CNC yn cefnogi ymdrech i achub dolffiniaid o draeth

Dychwelwyd chwe dolffin cyffredin i'r môr ar ôl iddynt fynd yn sownd ar draeth yng ngogledd Cymru ddoe (31 Ionawr) ond yn anffodus, mae un wedi marw.

Gwelwyd y pedwar dolffin llawn dwf a'r ddau ddolffin ifanc ar y traeth yn y Fali ar Ynys Môn fore Mercher.

Ymatebodd tîm o Feddygon Mamaliaid Morol gwirfoddol o British Divers Marine Life Rescue (BDMLR), a chynorthwyodd arbenigwyr morol Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), personél RAF y Fali a Gwylwyr y Glannau gyda'r ymdrech i’w hachub.

Roedd Holly Self, cynghorydd arbenigol mamaliaid morol CNC, yn un o'r rhai a helpodd gyda'r ymgyrch achub.

“Dyma ddigwyddiad torfol ar raddfa fach lle aeth pedwar dolffin llawn dwf a dau ddolffin ifanc yn sownd ar y traeth.
“Fe wnaethon ni gynorthwyo BDMLR a Gwylwyr y Glannau i fonitro pedwar unigolyn a oedd yn dal i fod yn agos at y lan ar ôl i ni lwyddo i roi’r grŵp gwreiddiol o chwech i nofio eto ar lanw’r bore.
“Oherwydd pryderon y gallent fynd yn sownd eto ar y trai y noson honno, aeth BDMLR ati i’w hailgyfeirio er mwyn eu hannog i fynd tuag at ddŵr agored.”

Archwiliwyd y traeth fore dydd Iau ond yn anffodus cafwyd hyd i un unigolyn yn farw. Bydd yn cael ei gasglu ar gyfer archwiliad post-mortem gan y Rhaglen Ymchwilio i Forfilod sydd wedi Golchi i’r Lan.

Mae gan ddolffiniaid cyffredin, sy'n Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop, ddosbarthiad eang a gellir eu gweld yn y dyfroedd o gwmpas Cymru yn hela ac yn bwydo mewn grwpiau mawr.

Gall dolffiniaid fynd yn sownd am amrywiaeth o resymau gan gynnwys salwch. Mae'r ffactorau sy’n achosi digwyddiadau torfol yn gymhleth ond gwyddom eu bod yn gyffredin mewn rhywogaethau cymdeithasol iawn.

Hoffem ddiolch i holl wirfoddolwyr BDMLR, personél RAF y Fali, Grŵp Milfeddygon Bodrwnsiwn, Tîm Chwilio ac Achub Gwylwyr y Glannau Bae Cemaes ac aelodau'r cyhoedd am eu cefnogaeth yn ystod y digwyddiad hwn.