CNC yn gosod offer monitro newydd yn Afon Gwy
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ehangu ei allu i fonitro ar ddalgylch Afon Gwy mewn ymgais i wella ei dystiolaeth ac i dargedu ymdrechion i leihau llygredd a achosir gan faetholion.
Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, mae CNC wedi buddsoddi mewn cyfres o fesuryddion awtomatig a fydd yn cael eu gosod ar chwe phwynt allweddol ar Afon Gwy a'i phrif is-afonydd.
Bydd y mesuryddion - a elwir yn sondiau – yn cofnodi metrigau allweddol, gan gynnwys tymheredd, lefelau ocsigen, nitradau, algâu a pH bob 15 munud, gan ddarparu gwybodaeth hanfodol am ansawdd y dŵr.
Er mwyn treialu eu heffeithiolrwydd, mae dau sond eisoes wedi'u gosod yn y Clas-ar-Wy ac yn Redbrook ger Trefynwy. Bydd gweddill y sondiau’n cael eu gosod ar Afon Gwy dros yr haf yn Rhaeadr Gwy yn ogystal â lleoliadau ar afonydd Irfon, Ieithon a Llynfi.
Mae CNC yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid drwy Fwrdd Rheoli Maetholion Gwy ac, yn benodol, gydag Asiantaeth yr Amgylchedd i sicrhau bod y rhaglenni monitro yn ategu ei gilydd ac yn cwmpasu'r dalgylch cyfan.
Mae'r rhaglen hefyd yn ymchwilio i sut y gellir defnyddio data arall, fel yr hyn a gesglir gan ymddiriedolaethau afonydd a dinasyddion arferol, i gynyddu dealltwriaeth o iechyd yr afon.
Meddai Gavin Bown, Pennaeth Gweithrediadau CNC yn y Canolbarth:
"Mae CNC yn cymryd iechyd ein hafonydd a'n cyfrifoldebau monitro o ddifrif. Mae gosod y sondiau yn gam ychwanegol ar ben ein rhaglenni monitro presennol a bydd yn ychwanegu at ein dealltwriaeth o'r ffactorau sy'n effeithio ar Afon Gwy.
"Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae i sicrhau bod afonydd Cymru’n iach ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ac rydym am weithio gydag eraill i ddod o hyd i atebion arloesol.
"Mae'r problemau sy'n wynebu Afon Gwy yn gymhleth, ac nid oes un ateb ar eu cyfer, ond rydym wedi ymrwymo i ddiogelu a gwella iechyd yr afon. Mae hon yn un elfen o raglen waith ehangach.
"Gyda’r wybodaeth hon, bydd gennym ni gwell ddealltwriaeth ar sut mae lefelau maetholion yn effeithio ar Afon Gwy ar lefel dalgylch a lefel leol ac yna gallwn gydweithio â llunwyr polisi, busnesau, rheolwyr tir a thrigolion i ddiogelu'r afon a'r adnoddau naturiol y mae'n eu darparu i bobl."