Tîm newydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn bwriadu arolygu 800 o ffermydd

 Arweinydd Tîm CoAPR Simon Griffiths a Nicola Mills

Mae tîm sydd newydd ei sefydlu yn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn bwriadu archwilio dros 800 o ffermydd yn 2024 i helpu i leihau effaith llygredd amaethyddol.

Mae’r tîm yn dechrau gweithio ar raglen o arolygu ffermydd ledled Cymru i asesu eu cydymffurfiaeth â Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol (CoAPR) a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r tîm, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, wedi cael ei rannu yn adrannau Gogledd a De Cymru i sicrhau gwasgariad cyfartal ar draws Cymru. Mae pob swyddog wedi cael hyfforddiant helaeth a bellach maen nhw’n arolygu gweithgareddau amaethyddol risg uchel fel y cytunwyd â Llywodraeth Cymru. Mae gweithgareddau risg uchel yn cynnwys ffermydd sy’n cynhyrchu, storio neu ddefnyddio lefelau uchel o wrteithiau organig sy’n cynnwys gweddillion treulio, biosolidau a mathau eraill o wrtaith a ailddefnyddir ar y tir.

Lle nodir diffyg cydymffurfio, cynghorir y ffermwr yn ysgrifenedig o'r camau y mae angen iddynt eu cymryd i ddychwelyd i gydymffurfiaeth, yn unol â'n polisi gorfodi ac erlyn cyhoeddedig.

Meddai Nicola Mills, Arweinydd Tîm CoAPR ar gyfer De Cymru:

"Mae ein tîm arolygu CoAPR yn edrych ymlaen at gwrdd â chynifer o ffermwyr ag sydd bosibl yn 2024 a gweithio gyda nhw i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r rheoliadau hyn. Maen nhw wedi dod o gefndiroedd amrywiol gan gynnwys cyrff arolygu eraill, ac maen nhw i gyd yn unigolion gwybodus, brwdfrydig a gweithgar.

"Mae cyflwyno'r tîm hwn yn gam sylweddol ymlaen yn ein gallu i reoleiddio CoAPR yn effeithiol ar ran Llywodraeth Cymru, a chyfrannu at ymrwymiad ehangach CNC i weithio gyda phartneriaid i lanhau ein hafonydd a'n moroedd."

Bydd ffermwyr bob amser yn cael rhybudd rhesymol, fel arfer yn ysgrifenedig, cyn unrhyw archwiliadau cydymffurfio arfaethedig, yn nodi'r hyn y bydd swyddogion yn bwriadu ei archwilio. Yr unig amser y byddai swyddogion yn galw'n ddirybudd yw pe byddent yn ymateb i adroddiad o lygredd.

Mae’r arolygiadau yn cwmpasu pob agwedd ar CoAPR gan gynnwys safonau adeiladu a’r gallu i storio silwair, tail solet a strwythurau slyri, cyfrifiadau gofynnol, mapiau risg, cynlluniau nitrogen a chofnodion taenu. 

Meddai Simon Griffiths, Arweinydd Tîm CoAPR Gogledd Cymru:

"Gallwn sicrhau ffermwyr nad yw archwiliadau cydymffurfio CoAPR yn ddim i’w ofni. Nid ydym yn dymuno ychwanegu at y pwysau sydd ar ffermwyr yn ddiangen.
"Byddwn bob amser yn rhoi rhybudd rhesymol, fel arfer yn ysgrifenedig, i ffermwyr cyn cynnal unrhyw archwiliadau cydymffurfio arfaethedig gan nodi'r hyn y bydd swyddogion yn dymuno ei archwilio.
“Rydym am weithio mewn ffordd bositif gyda ffermwyr drwy eu gwneud yn ymwybodol o newidiadau y mae angen eu gwneud, darparu cyngor, a'u cyfeirio at fannau lle gallant gael cymorth fel Cyswllt Ffermio. Lle mae'r fferm yn peri risg sylweddol o lygru, ni fydd gennym ddewis arall ond cymryd camau gorfodi.”

Mae cyngor i ffermwyr ar gael ar wefan CNC: https://naturalresources.wales/guidance-and-advice/business-sectors/farming/?lang=cy.

Mae cymorth i ffermwyr ar gael drwy Cyswllt Ffermio: https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy

Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol Llywodraeth Cymru: https://www.llyw.cymru/rheoliadau-adnoddau-dwr-rheoli-llygredd-amaethyddol-cymru-2021-canllawiau-ar-gyfer-ffermwyr