Poblogaeth newydd o fwsogl sy’n ffynnu ar fetelau trwm ac sydd dan fygythiad yn fyd-eang wedi’i chofnodi mewn hen fwyngloddiau

Mae poblogaeth newydd o blanhigyn hynod brin sy’n ffynnu mewn amgylcheddau o fetelau trwm wedi’i chofnodi yn dilyn gwaith adfer.  

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi bod yn gweithio i warchod glaswelltir metelaidd, un o nodweddion Ardal Cadwraeth Arbennig Mwyngloddiau Coedwig Gwydir, sy’n gorchuddio 139 hectar yn sir Conwy.

O fewn y goedwig mae cyfres o fwyngloddiau plwm a sinc segur ble mae tomenni rwbel wedi’u cytrefu gan laswelltir metelaidd, sy’n tyfu ar dir sy’n gyfoethog mewn metelau trwm, fel plwm, sinc, cromiwm a chopr, sy’n wenwynig i’r rhan fwyaf o rywogaethau o blanhigion.

Coedwig Gwydir yw’r lleoliad pwysicaf yn y byd i’r rhywogaeth brin, mwsogl y plwm, sy’n tyfu yn y math arbennig hwn o laswelltir. Y tu allan i Brydain ac Iwerddon mae’r unig boblogaethau eraill i’w cael yn ne-orllewin yr Almaen a Gwlad Belg.

Yn dilyn gwaith yn 2022 pan sgrafellwyd llecynnau arbrofol i ail-greu cynefinoedd addas, mae arolwg wedi darganfod poblogaeth newydd o’r mwsogl yn un o’r llecynnau.

Dywedodd Caroline Bateson, Cynghorydd Rheolaeth Gynaliadwy ar gyfer Tîm Amgylchedd Conwy CNC:

“Mae canlyniadau calonogol o arolwg diweddar yn dangos bod Gwydir yn dal i fod yn gadarnle o bwys byd-eang i fwsogl y plwm, gan gynnwys poblogaeth newydd ar un o’r sgrafellau o’n gwaith.
“Mae creigiau yn y llecynnau a sgrafellwyd â llaw yn cynnig cysgod a micro-gynefin i’r mwsogl sydd dan fygythiad o ddiflannu yn fyd-eang ac sydd wedi’i nodi fel rhywogaeth sydd mewn perygl ar y Rhestr Goch o Rywogaethau dan Fygythiad gan yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur.
“Mae yna lawer o ddirgelwch o hyd o barth y mwsogl, gan gynnwys ei ddosbarthiad tameidiog yng Nghoedwig Gwydir, gyda rhai yn credu ei fod wedi ei wasgaru gan esgidiau’r mwyngloddwyr.”

Bydd yr arolwg, a ariannwyd drwy gyllid Cronfeydd Bioamrywiaeth ar gyfer Cydnerthedd Ecosystemau, yn helpu i lywio gwaith rheoli CNC ar yr Ardal Cadwraeth Arbennig yn y dyfodol.

Mae gwaith hefyd wedi’i wneud yn ddiweddar i wella’r cynefin ymhellach.

Ychwanegodd Caroline:

“Yn ddiweddar fe wnaethon ni dynnu coed conwydd a phrysgwydd o’r ardal bwysicaf ble mae’r mwsogl yn tyfu. Mae ymlediad prysgwydd a chwymp nodwyddau o goed conwydd mawr yn effeithio ar y planhigion prin hyn sy’n dibynnu ar amodau agored.
“Ry’n ni’n gobeithio y bydd y gwaith hwn yn gwella poblogaethau ymhellach ac yn eu hamddiffyn o hyn allan.
“Bydd y gwaith diweddaraf hwn hefyd yn helpu i warchod brithwaith gwerthfawr o wahanol gynefinoedd gwlyptir a mawndir, sy’n storio carbon y pridd, gan helpu i ddiogelu a storio carbon.”

Dechreuwyd cloddio am blwm, sinc ac arian ar raddfa fach yng Ngwydir mor gynnar â chyfnod y Rhufeiniaid, gyda’r cyfnod mwyaf dwys o gloddio rhwng y 1800au a 1960.