Adfer pyllau i roi hwb i boblogaeth madfallod Sir y Fflint

Bydd yr uchelgais i gynyddu poblogaethau’r fadfall ddŵr gribog ac amffibiaid ar draws Sir y Fflint yn cael hwb wrth i waith i adfer pyllau a chynefinoedd mewn gwahanol leoliadau ar draws y sir fynd rhagddo.

Bydd gwaith i adfer pyllau sy’n methu yn dechrau ar 13 Tachwedd a bydd yn canolbwyntio ar dair ardal o fewn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Mynydd Helygain a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Comin Helygain a Glaswelltiroedd Treffynnon. Bydd gwaith hefyd yn digwydd yng Nghlwb Golff Treffynnon, Moel y Crio, ac mewn sawl pwll yn ardal Wern y Gaer/Berth Ddu.

Mae swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi gweithio’n agos gyda Chlwb Golff Treffynnon a Chadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid (ARC) i gynllunio’r gwaith pwysig. Bydd contractwyr yn crafu’r pyllau i gael gwared ar ordyfiant a chynyddu eu dyfnder a’u maint. Byddant hefyd yn rheoli’r cynefin o amgylch ymylon y pyllau.

Mae’r gwaith sydd ar fin cychwyn yn rhan o gynlluniau ehangach i adfer o leiaf ugain o byllau ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru a bydd gwaith pellach yn cychwyn yn 2024.

Mae’r fadfall ddŵr gribog yn Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop. Mae’r anifeiliaid a’u hwyau, eu safleoedd bridio a’u mannau gorffwys wedi’u diogelu gan y gyfraith. Maent dan fygythiad oherwydd colli eu pyllau bridio yn sgil dinistrio neu ddirywiad yn ansawdd y dŵr, colli a darnio cynefinoedd ar y tir a chynnydd mewn chwyn estron goresgynnol.

Bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud gan Wildbanks Conservation a chaiff ei gefnogi gan Gronfa Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru. Mae gan y gronfa uchelgais i gryfhau gwytnwch rhwydwaith Cymru o safleoedd gwarchodedig ar y tir a’r môr, gan gefnogi adferiad byd natur ac annog ymgysylltiad â chymunedau.

Meddai Christina Sheehan, Prif Gynghorydd CNC ar y prosiect:

“Rydym yn edrych ymlaen at ddechrau ar y gwaith hwn wrth i ni geisio rhoi hwb i boblogaethau’r fadfall ddŵr gribog ac amffibiaid eraill ledled Sir y Fflint.
“Rydym yn mynd trwy argyfwng natur ar hyn o bryd ac mae’n hanfodol bod gennym ecosystemau gwydn i gynnal rhywogaethau a chynefinoedd.
“Ar ôl cwblhau’r gwaith, bydd y pyllau newydd eu hadfer yn cynnig cynefinoedd gwell i amffibiaid ar gyfer bridio ac ardaloedd lle gallant aeafgysgu.
“Rydym wedi gweithio’n agos gyda phartneriaid i geisio sicrhau ein bod yn darparu help llaw hanfodol i amrywiaeth gyfoethog o rywogaethau amffibiaid tra’n gwella bioamrywiaeth Sir y Fflint ymhellach.”