Cymorth newydd wrth adrodd am lygredd - cyflwyno arwyddion i helpu i amddiffyn afonydd ym Mro Morgannwg
Bellach bydd pobl sy'n cerdded ger afonydd ym Mro Morgannwg yn dod o hyd i arwyddion newydd a ddyluniwyd i'w gwneud hi'n gyflymach ac yn haws i adrodd am lygredd a amheuir.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi ehangu ei rwydwaith o arwyddion adrodd am lygredd, gan osod wyth arwydd arall ger pontydd allweddol a phwyntiau mynediad i afonydd ar draws yr ardal.
Mae'r symudiad yn adeiladu ar dreial y llynedd, a cheisiodd brofi a allai gwybodaeth glir, benodol i’r lleoliad helpu'r cyhoedd i adrodd am faterion yn gyflymach ac yn fwy cywir.
Dros y pum mlynedd diwethaf, mae CNC wedi gweld cynnydd yn nifer y digwyddiadau llygredd yr adroddir arnynt. Er bod hyn yn adlewyrchu ymwybyddiaeth a phryder cynyddol y cyhoedd o ran iechyd afonydd, mae swyddogion CNC yn dweud bod llawer o achosion, yn enwedig mewn ardaloedd mwy gwledig, yn parhau i fod heb eu hadrodd amdanynt neu'n anodd eu canfod ar adeg eu galw i mewn.
Nod yr arwyddion newydd yw newid hynny, drwy roi'r manylion hanfodol sydd eu hangen ar bobl wrth law: y llinell gymorth digwyddiadau 24 awr a'r cyfeirnod grid union ar gyfer y fan lle maen nhw'n sefyll.
Eleni, mae wyth arwydd ychwanegol wedi cael eu gosod yn:
- Afon Ddawan – Y Bont-faen a Llanfleiddan
- Afon Tregatwg - Dinas Powys
- Nant Sili – Cosmeston
- Afon Aberthin – Aberthin
- East Brook – dau arwydd yn Ninas Powys
Meddai Alex Grainger, Swyddog Amgylchedd CNC:
“Ni allwn fod ar lan pob afon 24 awr y dydd, felly mae ymateb i ddigwyddiadau yn dibynnu’n fawr ar bobl yn adrodd am yr hyn maen nhw’n ei weld, ac yn adrodd arno cyn gynted â phosibl.
“Mae’r arwyddion hyn yn rhoi hyder i bobl eu bod nhw’n ffonio’r rhif cywir ac yn rhoi’r manylion cywir. Po fwyaf cywir yw'r wybodaeth, y gorau yw ein siawns o ddod o hyd i'r llygredd, olrhain y ffynhonnell, cyfyngu ar yr effaith a chasglu tystiolaeth ar gyfer unrhyw gamau gorfodi y gallai fod angen i ni eu cymryd.”
Mae CNC yn gobeithio y bydd y cyflwyniad parhaus yn cefnogi ei ymateb i ddigwyddiadau, yn ogystal â helpu i feithrin ymdeimlad cryfach o gyfrifoldeb ar y cyd dros amddiffyn dyfrffyrdd lleol.
Dylai unrhyw un sy'n gweld arwyddion o lygredd – fel arogleuon anarferol, afliwiad, pysgod marw neu weddillion olewog – gysylltu â CNC ar unwaith drwy ei linell gymorth digwyddiadau 24 awr: 03000 65 3000 neu rhowch wybod ar-lein.