CNC yn cyhoeddi dyddiadau ymgysylltu ar gyfer pedwerydd Parc Cenedlaethol arfaethedig yng Nghymru

Llun wedi ei dynnu o lwybr Cenedlaethol Clawdd Offa ar lethrau gogleddol Moel Fenlli

Anogir pobl i wneud cofnod yn eu calendrau wrth i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) gyhoeddi dyddiadau cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu ar-lein ac wyneb yn wyneb, lle gallant fynegi eu barn am fap Ardal Chwilio gychwynnol ar gyfer Parc Cenedlaethol newydd arfaethedig yng Ngogledd-Ddwyrain Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu CNC, fel yr Awdurdod Dynodi yng Nghymru, i werthuso’r achos dros Barc Cenedlaethol newydd yn seiliedig ar Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) bresennol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Bydd yr achos dros Barc Cenedlaethol newydd yn cael ei ystyried o fewn tymor presennol y Senedd (2021-2026). 

Cynhelir y digwyddiadau ymgysylltu ym mis Hydref a mis Tachwedd 2023 a byddant yn gyfle i ddysgu mwy am y prosiect, i ofyn cwestiynau i’r tîm a rhannu adborth ar fap cynnar o’r ardal sy’n cael ei hasesu.

Meddai Ash Pearce, Rheolwr y Prosiect:

Bydd ymgynghoriad llawn ar y map ffiniau arfaethedig yn digwydd yn 2024 pan fyddwn wedi cwblhau ein hasesiadau. Ar hyn o bryd mae'r map yn diffinio'r ardal lle byddwn yn canolbwyntio ein gwaith asesu, mae gennym ddiddordeb mewn gwrando ar safbwyntiau'r holl randdeiliaid a'u deall. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn y prosiect i ddod i un o'n digwyddiadau ar-lein neu i ddigwyddiad galw heibio wyneb yn wyneb i gael gwybod mwy am y gwaith ydym yn ei wneud a rhannu eich adborth â ni drwy lenwi holiadur.

Bydd y cyfnod ymgysylltu yn rhedeg o ddydd Llun 9 Hydref tan 23:59 ddydd Llun 27 Tachwedd 2023. Dim ond un digwyddiad fydd angen i bobl ei fynychu, boed hynny ar-lein neu wyneb yn wyneb gan y bydd yr wybodaeth sy’n cael ei rhannu yr un fath ar gyfer pob digwyddiad.

Digwyddiadau ymgysylltu — Mis Hydref a Mis Tachwedd 2023:

Dyddiad Amser Math o ddigwyddiad Lleoliad 
Dydd Mercher, 11 Hydref *1yh – 7yh Wyneb yn wyneb (galw heibio) Canolfan Ceiriog, Ffordd Newydd, Glyn Ceiriog, Llangollen LL20 7HE
Dydd Iau, 19 Hydref 6yh — 7.30yh Ar-lein ar Microsoft Teams
Dydd Sadwrn, 28 Hydref *10yb – 4yh Wyneb yn wyneb (galw heibio) Neuadd Bentref Llanbedr, Llanbedr-Dyffryn-Clwyd, Rhuthun LL15 1UP
Dydd Llun, 6 Tachwedd *1yh – 7yh Wyneb yn wyneb (galw heibio) Pwyllgor Institiwt Cyhoeddus, Park View/Stryd Fawr, Llanfyllin SY22 5AA
Dydd Mawrth, 14 Tachwedd 6yh — 7.30yh Ar-lein ar Microsoft Teams
Dydd Sadwrn, 18 Tachwedd *10yb – 4yh Wyneb yn wyneb (galw heibio) Neuadd y Dref Llangollen, Stryd y Castell, Llangollen LL20 8NU
Dydd Mercher, 22 Tachwedd  *1yh – 7yh Wyneb yn wyneb (galw heibio) Neuadd Goffa Trelawnwyd, The Record Journal, Trelawnyd LL18 6DN

*Galwch heibio unrhyw adeg rhwng yr amseroedd hyn.

Anogir pobl i alw draw i’r digwyddiadau wyneb yn wyneb, nid oes angen archebu lle. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn un o’r digwyddiadau ar-lein, anfonwch e-bost at dîm y prosiect yn rhaglen.tirweddau.dynodedig@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk a nodwch eich buddiant (e.e. preswylydd, arweinydd cymunedol, tirfeddiannwr, ffermwr, perchennog busnes, cynrychiolydd sefydliad ac ati) a pha ddigwyddiad sydd o ddiddordeb i chi (y dyddiad). Bydd y rhain yn ddigwyddiadau dwyieithog ac mae croeso i chi gyfrannu yn Gymraeg.

Rydym wedi paratoi canllawiau gweithdrefnol sy’n nodi’r broses statudol sydd raid ei dilyn. Mae’r rhain yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn caniatáu ymgysylltu ag ymgyngoreion statudol, y cyhoedd a rhanddeiliaid eraill. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am y prosiect a’r broses werthuso, ewch i’r wefan yn: https://ymgynghori.cyfoethnaturiol.cymru/north-east-gogledd-ddwyrain/tudalen-wybodaeth-prosiect-dynodi-parc-cenedlaetho