Anrhydedd i arbenigwr mawndir Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae Uwch Arbenigwr Mawndir Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cael ei anrhydeddu yn rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Brenin.

Bydd Peter Jones, o Ynys Môn, yn derbyn MBE i gydnabod ei wasanaeth i Fawndiroedd Cymru ac i'r gymuned yng Nghymru.

Peter Jones yw Uwch Gynghorydd Arbenigol CNC ar gyfer ecosystemau mawndir ledled Cymru. Dros yrfa ddisglair saith mlynedd ar hugain o hyd, mae Peter wedi chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu ein dealltwriaeth o ecosystemau mawndir, ac wrth weithio i’w hamddiffyn.

Mae mawndiroedd - sy’n ecosystemau hanfodol sy'n storio llawer iawn o garbon ac yn cefnogi bioamrywiaeth unigryw - wedi dod yn fwyfwy pwysig yn y frwydr fyd-eang yn erbyn y newid yn yr hinsawdd. Roedd Peter hefyd yn allweddol wrth sefydlu'r Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd, rhaglen sy'n cael ei darparu gan CNC a'i hariannu gan Lywodraeth Cymru ac sydd, gyda chefnogaeth llawer o bartneriaid, yn adfer mawndiroedd ledled Cymru i helpu i fynd i'r afael â'r argyfyngau natur a hinsawdd.

Graddiodd Peter gyda Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Botaneg ac mae ganddo ddoethuriaeth mewn ecoleg gwlyptiroedd - y ddau o Brifysgol Caerdydd. Mae'n briod gyda dau o blant ac yn byw yng Nghapel Coch ar Ynys Môn, ar gyrion Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Erddreiniog - un o fawndiroedd iseldir mwyaf Cymru.

Y tu allan i'r gwaith mae'n aelod o griw glannau'r RNLI yng Ngorsaf Bad Achub Moelfre ar Ynys Môn.

Wrth siarad am dderbyn ei lythyr yn dweud wrtho ei fod wedi derbyn yr anrhydedd, dywedodd Peter:
"Roedd yn gwbl annisgwyl - nid yw'n teimlo'n wir. Mae’n fraint enfawr. Ond dim ond un o lawer ydw i - mae llu o bobl ymroddedig yn CNC sy'n gweithio i ddiogelu a gwella ein mawndiroedd hynod, ynghyd ag amgylchedd ehangach Cymru.
Ychwanegodd Clare Pillman, Prif Weithredwr CNC:
"Rwyf wrth fy modd bod Pete wedi cael yr anrhydedd hwn gan ei fod yn gydnabyddiaeth o bwysigrwydd gweithio er budd yr amgylchedd i'n cymdeithas. Drwy gydol ei yrfa, mae wedi gweithio’n ddiwyd i ddeall mawndiroedd, eu hadfer, a gwella’n dealltwriaeth a’n gwerthfawrogiad ni ohonynt."