CNC yn galw am newid sylweddol ym mherfformiad cwmni dŵr yn dilyn adolygiad blynyddol

Mae CNC wedi israddio cwmni dŵr mwyaf Cymru, Dŵr Cymru Welsh Water, i sgôr o ddwy seren (angen gwelliant) ar ôl dirywiad pellach mewn perfformiad amgylcheddol sy’n cael ei amlinellu yn ei adolygiad blynyddol.

Yn dilyn perfformiad siomedig yn 2021, mae'r adroddiad yn datgelu bod achosion o lygredd wedi codi 7% yn 2022, a bod yr achosion oedd yn cael effaith fawr neu sylweddol wedi codi o dri i bump.

Methodd y cwmni hefyd wneud gwelliannau i nifer y digwyddiadau a gafodd eu hunangofnodi i CNC, gan syrthio i 65%, gostyngiad o 7% ers 2021. Disgwylir i gwmnïau dŵr hunangofnodi digwyddiadau i CNC cyn i eraill wneud hynny. Heb ymateb cyflym, gall effaith llygredd waethygu a gellir colli'r cyfle i roi mesurau lliniaru ar waith.

Yn 2022, achosodd Dŵr Cymru Welsh Water 89 o ddigwyddiadau llygredd carthion. Cafodd 84 o'r rhain eu categoreiddio fel rhai oedd yn cael effaith amgylcheddol isel. Roedd pum digwyddiad yn cael eu hystyried fel rhai oedd yn cael effaith amgylcheddol uchel neu sylweddol.

Mae datblygu ymateb gorfodi ar gyfer digwyddiadau amgylcheddol mawr yn gofyn am ymchwiliad manwl a gall gymryd misoedd lawer i’w gwblhau, ond mae CNC wedi ymrwymo i wneud hyn.

Mewn ymateb i hyn, mae Clare Pillman, Prif Weithredwr CNC, wedi galw am 'newid sylweddol mewn perfformiad, sy’n amlwg yn rhywbeth y mae cymaint o’i angen, ac yr ydym ni a’r cyhoedd yn galw amdano.'

Meddai Clare Pillman, Prif Weithredwr CNC:
“Mae'n siomedig iawn bod perfformiad Dŵr Cymru Welsh Water wedi parhau i ddirywio. 
“Mae angen i gwmnïau dŵr gymryd camau brys a pharhaus i wneud y newidiadau sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r achosion llygredd sylweddol yr ydym yn eu gweld yn ein dyfroedd.
“Yn wyneb yr argyfyngau hinsawdd a natur, mae'r angen i weithredu nawr yn bwysicach nag erioed, wrth i'n rhwydwaith o garthffosydd sy'n heneiddio ddod dan fwy o bwysau.
“Heb fuddsoddiad digonol a fframwaith rheoli perfformiad cryf gan gwmnïau dŵr, bydd yr amgylchedd yn parhau i dalu'r pris. Yn ein cyfarfodydd gyda Dŵr Cymru, rydym wedi bod yn eglur iawn ynglŷn â pha welliannau y mae'n rhaid iddynt eu cyflawni.”

Mae disgwyliadau ar gyfer gwelliannau wedi cael eu hamlinellu yn yr adroddiad, gan gynnwys gofyniad i leihau nifer yr achosion o lygredd carthffosiaeth flwyddyn ar ôl blwyddyn, atal pob digwyddiad llygredd sylweddol a gwyrdroi'r dirywiad mewn hunangofnodi digwyddiadau.

Mae perfformiad Hafren Dyfrdwy, cyflenwr gwasanaethau dŵr yfed a dŵr gwastraff i rannau o Ogledd Ddwyrain a Chanolbarth Cymru, hefyd wedi cael ei adolygu, ond nid yw'n cael ei sgorio gan sêr gan fod ei ardal weithredu yn gymharol fach yng Nghymru.

Canfuwyd bod y cwmni wedi gwneud gwelliannau yn nifer y digwyddiadau llygredd, o wyth yn 2021 i bedwar yn 2022, ac ni nodwyd unrhyw ddigwyddiadau llygredd sylweddol.

Ond mae CNC yn dal i bwyso ar y cwmni i wella ei gyfradd digwyddiadau hunangofnodi, ar ôl i'r cwmni hunangofnodi dim ond dau allan o bedwar digwyddiad, o'i gymharu â chwech allan o wyth digwyddiad yn 2021.

Mae’n bosibl gweld yr adroddiadau yn llawn ar wefan CNC.