded gwialen gyfredol.

Ar 6 Medi, plediodd Mr James yn euog i ddefnyddio offeryn pysgota heb drwydded yn Llys Ynadon Cwmbrân a chafodd ddirwy o £115, ynghyd â gorchymyn i dalu cost o £127.30 a gordal dioddefwr o £46.

Dywedodd John Rock, Arweinydd Tîm Rheoleiddio Gwastraff CNC:

“Rydym yn cymryd unrhyw weithgaredd sy'n bygwth stociau pysgod Cymru o ddifrif ac mae hyn yn arbennig o wir am bysgota anghyfreithlon.
“Rydym yn annog pysgotwyr i wneud defnydd o'n cefn gwlad hardd yng Nghymru, ond i wneud hynny'n gyfrifol ac i sicrhau bod ganddynt drwyddedau i bysgota, er mwyn osgoi cael eu herlyn.
“Cofiwch fod rhaid i chi feddu ar drwydded pysgota â gwialen ar gyfer Cymru a Lloegr os ydych yn pysgota am eogiaid, brithyllod, pysgod dŵr croyw, brwyniaid neu lysywod gyda gwialen a lein. Gallech gael dirwy o hyd at £2,500 a gellid cymryd eich offer pysgota os ydych yn pysgota ac yn methu â dangos trwydded ddilys ar gyfer pysgota â gwialen.”

Gall unrhyw un sy’n gweld neu’n amau gweithgaredd pysgota anghyfreithlon ei riportio i linell gymorth digwyddiadau 24 awr CNC ar 0300 065 3000 neu ar wefan CNC: Cyfoeth Naturiol Cymru / Rhoi gwybod am ddigwyddiad

Gellir prynu trwyddedau gwialen ar-lein yn

https://naturalresources.wales/permits-and-permissions/buy-a-fishing-rod-licence/?lang=cy