Cyhoeddi cynllun CNC i reoli perygl llifogydd yng Nghymru

Golygfa o gynllun llifogydd Rhydaman o'r awyr

Wrth i'r newid yn yr hinsawdd waethygu ffyrnigrwydd ac amlder digwyddiadau tywydd eithafol, cynnydd yn lefel y môr a llifogydd, mae angen mwy o gamau gweithredu i ddatblygu’r gallu i addasu a gwrthsefyll effeithiau andwyol y bygythiadau difrifol hynny.

Dyma y dywed Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) heddiw (16 Tachwedd) wrth iddo gyhoeddi ei fap trywydd ar gyfer rheoli perygl llifogydd yng Nghymru.

Mae Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd CNC yn nodi'r blaenoriaethau ar gyfer rheoli perygl llifogydd yng Nghymru am y chwe blynedd nesaf, ar gyfer y meysydd y mae gan CNC gyfrifoldebau arweiniol amdanynt.

Gydag argyfyngau’r hinsawdd a natur yn gefndir llwm iddo, mae'n amlinellu sut mae angen i'r genedl barhau i fuddsoddi yn ei systemau presennol a'u gwella, fel ei rhwydwaith o amddiffynfeydd llifogydd a'i system rhybuddio am lifogydd. Fodd bynnag, mae hefyd yn tanlinellu sut y mae angen i Gymru wneud mwy i liniaru ac addasu i natur anochel llifogydd, gan ganolbwyntio ar feithrin gwytnwch a defnyddio dull sy’n canolbwyntio ar ddalgylchoedd cyfan o fewn y cymunedau hynny sy’n wynebu perygl llifogydd nawr, ac yn y dyfodol.

Yng Nghymru, mae tua 1 o bob 8 eiddo (245,118) mewn perygl o lifogydd o afonydd, y môr a dŵr wyneb ar hyn o bryd. 

Mae’r ffigurau sydd wedi’u nodi yn y Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd yn dangos y bydd 46,000 yn rhagor o gartrefi dros y ganrif nesaf mewn perygl o lifogydd o afonydd a'r môr yng Nghymru. Mae hynny'n gynnydd o bron i draean yn rhagor o gartrefi mewn perygl na heddiw (139,905 -> 186,662).

Bydd y set o fesurau a chamau gweithredu arfaethedig sydd wedi'u cynnwys yn y cynllun yn mynd i'r afael â'r amcan cyffredinol o leihau perygl llifogydd o brif afonydd, cronfeydd dŵr a'r môr i bobl a chymunedau, a chefnogi'r gwaith o gyflawni'r 14 blaenoriaeth a nodir yn y cynllun.

Mae'n tynnu sylw at sut mae'n rhaid ystyried effeithiau newid hinsawdd yn ein camau gweithredu, y gofynion addasu hirdymor sy'n benodol i ardaloedd allweddol a'r cyfraniad y gall rheoli llifogydd yn naturiol ei wneud at reoli perygl llifogydd. Bydd y cynllun yn cael ei ddefnyddio fel sail ar gyfer gwneud penderfyniadau mwy gwybodus ac i gynnal trafodaethau ynghylch cyflawni gyda phartneriaid, fel bod buddsoddiad mewn lleihau perygl llifogydd yn cael ei dargedu at y cymunedau sy'n debygol o gael eu heffeithio fwyaf.  

Dywedodd Jeremy Parr, Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd a Digwyddiadau CNC:

"Bellach, nid yw llifogydd ac ymchwyddiadau storm amlach a mwy eithafol yn annisgwyl ac maent eisoes yn peri mwy o risg i fywydau, seilwaith ac eiddo. Mae'r ffordd yr ydym yn cynllunio ac yn rheoli ein perygl llifogydd mewn ymateb i hynny yn arwain at ganlyniadau pellgyrhaeddol i gymunedau yng Nghymru.
"O wneud gwelliannau i'n Gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd a'n hamddiffynfeydd peirianyddol, hyd at fwy o ddefnydd o atebion sy'n seiliedig ar natur a dulliau dalgylch cyfan, mae ein cynllun yn nodi sut y byddwn yn blaenoriaethu ein camau gweithredu dros y 6 blynedd nesaf i leihau'r risg honno i bobl ac eiddo yn yr ardaloedd sydd fwyaf mewn perygl. 
"Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni gydnabod na ellir cael gwared ar berygl llifogydd yn gyfan gwbl. Er bod CNC yn buddsoddi'n helaeth mewn amddiffynfeydd llifogydd, ni allwn adeiladu ein ffordd allan o'r problemau sy'n ein hwynebu. Bydd angen cyfuniad o fesurau ar Gymru er mwyn helpu cymunedau i ddod yn fwy gwydn.
"Mae'n golygu gwneud penderfyniadau mawr ynghylch lle y caniateir gwaith datblygu, a dysgu byw gyda mwy o ddŵr nag erioed o'r blaen. Mae'n golygu bod angen i ni adeiladu neu drosi eiddo i fod yn fwy gwydn yn erbyn llifddwr, fel y gall pobl a busnesau adfer yn gyflymach pan fydd y dyfroedd yn dechrau codi. Mae angen i ni sicrhau bod pobl yn gwybod pa gamau y gallant eu cymryd eu hunain i leihau effaith llifogydd. Bydd angen i ni hefyd fod yn fwy arloesol ac edrych ar ddefnyddio atebion sy'n seiliedig ar natur i daclo llifogydd a gweithio'n fwy effeithiol gyda thirfeddianwyr, a mabwysiadu dulliau sy’n gweithio ar raddfa dalgylchoedd cyfan i wneud lle ar gyfer y symiau enfawr o ddŵr yr ydym yn eu profi yn ystod llifogydd.
"Mae'n hanfodol ein bod yn paratoi ar gyfer yr effeithiau anochel trwy weithredu a meithrin gwytnwch nawr; yna, pan fydd llifogydd yn digwydd, bydd yn peri llawer llai o risg i bobl, yn gwneud llai o ddifrod, a gall popeth fynd yn ôl i sut ydoedd yn gynt o lawer."

Cyhoeddir y cynllun yn sgil stormydd Babet, Ciarán a Debi a effeithiodd ar rannau helaeth o Gymru o fewn cyfnod o dri wythnos.  Mae cydweithwyr CNC yn parhau i fod yn rhan fawr o'r ymateb parhaus a'r gwaith adfer yn sgil y stormydd hynny, ac mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau bod y sefydliad bob amser yn barod i ymateb i'r digwyddiad nesaf a misoedd y gaeaf sydd i ddod.

Ychwanegodd Jeremy Parr:

"Gall yr amddiffynfeydd a'r cynlluniau yr ydym wedi buddsoddi ynddynt dros y blynyddoedd, ynghyd â'r gwasanaethau hanfodol eraill a ddarparwn, fel y Gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd, wneud gwahaniaeth hollbwysig pan fydd y glaw yn dechrau syrthio.
"Bydd darparu'r gwasanaethau hyn bob amser wrth wraidd sut mae CNC yn rheoli risg y genedl, ond nid ydynt yn datrys pob her.
"Er bod y cynllun hwn yn canolbwyntio ar yr hyn y bydd CNC yn ei wneud i leihau'r perygl o lifogydd yng Nghymru, ni allwn lwyddo ar ein pennau ein hunain. Dim ond pan fyddwn yn ymdrechu ar y cyd y gellir rheoli'r risg hon yn llwyddiannus, gan ddod â phawb o bob rhan o'r llywodraeth a'r gymdeithas sy’n dibynnu ar y canlyniad at ei gilydd i fynd i'r afael ag un o heriau mwyaf ein hoes."

Mae'r Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd yn ymdrin â llifogydd o afonydd, cronfeydd dŵr a'r môr. Nid yw’n ymdrin â llifogydd o ddŵr wyneb a chyrsiau dŵr llai; Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol sydd â’r pwerau ar gyfer y rhain ac felly nhw sy’n arwain ar y mathau yma o lifogydd.

Mae'r cynllun wedi'i rannu'n adran genedlaethol gyffredinol ochr yn ochr â chwe adran sy'n canolbwyntio ar leoedd penodol sy'n cwmpasu'r gwahanol feysydd gweithredol o fewn CNC.

Un o'r camau gorau y gall pawb ei gymryd yw gwybod beth eich perygl o lifogydd a beth i'w wneud os yw'r risg honno'n arwain at effeithiau go iawn. Mae gwybodaeth ar gael yn eang ar wefan CNC yn www.cyfoethnaturiol.cymru/llifogydd lle gall pobl gofrestru ar gyfer rhybuddion llifogydd, gweld beth yw eu perygl llifogydd o afonydd, y môr, cronfeydd dŵr a dŵr wyneb gyda chwiliwr cod post syml a dod o hyd i gyngor defnyddiol ar sut i baratoi ar gyfer llifogydd.