Adroddiad newydd yn darogan effaith tywydd poeth yn ninasoedd Cymru yn y dyfodol

Golygfa o ganol Caerdydd o'r awyr

Mae astudiaeth newydd yn darogan sut y bydd yn teimlo i bobl sy’n byw yng Nghaerdydd, Casnewydd a Wrecsam yn ystod cyfnodau o dywydd poeth yn y dyfodol.

2022 oedd y flwyddyn gynhesaf ar record yn y DU. Mae gwres eithafol yn achosi straen ar ein cyrff ac mae’n gallu arwain at drawiad gwres, gorludded, ac ar ei waethaf, marwolaeth. Amcangyfrifodd Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU fod y tymheredd eithafol yn ystod haf y flwyddyn honno wedi achosi bron i 3,000 o farwolaethau ychwanegol yng Nghymru a Lloegr.

Yn ôl rhagolygon yr hinsawdd UKCP18 y Swyddfa Dywydd, byddai gwres digyffelyb o’r fath yn cael ei ystyried yn flwyddyn reit oer erbyn 2100. Dyna pam y daeth grŵp o arbenigwyr o Gymru a Tsieina ynghyd i ddarogan sut y gallai cynnydd o’r fath mewn tymheredd effeithio ar bobl mewn tair dinas yng Nghymru yn y dyfodol.

Mae’r papur, sydd wedi’i adolygu gan gymheiriaid a’i gyhoeddi gan academyddion o Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Hong Kong, a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn darparu tystiolaeth newydd am straen gwres i awdurdodau lleol ei ystyried wrth geisio diogelu iechyd pobl rhag gwres difrifol.

Mae’r canlyniadau’n awgrymu bod disgwyl i straen gwres brig ar bobl gynyddu o 4.5 gradd Celsius erbyn 2080, yn enwedig mewn ardaloedd trefol sy’n agored i olau haul uniongyrchol. Ac mae disgwyl i ganran oriau’r dydd heb straen gwres leihau’n sylweddol, o 30-80% yn 2020 i 10–70% erbyn 2080. Mae’r gwerthoedd isaf mewn ardaloedd palmantog heb fawr o gysgod gan goed neu adeiladau cyfagos, a’r gwerthoedd uchaf mewn ardaloedd â mwy o gysgod, megis mannau gwyrdd gyda choed neu lonydd cul rhwng adeiladau uchel.

Yng Nghaerdydd er enghraifft, yr ardaloedd poethaf sy’n agored i straen gwres am y rhan fwyaf o’r dydd yw’r Aes, gorsaf drenau Caerdydd a Sgwâr Callaghan. Yr ardaloedd oeraf  yw’r ardaloedd hynny gyda mwy o gysgod, fel Parc Bute.

Defnyddiodd yr astudiaeth efelychiad cyfrifiadurol arloesol i asesu lefel y straen gwres sy’n cael ei brofi gan gerddwyr drwy greu ‘gefell digidol thermol’ o ardal 1 cilometr sgwâr yng nghanol trefol pob dinas. Adeiladwyd y model gan ddefnyddio data presennol o dirwedd a siapiau adeiladu, priodoleddau thermol arwynebau a brigdwf coed.

Daw’r papur i’r casgliad bod mesurau lliniaru yn hanfodol i leihau straen gwres yn y dyfodol yn ninasoedd a threfi Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys ymyriadau megis cynyddu mannau gwyrdd trefol, pyllau, llynnoedd, coed a chysgod artiffisial.

Dywedodd yr Athro Phil Jones o Ysgol Pensaernïaeth Cymru Prifysgol Caerdydd:

“Mae’r prosiect hwn yn ddatblygiad pwysig yn ein dealltwriaeth o gysur a lles yn yr awyr iach yn ein dinasoedd yn y dyfodol, ac ar yr un pryd yn cynnig dirnadaeth i ni o sut i liniaru eithafion yn y dyfodol.
“Roedd y gwaith hwn gyda CNC yn ein galluogi i ddefnyddio adnoddau modelu trefol sy’n cael eu datblygu drwy ein cydweithrediad â’r Athro Jianxiang Huang ym Mhrifysgol Hong Kong.
“Mae’n dangos pa mor bwysig yw defnyddio adnoddau o’r fath ac ystyried sut i fynd i’r afael ag unrhyw ymyriadau cynllunio yn ein dinasoedd, a phwysigrwydd eu rhoi ar waith heddiw er mwyn effeithio ar amgylcheddau dinesig y dyfodol.”

Dywedodd Peter Frost, Ymgynghorydd Seilwaith Gwyrdd Trefol Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Rydyn ni eisoes yn profi effeithiau newid hinsawdd, ledled y byd ac yma yng Nghymru gyda’r tywydd poethaf erioed wedi’i gofnodi yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
“Bydd effeithiau tywydd poeth yn y dyfodol yn beryglus iawn. Mae gwres gormodol hefyd yn amharu ar gysur ac yn tarfu ar weithgareddau awyr agored sy’n gysylltiedig â manteision iechyd hirdymor, fel ymarfer corff, ymgysylltu a mwynhau gwahanol lefydd.
“Rydyn ni’n gobeithio y bydd canlyniadau’r astudiaeth hon yn annog camau pendant i blannu mwy o goed mewn ardaloedd trefol er mwyn creu’r cysgod angenrheidiol fel bod ein dinasoedd yn parhau’n llefydd braf i fyw yn ystod y tywydd poeth sydd i ddod.
“Bydd yr un coed hefyd yn helpu ein cymunedau i wrthsefyll newid hinsawdd drwy amsugno carbon deuocsid a lleihau effaith stormydd a llifogydd drwy arafu llif dŵr glaw.”

Defnyddiwyd y model i ddarogan straen gwres fesul awr yn ystod diwrnod poethaf y flwyddyn ym 1984 (y gorffennol), 2020 (y gwaelodlin), 2050, a 2080 gan ddefnyddio data tywydd hanesyddol a rhagolygon ar gyfer y dyfodol.

Er mwyn amcangyfrif straen gwres, roedd y model yn dadansoddi data ar ymbelydredd, tymheredd yr aer, cyflymder y gwynt, lleithder, yn ogystal â chyfradd fetabolaidd ac inswleiddiad dillad pobl yn yr ardaloedd trefol hyn. Roedd hefyd yn ystyried tymheredd arwynebau waliau, tir, lawntiau, llwyni, nodweddion dŵr ac effaith cysgodol coed.

Mae’r papur, a gyhoeddir yn y cyfnodolyn Building and Environment, ar gael yn ac mae ar gael i’w lawrlwytho am ddim tan 14 Mawrth.