Rhybudd gan CNC i fod yn ofalus a gwyliadwrus wrth brynu eogiaid anghyfreithlon yn gyhoeddus

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn annog y cyhoedd i feddwl ddwywaith cyn prynu eog a brithyll y môr/siwin gan unigolion a safleoedd gwerthu ar y cyfryngau cymdeithasol ac i sicrhau bod y pysgod yn dod o ffynhonnell gyfreithlon.
Mae’n anghyfreithlon cadw unrhyw eog gwyllt sy’n cael ei ddal yng Nghymru a chynghorir i unrhyw un sy’n prynu brithyll y môr gwyllt sicrhau bod y pysgodyn wedi’i dagio a’i fod wedi’i ddal yn gyfreithlon o bysgodfa rwyd drwyddedig.
Rhaid i unrhyw frithyll y môr sydd wedi’i ddal mewn pysgodfa rwyd drwyddedig yng Nghymru fod â thag carcas gan CNC ynghlwm wrth ei geg a’i dagellau. Rhaid i hwn aros ynghlwm tan fydd y pysgodyn wedi’i brosesu.
Cyflwynwyd y mesurau hyn ar gyfer tagiau carcas i fynd i’r afael â gwerthu eogiaid a brithyll y môr yn anghyfreithlon ac i warchod stociau pysgod bregus.
Mae yn erbyn y gyfraith prynu, gwerthu, cynnig gwerthu neu gyfnewid unrhyw eog gwyllt.
Rhaid i bob eog sy’n cael ei ddal gan bysgodfa rwyd neu wialen gael ei ddychwelyd yn fyw gyda chyn lleied o anafiadau â phosib, a hynny’n ddi-oed.
Mae trin eog o dan amgylchiadau amheus yn drosedd, a gallai unrhyw berson sy’n derbyn neu’n gwaredu unrhyw eog dan amgylchiadau ble maent yn credu, neu lle bo’n rhesymol iddynt gredu, fod yr eog wedi’i ddal yn anghyfreithlon wynebu erlyniad.
Y mis diwethaf, cyfaddefodd pysgotwr cwrwgl o Sir Benfro i fod wedi dal a gwerthu eog gwarchodedig yn anghyfreithlon ar Afon Teifi.
Codwyd amheuon ymysg swyddogion CNC ar ôl iddynt weld neges Facebook gan fwyty lleol yn hysbysebu siwin wedi’i ddal yn lleol ar y fwydlen. Yn sgil ymchwiliadau, datgelwyd mai eog oedd y pysgodyn mewn gwirionedd.
Cafodd y pysgotwr ei ryddhau’n ddiamod a gorchmynnwyd iddo dalu £85 mewn costau llys.
Dywedodd Jeremy Goddard, Arweinydd Tîm Rheoleiddio Diwydiant a Gwastraff :
“Mae poblogaethau eogiaid gwyllt a brithyll y môr mewn perygl ar draws Cymru a’r tu hwnt.
“Er mwyn gwarchod eu niferoedd a diogelu pysgota dan drwydded â rhwyd a gwialen, dim ond eogiaid a brithyllod môr wedi’u ffermio, ynghyd â brithyllod môr gwyllt (a elwir yn siwin hefyd) wedi’u dal mewn pysgodfeydd rhwyd a thrap cyfreithlon, y gellir eu prynu a’u gwerthu yng Nghymru a Lloegr.
“Rydym yn cymryd unrhyw weithgaredd sy’n bygwth ein stociau pysgod gwyllt o ddifri ac mae hyn yn arbennig o wir am bysgota anghyfreithlon.
“Yn ogystal â phatrolio afonydd ac aberoedd Cymru, byddwn yn cynnal ymweliadau cydymffurfio â busnesau ac unigolion sy’n hysbysebu a gwerthu brithyll y môr gwyllt, yn ogystal â’n pysgodfeydd rhwyd trwyddedig yng Nghymru, i sicrhau bod yr holl bysgod yn dod o ffynonellau cyfreithlon.
“Rydym yn annog y cyhoedd i helpu yn y frwydr yn erbyn pysgota anghyfreithlon er mwyn amddiffyn stociau pysgod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
“Os cewch gynnig prynu eog neu frithyll y môr heb ei dagio neu os gwelwch unrhyw weithgarwch amheus neu anghyfreithlon ar ein hafonydd, rhowch wybod i linell gymorth digwyddiadau CNC ar 0300 065 3000 neu drwy’r ffurflen adrodd ar-lein.”
Gallwch ddysgu mwy am ba bysgod y gellir eu prynu a’u gwerthu’n gyfreithlon drwy ymweld â gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru – Prynu a gwerthu eogiaid a brithyllod y môr yng Nghymru: cadw o fewn y gyfraith