CNC yn cymryd camau wrth i Gymru brofi tywydd sych estynedig

Heddiw (22 Mehefin 2023), yn dilyn cyfnod estynedig o dywydd cynnes a sych, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cadarnhau bod y trothwyon wedi’u cyrraedd i symud Cymru gyfan o statws ‘arferol’ i statws ‘tywydd sych estynedig’.

Mae’r penderfyniad yn seiliedig ar ffactorau hydrolegol ac amgylcheddol a phryderon ynghylch y pwysau mae tymereddau uchel a diffyg glawiad sylweddol wedi’u rhoi ar afonydd, lefelau dŵr daear, bywyd gwyllt a’r amgylchedd naturiol ehangach ar draws Cymru.

Mae tywydd sych estynedig yn ddigwyddiad naturiol sydd wedi dod yn fwy tebygol wrth i newid hinsawdd gyflymu. Mae’n digwydd pan fo glawiad yn is na’r disgwyl am gyfnod o amser estynedig gan arwain at lefelau isel mewn afonydd, cronfeydd dŵr a dŵr daear yn ogystal â sychu tir a phriddoedd.

Er gwaetha’r glawiad diweddar a achoswyd gan stormydd taranau hafaidd, mae llifau afonydd ar draws Cymru ar hyn o bryd yn isel ar gyfer yr adeg hon o’r flwyddyn.

Ym mis Mai, derbyniodd Cymru 41% o’i glawiad cyfartalog tymor hir (1981-2010), y mis Mai sychaf ond un yn y 25 mlynedd diwethaf, gyda 2020 yn unig yn sychach. Mae lefelau dŵr daear hefyd wedi bod yn encilio, gyda rhai safleoedd yn eithriadol o isel a phriddoedd yn sychach na’r disgwyl.

Mae CNC eisoes yn delio ag effeithiau’r tywydd sych estynedig ar yr amgylchedd, gan gynnwys adroddiadau o bysgod yn dioddef, gyda rhai yn cael eu dal mewn pyllau mewn rhannau isaf afonydd oherwydd llifau isel a thymereddau uwch afonydd. Mae CNC eisoes wedi darparu cyngor i bysgotwyr yn ystod tymereddau uchel. Mae pryderon hefyd am safleoedd gwarchodedig megis ffeniau, mawndiroedd, rhosdiroedd a gweirdiroedd sy’n gartrefi i nifer o rywogaethau.

Mae swyddogion CNC yn rhoi cefnogaeth i wasanaethau tân ac achub fynd i’r afael â digwyddiadau lluosog o danau gwair a thanau gwyllt ar y tir mae’n ei reoli. Gall tywydd sych estynedig hefyd effeithio ar dyfiant cnydau a gwair, ac mae CNC yn annog ffermwyr i ddilyn y cyngor ar ein gwefan ar gyfer tywydd sych.

Yn dilyn gaeaf gwlyb, mae cwmnïau dŵr yn adrodd bod lefelau eu cronfeydd dŵr mewn cyflwr da ar gyfer yr adeg o’r flwyddyn.  Fodd bynnag, mae CNC yn llwyr gefnogi eu cyngor i bobl ledled y wlad i ddefnyddio dŵr yn ddoeth a helpu i warchod cyflenwadau dŵr a’r amgylchedd.

Dywedodd Natalie Hall, Rheolwr Dŵr Cynaliadwy CNC:

“Mae’r cyfnod poeth a sych estynedig wedi arwain at bryderon am yr effeithiau mae lefelau isel glawiad, afonydd a dŵr daear, yn ogystal â phriddoedd yn sychu, yn eu cael ar ein hecosystemau a’n cynefinoedd, rheolaeth tir a’r sector amaethyddol. O’r herwydd, rydym wedi gwneud y penderfyniad i symud Cymru gyfan i statws tywydd sych estynedig. 

“I ni, mae hyn yn golygu cynyddu ein camau gweithredu a’n monitro ar draws Cymru i helpu lliniaru’r effeithiau ar yr amgylchedd, y tir, ar ddefnyddwyr dŵr a phobl, ac ymateb i ddigwyddiadau amgylcheddol.

“Bydd ein timau sychder yn parhau i gwrdd yn rheolaidd i adolygu’r statws, a byddan nhw’n gweithio’n agos gyda’n partneriaid i sicrhau ein bod yn cymryd camau priodol i leihau’r effeithiau ar yr amgylchedd a defnyddwyr dŵr eraill ar draws Cymru.

“Er mwyn sicrhau y gellir parhau i ddarparu dŵr heb niweidio’r amgylchedd, anogir y cyhoedd a busnesau ar draws Cymru i ddefnyddio dŵr yn ddoeth a rheoli’r adnodd gwerthfawr hwn.”

Cafodd penderfyniad CNC i gyhoeddi statws tywydd sych estynedig ei rannu â Grŵp Cyswllt Sychder Cymru yn gynharach heddiw. Mae’r grŵp yn cael ei gadeirio gan Lywodraeth Cymru ac mae’n cynnwys uwch benderfynwyr o CNC, y Swyddfa Dywydd, cwmnïau dŵr, Iechyd Cyhoeddus Cymru, undebau ffermwyr a chynrychiolwyr awdurdodau lleol.

Yr ardaloedd y mae’r newid statws heddiw, o ‘arferol’ i ‘dywydd sych estynedig’, yn effeithio arnynt yw:

  • Dyfrdwy
  • Hafren Uchaf
  • Gogledd Gwynedd (Conwy, Môn, Arfon, Dwyfor)
  • De Gwynedd (Meirionnydd)
  • Gogledd Ceredigion (Rheidol, Aeron, Ystwyth)
  • Teifi
  • Sir Benfro (Dwyrain a Gorllewin Cleddau)
  • Caerfyrddin (Tywi, Taf)
  • Abertawe a Llanelli (Tawe a Llwchwr)
  • Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr (Nedd, Afan ac Ogwr)
  • Afon Gwy
  • Afon Wysg
  • Y Cymoedd (Afonydd Taf, Ebwy, Rhymni, Elái)
  • Bro Morgannwg (Afon Ddawan)

Mae CNC yn ymgysylltu’n agos ag Asiantaeth yr Amgylchedd ynghylch y dalgylchoedd trawsffiniol.

Wrth fwynhau eich amser yn yr awyr agored, cofiwch fod bywyd gwyllt ac ecosystemau o dan fwy o straen. Dylai aelodau’r cyhoedd roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau amgylcheddol i’r llinell gymorth 24/7 drwy ffonio 0300 065 3000.

Gall rhai ardaloedd hefyd fod â risg uwch o danau. Os gwelwch chi dân gwyllt, ewch i le diogel, ffoniwch 999 a gofynnwch am y Gwasanaeth Tân.

Ar gyfer rhagor o ddiweddariadau tywydd sych, ewch i Cyfoeth Naturiol Cymru / Diweddariadau tywydd sych.

Mae gwefan Waterwise yn rhoi manylion ar sut i ddefnyddio dŵr yn ddoeth. Mae cwmnïau dŵr Cymru, Dŵr Cymru Welsh Water (DCWW) a Hafren Dyfrdwy (HD), hefyd yn cynnig cyngor i gwsmeriaid ar eu gwefannau ar sut i arbed dŵr.

Os byddwch yn mynd i gyrsiau dŵr i badlo, ystyriwch y cyngor gan Canŵ Cymru https://www.canoewales.com/drought-advice-to-paddlers