Cerflun a wnaed o ddeunyddiau cyfansawdd cynaliadwy newydd yn amlygu pwysigrwydd mawndiroedd

Mae cerflun sy’n amlygu'r angen i ofalu am ein hamgylchedd naturiol wedi cael ei ddadorchuddio yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd.

Cafodd y cerflun ei wneud o ddeunyddiau cyfansawdd newydd, gan gynnwys gweiriau gwastraff o Warchodfa Natur Genedlaethol Cors Erddreiniog a chregyn gleision o Afon Menai, a chafodd ei ddatblygu gan yr artist Manon Awst o Ogledd Cymru gyda Chanolfan Biogyfansoddion Prifysgol Bangor.

Teitl y gwaith, a gefnogir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yw 'Cerfluniau Gludiog' ac mae'n archwilio cyfansoddiad unigryw mawndiroedd.

Mae Manon, a gafodd ei magu ar Ynys Môn ac sy’n arddangos ei gwaith yn rhyngwladol, wedi bod yn cynnal ymchwil safle-benodol yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Corsydd Môn a Chorsydd Llŷn ar y cyd ag arbenigwyr o Raglen Gweithredu Mawndiroedd Cenedlaethol Cyfoeth Naturiol Cymru, sef rhaglen strategol i adfer mawndiroedd yng Nghymru.

 

Er ei fod yn gorchuddio tua 4% yn unig o'r wlad mae mawndir Cymru yn storio 30% o garbon y tir. Amcangyfrifir bod cyflwr 90% o fawndiroedd Cymru yn dirywio, ac yn allyrru nwyon tŷ gwydr sy’n cyfrannu at newid hinsawdd, sy’n golygu bod gwaith adfer yn hanfodol.

Meddai Manon, sy’n astudio ar gyfer Doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor ac sy’n gweithio fel Cydlynydd Creadigol Gofodau Cyhoeddus yn Pontio, Canolfan Celfyddydau ac Arloesi’r Brifysgol: “Mae’r prosiect hwn yn garreg filltir i mi fel artist gan ei fod wedi rhoi’r cyfle i mi ddatblygu deunyddiau cerfluniol newydd, cynaliadwy.

“Rwyf wedi ehangu fy ymarfer trwy gydweithio â gwyddonwyr ac arbenigwyr ym maes ecoleg, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr am gael datblygu’r trywydd ymchwil hwn er mwyn i gelf allu dylanwadu ar y trafodaethau ynghylch tirwedd Cymru yn y dyfodol.

“Mae’r cyfansoddion yn cynnwys gweiriau gwastraff o Gors Erddreiniog, wedi’u mwydo a’u trawsnewid yn ‘biochar’, cregyn gleision mâl ac alginad sy’n deillio o wymon. Mae'r rhain wedi'u bwrw i nifer o haenau arbrofol wrth i mi chwilio am y gymysgedd gywir.

“Rwyf wrth fy modd fy mod wedi gallu dangos fy ngwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol a gobeithio y gallwn gysylltu â chynulleidfaoedd amrywiol a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd mawndiroedd, nid yn unig yng Nghymru ond yn fyd-eang.”

Cafodd y cerflun, sy’n brototeip ar gyfer gwaith celf a fydd yn cael ei osod yng Nghorsydd Môn yn ddiweddarach eleni, ei ddadorchuddio ar stondin Cyfoeth Naturiol Cymru ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Llun, Awst 7 gan Clare Pillman , Prif Weithredwr CNC.

Gyda’i gilydd, Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Corsydd Môn a Chorsydd Llŷn yw’r crynodiad mwyaf pwysig a mwyaf eang o gynefin ffen-gyfoethog yng Nghymru a Gorllewin Prydain.

Gan gyfuno’r wybodaeth arbenigol sydd gan CNC am fawndiroedd a bioamrywiaeth, a thrwy gydweithio drwy bartneriaethau allanol cryf, mae prosiectau fel hwn yn cyfrannu at nod Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd i adfer ecosystemau gweithredol sydd, yn eu tro, yn diogelu ac yn atafaelu carbon ac yn ailsefydlu bioamrywiaeth.

Gall adfer mawndir gweithredol hefyd liniaru effeithiau eraill newid hinsawdd megis llifogydd a pherygl tân.

Yn y lansiad, dywedodd Mannon Lewis, sy’n arwain Rhaglen Mawndiroedd CNC: “Mae cydweithio arloesol fel hyn gyda Manon Awst, yn cyfrannu’n fawr at gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o fanteision mawndiroedd a’u hadferiad. Mae wedi bod yn bleser gweld y ffordd y mae’r artist dawnus yma wedi defnyddio ei chreadigrwydd i ymgysylltu â chymunedau, gwyddonwyr, rheolwyr tir, a’r cyhoedd trwy ei chelf a’i barddoniaeth unigryw.”