Cynllun grant CNC yn helpu cymuned i elwa ar rym natur

Gwlyptir trefol ym Mhentref Tyleri

Mae prosiect o dan arweiniad y gymuned, a oedd â’r bwriad o gynllunio a chreu gwlyptir o amgylch pentref Cwmtyleri, Blaenau Gwent, wedi helpu trigolion yr ardal i gysylltu â natur a gwella’u llesiant.

Cafodd y prosiect, a lansiwyd fis Mehefin diwethaf, ei ariannu gan Raglen Grant Cymunedau Gwydn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), ac mae’n cynnig cyfleoedd i gymunedau adfer a chyfoethogi natur yn eu hardaloedd lleol, yn enwedig yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.

Ym mis Ionawr eleni fe wnaeth ‘tîm gwyrdd’ o bobl ifanc, a oedd mewn perygl o fod yn ddi-waith yn yr hirdymor, ddechrau gweithio ar y gwlyptir 600m2, a’r uchelgais oedd cyfoethogi bioamrywiaeth yn yr ardal, darparu man gwyrdd hygyrch gwerthfawr y gallai trigolion yr ardal ei fwynhau, a gwneud yr ardal yn fwy deniadol i’r gymuned ac i ymwelwyr.

Fel rhan o’r gwlyptir, crëwyd pwll enfawr er mwyn cynnig cynefin gwlyb naturiol i amffibiaid, adar a chreaduriaid di-asgwrn-cefn, fel gweision y neidr.

Hefyd, gosodwyd llwybr pren hygyrch sy’n arwain at fan eistedd lle gall preswylwyr eistedd a mwynhau'r golygfeydd ar draws y cwm.

Crëwyd tair cors a all ddal llawer iawn o ddŵr y gellir ei ryddhau’n araf yn ystod cyfnodau o law trwm. Dros yr wythnosau nesaf, bydd amrywiaeth o blanhigion brodorol sy’n hoffi dŵr yn cael eu plannu yno, gan helpu i greu llain glustogi rhag dŵr ffo.

Hefyd, caiff y gwlyptir ei ddefnyddio fel adnodd addysgol ar gyfer yr ysgol leol ac mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn cynnal gweithdai yno. Yn ychwanegol at ddysgu yn yr ystafell ddosbarth, mae disgyblion wedi cael cyfle i fynd i’r afael â gweithgareddau ymarferol trwy weithio gyda chlai wedi’i bwdlo a helpu i greu’r ffensys helyg, y llwybr pren, y pwll a’r corsydd.

Cafodd y prosiect gyllid ychwanegol gan bartneriaeth Grid Gwyrdd Gwent, Cronfa ‘Community Matters’ y Grid Cenedlaethol, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, a chafodd gymorth gan Ymddiriedolaeth Natur Gwent, Cymuned Ddysgu Abertyleri a Draenog Countryside.

Medd Steve Morgan, Pennaeth Gweithrediadau De Ddwyrain Cymru yn CNC:

Gwych iawn yw gweld popeth mae’r gwirfoddolwyr wedi’i gyflawni ym Mhentref Tyleri a’r effaith gadarnhaol a gafodd y prosiect ar y gymuned leol, gan helpu i ddarparu man gwyrdd gwerthfawr y gall pobl ei fwynhau, yn ogystal â chynnig adnodd addysgol i ysgolion lleol.
Gwyddom hefyd fod mannau gwyrdd o fantais i’n hiechyd corfforol a meddyliol, ac i’n llesiant yn gyffredinol.
Yn sgil ein swyddogaeth o ran dyfarnu grantiau, mae modd inni gefnogi prosiectau ‘ar lawr gwlad’ sy’n galluogi pobl i wneud hynny’n union. Mae’r prosiectau hyn o fudd mawr i gymunedau ac amgylchedd Cymru, gan helpu i wella mynediad at natur, ymdrin ag unigrwydd ac allgau, a grymuso pobl i ddylanwadu ar y penderfyniadau a wneir yn eu hardaloedd lleol.

Yn ôl Jamie Thomas, Aelod o’r Tîm Gwyrdd a fu’n gweithio ar y gwlyptiroedd:

Mae prosiect y Gwlyptiroedd ar y cyd â CNC wedi cynnig cyfle eithriadol imi archwilio gwahanol dechnegau traddodiadol, o ddefnyddio clai wedi’i bwdlo i blethu helyg. Yn sgil y profiad hwn, rydw i wedi dysgu gwybodaeth werthfawr, a byddaf yn anelu at roi’r wybodaeth honno ar waith yn y dyfodol. Rydw i’n credu’n gryf y bydd y prosiect hwn yn cyfoethogi llawer ar fioamrywiaeth yr ardal – mae hyn yn amlwg yn sgil y nifer cynyddol o adar ac amffibiaid sydd bellach yn gallu defnyddio’r man a grëwyd.

Medd Nadine Lewis, Athro a Chydgysylltydd Eco-glwb Cymuned Ddysgu Abertyleri:

Dros y misoedd diwethaf, mae dysgwyr o Gampws Uwchradd 3-16 Cymuned Ddysgu Abertyleri wedi cael cyfle anhygoel i helpu i ddatblygu’r Gwlyptir yng Nghwmtyleri. Fe wnaethon ni ddysgu llu o sgiliau newydd yn ystod y prosiect, gan weithio ar y cyd ag aelodau’r gymuned leol. Roedden ni’n awyddus iawn i fynd yno bob diwrnod ac roedden ni ar dân eisiau mynd i’r afael â’r tasgau a osodwyd ar ein cyfer, yn enwedig os oedd hynny’n golygu mynd i’r llaid!
Mae prosiect y Gwlyptiroedd wedi ein helpu i ddatblygu ein llesiant corfforol a meddyliol, oherwydd roedden ni’n cerdded yn ôl a blaen i’r prosiect, a hefyd mae wedi ein helpu i feithrin sgiliau cymdeithasol cryfach trwy weithio gydag aelodau o’r gymdeithas ehangach a threulio amser gyda nhw.
Bydd y sgiliau ymarferol a ddysgon ni yn ystod y prosiect yn ein helpu i gamu ymlaen yn y dyfodol, a bydd modd eu rhoi ar waith mewn gyrfaoedd fel garddio, cynllunio gerddi ac adeiladu.

https://youtu.be/wv7AEBlk1n4