Rhybudd ynglyn â storio gwastraff yn anghyfreithlon
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gofyn i ffermwyr a pherchnogion tir fod yn wyliadwrus o geisiadau i storio gwastraff ar eu tir.
Mae'n dilyn digwyddiadau diweddar lle mae ffermwyr ledled Cymru wedi derbyn gwastraff i'w storio dros dro.
Mae hon yn broblem gynyddol sy'n cael ei gyrru gan gangiau troseddol.
Gall y math o wastraff amrywio llawer, o blastigau a deunyddiau, i fatresi a hyd yn oed pridd neu ddeunydd adeiladu.
Atgoffir tirfeddianwyr bod storio gwastraff yn cael ei reoleiddio'n dynn.
Mae angen trwyddedau amgylcheddol i storio llawer iawn o wastraff. Ac mae gan unrhyw eithriadau gwastraff amodau llym ynghylch faint a math y gwastraff y gellir ei storio.
Mae'r rheolau ar waith i sicrhau bod gwastraff yn cael ei reoli a'i storio'n gywir er mwyn osgoi llygredd a risg tân.
Dywedodd Euros Jones, Rheolwr Gweithrediadau Gogledd Orllewin Cymru ar gyfer CNC:
“Os yw unigolion neu gwmnïau yn cynnig gwastraff i ffermwyr ei storio, mae'n hanfodol eu bod yn gwirio bod y caniatâd cywir ar waith. Gellir gwirio rheolau storio gwastraff ar ein gwefan.
“Efallai y bydd tirfeddianwyr yn gadael tir yn ddidwyll i weithredwyr gwastraff, ond mae'n hanfodol eu bod yn gwneud hynny â'u llygaid ar agor.
“Mae yna weithredwyr diegwyddor yn edrych i ddympio gwastraff yn unrhyw le y gallan nhw.
Gall perchennog y tir gael eu gadael â llawer o wastraff, a allai fod yn niweidiol i'r amgylchedd, a bil mawr i'w glirio yn gyfreithlon.
“Dylai unrhyw un y gofynnir iddo storio gwastraff ar eu tir roi gwybod i ni ar unwaith ar 03000 65 3000.”
Mae CNC yn parhau gydag ymchwiliadau i sawl safle ledled Cymru.